Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pont y Borth i Ynys Môn yn ailagor wedi gwaith atgyweirio
Mae Pont y Borth wedi ailagor rhwng Ynys Môn a Gwynedd, wedi iddi fod ar gau am fisoedd oherwydd bod angen atgyweirio brys.
Cafodd y bont ei chau'n sydyn ddiwedd Hydref, gyda dim rhybudd i drigolion lleol, oherwydd bod angen gwneud "gwaith cynnal a chadw hanfodol".
Fe wnaeth hynny achosi trafferthion i fusnesau a theithwyr yr ardal, gan mai Pont Britannia oedd yr unig ffordd ar agor wedyn i gerbydau rhwng yr ynys a'r tir mawr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn falch o weld bod y gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd Ionawr, fel gafodd ei addo, gan gydnabod fod y gwaith wedi "effeithio" ar bobl leol.
Ychwanegodd Cyngor Môn y bydd ailagor y bont yn "rhyddhad i'r nifer fawr o fusnesau, trigolion a chymudwyr" gafodd eu heffeithio.
'Dim ond croesi pan oedd angen'
Cafodd Pont y Borth - sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Pont Menai - ei dylunio gan Thomas Telford a'i hagor yn 1826.
Am dros ganrif a hanner honno oedd yr unig ffordd oedd yn cysylltu Ynys Môn a gweddill Cymru, tan i ffordd gael ei hychwanegu ar ben rheilffordd Pont Britannia yn 1980.
Mae Lyn Davies yn gweithio ym Mhorthaethwy, ac un o'r rheiny fydd yn falch o weld Pont y Borth yn ailagor wedi'r gwaith atgyweirio.
"'Dan ni'n gorfod meddwl pa bryd 'da ni'n mynd drosodd, mewn ffordd, efo cymaint o giws [ar Bont Britannia]," meddai.
"Mae'r dref 'ma hefyd wedi mynd yn ofnadwy o dawel… mae fatha does 'na neb o gwmpas. Mae wedi taro busnesau."
Ychwanegodd Sharon Jones, un arall o'r trigolion, fod y tagfeydd ar Bont Britannia yn sgil cau Pont Menai wedi arwain at lawer o oedi i bobl yn yr ardal dros y misoedd diwethaf.
"Mae wedi bod yn eitha' trafferth i bobl leol, yn enwedig pobl sydd isio mynd drosodd am apwyntiadau yn Ysbyty Gwynedd, neu ddeintydd neu rywbeth felly," meddai.
"Fy hun yn bersonol dwi wedi tueddu i aros ar yr ynys, a 'mond mynd drosodd os ydi o'n hollol angenrheidiol.
"Ond wrth ddeud hynny mae 'na rywbeth positif wedi dod allan i mi o'r peth, drwy bo' fi'n darganfod siopau bach lleol toeddwn i ddim yn gwybod amdanyn nhw."
'Gwaith pwysig a chymhleth'
Er i'r bont gael ei chau ym mis Hydref, wnaeth y gwaith atgyweirio ddim dechrau tan fis Ionawr, gan gymryd pedair wythnos i gwblhau.
Ar y pryd dywedodd Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters, sydd hefyd yn gyfrifol am drafnidiaeth, fod y penderfyniad i gau'r bont yn seiliedig ar "gyngor clir gan beirianwyr strwythurol a sgyrsiau gyda'r heddlu".
"Mae'r peryg o ddigwyddiad trychinebus yn digwydd i'r bont yn dal yn isel ond mae'n rhy uchel i ni allu ei risgio," meddai.
Arweiniodd hynny at gyfnod rhwystredig yn arwain at y Nadolig i fusnesau Porthaethwy, gyda mesurau fel bysus gwennol a pharcio am ddim yn cael eu cyflwyno i geisio denu cwsmeriaid i'r dref.
Ddydd Iau, toc wedi hanner nos, cafodd Pont y Borth ei hailagor yn swyddogol i gerbydau sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n parhau weithio gyda'r peirianwyr ar gam nesaf y gwaith, er mwyn ailagor y bont i bob cerbyd.
Ond does dim disgwyl i hynny gael ei gwblhau tan o leia'r hydref eleni, gyda gwaith pellach i "ddechrau ar ddiwedd yr haf".
"Er gwaethaf yr amodau tywydd heriol, rwy'n falch ein bod wedi gallu cwblhau'r gwaith adfer hynod bwysig a chymhleth hwn ar amser," meddai Mr Waters.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol ac i bawb y mae cau'r bont wedi effeithio arnynt am eu hamynedd yn ystod y cyfnod yma."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn eu bod yn croesawu ailagor y bont i draffig.
"Daw'r newyddion fel rhyddhad i'r nifer fawr o fusnesau, trigolion a chymudwyr sydd wedi eu heffeithio ers i'r bont gau ym mis Hydref 2022," meddai.
"Rydym yn derbyn, fodd bynnag, y bydd angen rhagor o waith ar y bont maes o law.
"Bydd y cyngor sir yn mynd ati i ddylanwadu'n gadarnhaol ar amseriad y gwaith a rheolaeth traffig yn ystod ail gymal y gwaith, er mwyn sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosib ar dref Porthaethwy a'r ynys yn ehangach."