Aberllefenni: Tenantiaid yn poeni am bris rhent newydd

Disgrifiad o'r llun, Pryder y Cynghorydd John Roberts ydy "mai'r bwriad ydy codi'r rhent mor uchel fel bod y tenantiaid yn gorfod symud allan"
  • Awdur, Mari Grug
  • Swydd, 大象传媒 Cymru

Mae perchennog newydd tai yn Aberllefenni yn dweud y bydd rhent pob un o'r tenantiaid yno yn codi.

Cafodd rhes o dai a bythynnod yn y pentre bychan ger Corris eu prynu gan Walsh Investment Properties fis Hydref. Roedden nhw ar werth am tua 拢1m.

Ar y pryd, fe ddywedodd cynghorydd cymuned lleol bod hi'n "hynod bwysig nad yw rhenti hen dai a bythynnod chwarelwyr yn codi".

Ond yn 么l Walsh Investment Properties, "mae'n deg a rhesymol codi [rhenti] i werth y farchnad".

Mae 大象传媒 Cymru yn deall bod rhai tenantiaid wedi derbyn llythyron gorchymyn troi allan (eviction notices) gydag un t欧 yn wynebu cynnydd o dros 60% ym mhris eu rhent gan y perchennog newydd.

Mae nifer o'r tenantiaid wedi dweud eu bod yn poeni am allu talu'r swm newydd, gyda'r rhent yn codi hyd at 拢250 yn ychwanegol y mis i rai aelwydydd.

Doedd y cwmni ddim am wneud sylw am y llythyron gorchymyn troi allan.

'Pawb yn y pentref yn pryderu'

Dywedodd John Pughe Roberts, cynghorydd sir ar gyfer Aberllefenni, ei fod yn "siomedig iawn" bod codi'r rhent wedi digwydd "mor sydyn ar 么l gwerthu".

"Mae rhai pobl sy'n byw yn y tai yn fregus iawn ac yn mynd i'w chael hi'n anodd ffeindio'r arian i dalu'r gwahaniaeth," meddai.

"Ar hyn o bryd, ni'n trio cydweithio rhywfaint gyda Chyngor Gwynedd i geisio rhoi cymorth i'r tenantiaid gan ddechrau gyda'r rhai mwyaf bregus, i atal pobl rhag mynd yn ddigartref.

"Mae pawb yn y pentref yn pryderu, rhai yn fwy na'i gilydd oherwydd y swm amrywiol mae'r rhent yn mynd i fyny.

"Mae enghreifftiau lle mae rhai [yn dweud] eu bod yn gorfod talu 拢50 y mis yn fwy na'i gilydd am union yr un t欧 - mae eraill heb gael cysylltiad o gwbl gan y cwmni."

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y tai eu codi er mwyn darparu llety i'r chwarelwyr a oedd yn gweithio'n lleol

Dydy'r cwmni "heb fod yn broffesiynol iawn", meddai. "Sut maen nhw'n asesu'r tai a hefyd yr eviction notice gafodd ei roi i bobl cyn y Nadolig?"

Ychwanegodd y Cynghorydd Roberts bod angen i'r cwmni fod yn "fwy agored gyda ni yngl欧n 芒'r broses yma a pham bod rhent rhai wedi codi gymaint".

"Mae'n rhaid i'r tenantiaid i gyd gael gwybod beth sy'n digwydd cyn gynted 芒 phosib," meddai.

"Dwi'n poeni mai'r bwriad ydy codi'r rhent mor uchel fel bod y tenantiaid yn gorfod symud allan."

Cafodd y tai, rhes o naw ac amryw fythynnod, eu codi er mwyn darparu llety i'r chwarelwyr a oedd yn gweithio yn Aberllefenni.

Ers blynyddoedd, mae'r rhent wedi aros yr un fath gyda rhai yn byw yn y tai ers dros 20 o flynyddoedd.

O dan ofalaeth y perchennog blaenorol, John Lloyd, bu'r rhent yn codi 3% bob blwyddyn, ers blwyddyn neu ddwy.

'Adeiladu perthynas gref'

Dywedodd Chris Walsh, ar ran Walsh Investment Properties: "Gallwn gadarnhau nad ydym wedi codi unrhyw renti hyd yma, fodd bynnag rydym yn bwriadu codi'r holl renti i ddod 芒 nhw yn unol 芒 gwerthoedd cyfredol y farchnad.

"Mae'r rhan fwyaf o'r eiddo wedi bod yn talu rhent isel ers nifer o flynyddoedd, yn anffodus nid yw hyn yn gynaliadwy yn yr economi bresennol. Teimlwn ei bod yn deg ac yn rhesymol codi i'r rhent marchnad.

"Arolygwyd pob eiddo ym mis Ionawr 2023 i'n galluogi ni i gynllunio unrhyw waith uwchraddio gofynnol, a disgwylir i'r gwaith hwn ddechrau yn y dyfodol agos.

"O 1 Chwefror, rydym yn rheoli'r eiddo ein hunain. Credwn y bydd hyn yn ein galluogi i gael gwell dealltwriaeth o sefyllfa pob tenant unigol.

"Y gobaith, trwy wneud hyn yw lliniaru unrhyw ddiffyg cyfathrebu neu ddiffyg dealltwriaeth. Bydd hyn hefyd yn caniat谩u i ni adeiladu perthynas gref a chynaliadwy gyda'n holl denantiaid."