大象传媒

Cyflog athrawon: 'Ddim yn hawdd' dod o hyd i'r arian - Miles

  • Cyhoeddwyd
Dywedodd Mr Miles nad oedd yn "hawdd dod o hyd i'r math yma o arian"Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jeremy Miles nad oedd yn "hawdd dod o hyd" i'r arian sydd wedi'i gynnig i athrawon

Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd athrawon yn cefnogi'r codiad cyflog diweddaraf sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru.

Ddydd Iau fe gyhoeddodd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU) eu bod yn gohirio streic ddydd Mawrth nesaf er mwyn i aelodau ystyried y cynnig.

Dywedodd Jeremy Miles bod "neb eisiau gweld plant allan o'r ysgol", a'i fod yn croesawu penderfyniad i ohirio'r streic.

"Rwy'n gobeithio neith yr aelodau gefnogi'r cynnig," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"Ni wedi gweithio'n galed gyda'r undebau a gyda chynghorau lleol dros yr wythnosau diwetha' i ddod o hyd i'r ffordd orau o ddatrys hyn, a dyna'r cynnig y'n ni wedi 'neud fel llywodraeth."

'Ddim yn hawdd' dod o hyd i arian

Y cynnig diweddaraf yw cynnydd o 1.5% mewn cyflogau ar ben y 5% gwreiddiol oedd wedi ei roi, yn ogystal 芒 thaliad untro o 1.5%.

Dywedodd Mr Miles nad oedd yn "hawdd dod o hyd i'r math yma o arian" a'u bod wedi gorfod defnyddio amryw o ffynonellau ar gyfer y cyllid ychwanegol.

"Yn y flwyddyn ariannol hon ma' cost y cynnig - os caiff y cynnig ei dderbyn, wrth gwrs - tua 拢30m, a ryw 拢23m y flwyddyn nesa'.

"Y flwyddyn hon y'n ni 'di dweud fel llywodraeth wnawn ni gwrdd 芒'r gost honno yn gyfan gwbl, os geith y cynnig ei dderbyn.

"Yr amser yma o'r flwyddyn mae rhyw elfen o danwariant mewn rhai elfennau... ble mae'r galw falle yn llai na ni wedi cynllunio, felly fel arfer bydden ni'n darparu'r arian yna ar gyfer pethe fel, gwedwch, hyfforddiant neu adeiladau ac ati."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae undeb NEU wedi gohirio eu streic nesaf tan 2 Mawrth

Yn 么l Mr Miles maen nhw'n edrych hefyd ar symud arian o gyllidebau eraill, a thynnu arian o'r cronfeydd wrth-gefn sydd ganddyn nhw.

Ond dywedodd mai unwaith yn unig y mae'n bosib gwneud hynny ac "wrth ei ddefnyddio fe eleni dyw e ddim ar gael ar gyfer flwyddyn nesa'".

Fel rhan o'r trafodaethau hefyd mae ystyriaeth yn cael ei roi i lwyth gwaith athrawon, a dywedodd y gweinidog eu bod wedi cael "trafodaethau adeiladol iawn wythnos diwetha' ac wythnos yma" ar hynny.

'Lleihau'r baich ar athrawon'

"Y mathau o bethau ry'n ni'n edrych ar yw dealltwriaeth gliriach ar y cychwyn cynta' o'r impact ar lwyth gwaith pan ma' cynllunia' newydd yn ca'l eu cyhoeddi," meddai.

"Er enghraifft, edrych ar lle mae dyblygu galwadau wrth riportio ar ysgolion, sicrhau bod ni'n gallu 'neud hynny mewn ffordd sy'n fwy streamlined, ac wrth gwrs mae amryw o gyrff yn mynnu adroddiadau ac ati wrth ysgolion am mathau o bethau, felly edrych ar beth gallwn ni i symleiddio hynny a lleihau'r baich ar athrawon."

Dywedodd hefyd bod y trafodaethau wedi symud yn gyflym iawn "oherwydd bod ni wedi bod yn trin ein partneriaid gyda pharch a wedi gallu dwyn o berthynas o ymddiried yn ein gilydd".

Mae undeb NEU Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn gohirio eu streic nesaf tan 2 Mawrth.

Dywedodd Cyd-Ysgrifennydd Cyffredinol NEU, Kevin Courtney bod y cynnig diweddaraf yn "dal yn sylweddol is na'r hyn y mae ein haelodau'n galw amdano, ac nid yw'n dechrau mynd i'r afael 芒'r toriad mewn termau real i athrawon ers 2010".

Ond fe ddywedodd y bydd yr undeb yn ymgynghori gyda changhennau a chynrychiolwyr yn y gweithle i gasglu barn aelodau.