´óÏó´«Ã½

Chwareli Ffestiniog: Swyddi newydd a gobaith am fwy

  • Cyhoeddwyd
Chwareli FfestiniogFfynhonnell y llun, Hawfraint y Goron: CBHC
Disgrifiad o’r llun,

Chwareli Ffestiniog, diwydiant hanesyddol sydd bellach yn cyflogi mwy o bobl yn lleol

Mae ailagor dwy o chwareli Ffestiniog wedi creu 19 o swyddi newydd yn Sir Feirionnydd.

Mae cwmni Welsh Slate yn dweud mai galw cynyddol yw'r rheswm dros ailagor chwareli Ffestiniog a Chwt y Bugail.

Cafodd chwarel Cwt y Bugail, a oedd yn arfer cael ei adnabod fel Chwarel Graig Ddu, Bwlch y Slaters neu Chwarel Manod, ei hagor yn wreiddiol ar ddechrau'r 19eg ganrif.

Cymysgedd o waith echdynnu a phrosesu fydd yn cael ei wneud yn chwareli Ffestiniog a Chwt y Bugail fel rhan o'r datblygiadau newydd.

'Rhesymau masnachol'

Yn ôl Welsh Slate, sydd eisoes yn gyflogwr mawr yn yr ardal, mae ailagor safleoedd Ffestiniog a Chwt y Bugail yn golygu cynyddu cyfanswm y gweithlu o tua 13%.

Mae cwmni Breedon - rhiant-gwmni Welsh Slate - eisoes wedi creu 10 swydd newydd yn Chwarel y Penrhyn ym Methesda hefyd, ac yn dweud y gallai rhagor o swyddi ddod i chwareli'r gogledd-orllewin.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Malcom Ellis yn disgrifio chwareli'r gogledd-orllewin fel "cawr sydd wedi bod yn cysgu"

"Dwi'n gweld o fel y cawr sydd wedi bod yn cysgu ers blynyddoedd," meddai Malcom Ellis, un o reolwyr y cwmni yn yr ardal.

"Da' ni'n atgyfodi fo i'r dyfodol.

"Pobl leol, gwaed ifanc i ailddechrau, a gobeithio creu mwy o bethau o lechen."

Yn ôl Mr Ellis, prisiau'r farchnad ryngwladol ac oes llechi o Gymru sydd i gyfri' am y cynnydd mewn galw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Liz Saville Roberts wedi pwysleisio'r angen am swyddi o ansawdd yn yr ardal

Yn ymweld â'r safle yn Chwarel yr Oakley dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Liz Saville Roberts fod swyddi o ansawdd yn angenrheidiol i'r ardal.

"Yn amlwg yn lleol mae 'na obaith am swyddi, ac y bydd y swyddi sy'n dod mewn chwarel fel hwn, fydd pobl yn gweld dyfodol i'r swyddi hynny," meddai.

"Mi fydd hynny yn cadw pobl mewn swyddi da yn yr ardal yma... a phan 'da ni'n edrych ar gostau byw fel arall, mae rhywun yn gobeithio y bydd na ddatblygiadau diwydiannol eraill yn dod i ardaloedd fel hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ceri Cunnington ei bod yn bwysig fod cymunedau lleol yn "cael sleis o'r gacen"

Ond mae galw hefyd am weld y cyfoeth sy'n cael ei greu yn yr ardal yn aros yn y fro.

"Mae Blaenau yn lle cyfoethog. Mae pawb yn dweud eu bod ni'n ddifreintiedig, ond mae 'na gyfoeth anhygoel yn cael ei greu yma," meddai Ceri Cunnington o fenter gymunedol Y Dref Werdd.

"Boed hynny drwy faes ynni, twristiaeth - be' 'da ni angen ydy cael sleis o'r gacen."

Newyddion 'i'w groesawu'

Dywedodd Vivian Parry Williams, hanesydd lleol yn ardal Ffestiniog, fod y newyddion "i'w groesawu".

Er hynny, pwysleisiodd fod newid enw'r chwareli wedi bod yn destun "camddealltwriaeth" dros y blynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Vivian Parry Williams yn wreiddiol o Benmachno ond wedi byw ym Mlaenau Ffestiniog ers dros 50 mlynedd

"Mae chwarel Cwt y Bugail wedi cau ers degawdau, wedi bod ar agor yn wreiddiol ers ddechrau'r 19eg ganrif," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

"Rhywsut neu'i gilydd, chydig o flynyddoedd yn ôl, fe roddwyd yr enw ar chwarel arall gyfagos sydd ar agor o hyd.

"Bwlch Slatas oedd ei henw hi ond rhywsut, am resymau masnachol mae'n siŵr, mae rheiny wedi cymryd yr enw Cwt y Bugail.

"Y Ffestiniog Quarry ydi'r enw, wedi'i roi gan rhywun estron debyg iawn, ar chwarel Yr Oakeley sy'n fyd enwog ac ar gyrion y Blaenau 'ma.

"Mae na 'chydig wedi dechrau ailweithio ar honno erbyn hyn."

'Wedi cyfrannu'n helaeth'

Ychwanegodd: "Yr Oakeley oedd chwarel tanddaearol mwya'r byd yn ei anterth gyda tua hanner can milltir o draciau rheilffordd.

Ffynhonnell y llun, Rheilffordd Ffestiniog
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Rheilffordd Ffestiniog ei chodi i wasanaethu'r masnach llechi

"Mae'n mynd lawr mor ised â wyneb y môr ac mae'n anodd credu bod cymaint â 1,800 yn gweithio'n y chwarel hon yn unig ar un adeg.

"Roedd na 4,900 yn gweithio ar hyd chwareli 'Stiniog yn 1882 ac mae hynny'n fwy na'r nifer sy'n byw yn y dref erbyn hyn.

"Mae wedi cyfrannu'n helaeth at economi'r ardal hon, Cymru a Phrydain dros y blynyddoedd."

Pynciau cysylltiedig