Al Lewis: 'Y cysur sy' mewn creadigrwydd'
- Cyhoeddwyd
"Mae dod ar draws rhywun sy'n deall y golled 'na mewn oedran iau yn rhywbeth cysurus iawn, i fedru edrych mewn i lygaid rhywun a meddwl, ti'n gwybod beth dwi wedi bod trwyddo."
Wedi colli ei dad yn 21 oed, mae'r canwr Al Lewis yn angerddol am y lles mae siarad yn agored am golled a defnyddio creadigrwydd i brosesu galar yn ei wneud.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae'n teimlo'n dda i drafod y peth ac i siarad efo rhywun sy'n deall sut ti'n teimlo. Mae'r rhan fwya' o bobl yn ffodus, dydy nhw ddim yn colli rhywun nes bod nhw falle yn eu 50au neu 60au.
"Mae pobl yn s么n am y Dead Parent Club, bod chi'n gwybod yn syth bod y cysylltiad yna rhyngddo chi, bod chi'n gwybod beth 'da chi 'di bod trwy. Dwi o hyd wedi ffeindio ffrindiau sy' wedi dod yn ffrindiau agos oherwydd bod nhw wedi profi galar mewn rhyw ffordd neu wedi colli rhywun ac mae'r teimladau 'na'n aros efo ti."
Oherwydd hyn mae Al wedi cychwyn trafod a rhannu ei brofiad o alar ar bodlediad newydd, Feels like Healing, gyda phobl creadigol eraill sy' hefyd wedi defnyddio eu creadigrwydd i ddelio gyda colled.
Mae'n esbonio: "Dwi'n trafod galar a'r cysylltiad llesol fedrith rhywun neud rhwng creadigrwydd a galar. Ac mae modd defnyddio creadigrwydd fel ffordd i brosesu a deall galar - a deall eich hunain weithiau."
Rhannu
Yn y bennod ddiweddaraf mae Al yn siarad gyda'r actores Hannah Daniel, y berfformwraig Carys Eleri a'r cyfarwyddwr Gavin Porter am eu profiadau.
Dywedodd Al: "O'n i'n ffodus yn cael y gwesteion yma'n fodlon bod yn agored a thrafod eu profiadau nhw - dyna beth o'n i isho oedd cael y drafodaeth allan yn yr agored fel bod pobl falle sy' adre sy' ddim efo'r gallu i drafod, yn medru clywed y straeon yma a ddim teimlo mor unig yn eu teimladau nhw.
"O'n i yn y gwch yna am flynyddoedd maith a dim ond yn ddiweddar dwi wedi ffeindio'r gallu i agor fyny am fy mhrofiadau i. Dyna pam o'n i isho siarad efo pobl eraill gan sylweddoli mod i'n 'nabod lot o bobl creadigol oedd wedi colli rhywun a felly bod o'n amlwg bod rhywbeth wedi sbarduno nhw i fynd am fywyd creadigol hefyd.
"Mae hynna'n rhywbeth fedrith pobl uniaethu efo dim ots pa wlad ydy nhw."
Ac mae'n amlwg yn bwnc sy'n taro tant gyda'r podlediad wedi bod ar frig y siartiau podlediadau mewn nifer o wledydd gan gynnwys Gwlad Thai ac Wcr谩in.
Beth, felly, sy'n cysylltu creadigrwydd gyda galar?
Meddai Al: "Mae'r diffyg gallu sy' gan nifer helaeth ohonon ni i siarad am y peth yn creu ynddo ni bron y pressure cooker yma a 'da ni angen cael gwared o'r hyn 'da ni'n deimlo mewn rhyw ffordd.
"Os 'da ni'n methu trafod y peth rhyngddo ni, teulu a ffrindiau, mae'n rhaid iddo ddod allan mewn ffordd arall a dyma lle mae creadigrwydd yn camu mewn i'r bwlch. Mae ysgrifennu neu cyfansoddi yn ffordd i ni fedru ategu ein hunain a rhoi rhywbeth lawr ar bapur.
"Mae'r pwysedd yna, y pressure cooker 'na, yn y meddylfryd yn mynd wedyn oherwydd ti wedi gallu ei roi lawr ar bapur mewn rhyw ffordd."
Mae Al yn dweud na fyddai wedi medru siarad mor agored am ei brofiad o golli ei dad tan y ddwy flynedd ddiwethaf. Sylweddolodd nad oedd o wedi delio gyda'r golled pan wnaeth o orfod gwerthu t欧 ei dad a chychwyn ateb cwestiynau ei ferch am ei thaid.
Dechreuodd gyfansoddi caneuon am ei dad ac yn 么l y canwr: "'Oedd hwnna'n broses hynod o llesol i fi - dwi'n meddwl bod y broses creadigol wedi lleddfu'r poen i ryw raddau."
Help i siarad
Mae trafod ei brofiad o golled a chreadigrwydd yn y podlediad hefyd wedi bod yn help mawr, fel mae'n cydnabod: "Pan ni'n gorffen y trafodaethau yma mae pawb yn dweud ''nes i rili fwynhau hwnna'.
"Mae'n teimlo fel brawddeg od ar 么l trafodaeth am golled a galar - ond mae fel cael rhywbeth i ffwrdd o dy fron.
"Yn y gorffennol o'n i bron yn teimlo mod i methu bod yn fi fy hun wrth siarad efo pobl oherwydd mod i'n cuddio rhan enfawr o mywyd i allan o'r drafodaeth. Dwi'n teimlo fel bod 'na bwysedd mawr wedi cymryd o'n ysgwyddau i a dwi'n medru bod yn fi eto a bod yn onest efo pobl.
"Mi oedd 'na debygolrwydd mewn ffyrdd wahanol (gyda'r gwesteion) - gyda Carys (Eleri) mi oedd ei thad hi wedi dioddef o motor neurone disease ac mae'n gyflwr sy' ddim yn or wahanol i ryw raddau i'r cyflwr gath fy nhad i sef multiple sclerosis.
"Yn yr un ystyr mae'r dirywiad corfforol yn digwydd - mi oedd y ffordd oedd hi'n disgrifio ei thad hi yn mynd i gadair olwyn, 'nath hynny ddigwydd i'n nhad i hefyd. A chlywed hi'n s么n am y dirywiad 'na o'r dyn cryf yn troi mewn i ddyn tenau iawn mewn cadair olwyn - oedd hwnna'n dod 芒 lot o atgofion n么l i fi.
"'Oedd yr erthygl oedd Hannah wedi ysgrifennu ar gyfer Vogue lle 'oedd hi'n trafod colled ei thad hi, roedd hynna'n canu cloch efo 'mhrofiadau i - y ffordd oedd hi'n disgrifio bod o'n chwalu eich bywyd chi a'r hyn 'da chi'n disgwyl allan o fywyd.
"Dyna beth digwyddodd i fi. Mae'r planiau 'na 'da chi'n neud yn eich 20au cynnar o sut 'da chi'n disgwyl i fywyd troi allan - mae hynny i gyd yn cael ei daflu allan o'r ffenest i ryw raddau.
"'Da chi'n medru cymryd rhywbeth allan o straeon pawb, mae 'na rhywbeth allwch chi uniaethu efo."
Mae Al hefyd yn dweud fod y podlediad yn dangos fod rhywbeth positif yn gallu dod o golled a galar: "Mae'r positifrwydd yn dod mewn dau ffordd - bod 'na rhyw fath o gelf wedi cael ei greu. Mae celf o hyd yn rhywbeth positif, mae'n rhywbeth sy' yma am byth.
"Ond hefyd y positifrwydd dwi'n teimlo yw'r cryfder mae galar yn rhoi i ti - bron bod o'n rhoi rhyw arf i chi a bod chi'n teimlo'n gryfach o hynny. Chi ddim efo cymaint o ofn o bobl yn gwrthod chi neu'n dweud bod nhw ddim yn hoff iawn o'ch gwaith chi - oherwydd dyw'r poen yna byth yn mynd i fod cyfystyr a'r poen o'r galar."
Cyngor
Felly ar 么l clywed profiadau amryw o bobl o golled a galar, beth fyddai cyngor Al ar gyfer unrhyw un sy' mewn galar?
Meddai: "Fy nghyngor i fuase i gadw'ch ffrindiau a'ch teulu yn agos a pheidio bod ofn i ddim fod yn iawn ac i gyfleu hynny i bobl. Peidio bod ofn i gymryd cymorth gan bobl - i fod yn agored a gadael i'r poen fod ar yr wyneb a pheidio cuddio'r peth. Dyna faswn i'n dweud taswn i'n siarad 芒 fi fy hun 20 mlynedd yn 么l."
Gwrandewch ar Al Lewis yn siarad am alar a'i bodlediad newydd ac yn perfformio ar Bore Cothi .