大象传媒

Athrawon undeb NEU i streicio am bedwar diwrnod

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth ysgol uwchraddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae athrawon sy'n perthyn i Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU) yng Nghymru a Lloegr wedi pleidleisio o blaid streicio.

Bydd athrawon yng Nghymru yn streicio am ddeuddydd ym mis Chwefror a deuddydd ym mis Mawrth.

Ni fydd y streic yn effeithio ar ysgol unigol am fwy na phedwar diwrnod, medd yr undeb, sydd 芒 23,000 o athrawon a staff cefnogi yng Nghymru.

Mae David Evans, ysgrifennydd NEU Cymru, wedi galw am drafodaethau gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford i drafod yr anghydfod sy'n ymwneud 芒 chyflog.

Dywedodd bod 58% o aelodau'r undeb wedi dychwelyd eu ffurflenni pleidleisio gyda 92% o blaid streicio.

Dywedodd hefyd bod dros 80% o staff cefnogi hefyd o blaid gweithredu diwydiannol gyda 53% yn dychwelyd eu ffurflenni pleidleisio.

Pryd fydd y streiciau?

Bydd aelodau'r NEU yn streicio yng Nghymru ar 1 a 14 Chwefror a 15 a 16 Mawrth.

Yn hwyrach brynhawn Llun, dywedodd undeb y penaethiaid ysgolion, NAHT Cymru, eu bod wedi pleidleisio dros weithredu'n ddiwydiannol gyda 95% o blaid gweithredu sydd ddim yn cynnwys streicio, a 75% o blaid streicio.

Roedd undebau'r NEU a'r NAHT wedi cynnal pleidlais ymysg aelodau wedi i Lywodraeth Cymru gynnig codiad cyflog o 5% i athrawon.

Fe wnaeth undeb arall, NASUWT, hefyd gynnal pleidlais, ond ni fyddan nhw'n gweithredu am fod llai na 50% o aelodau wedi cymryd rhan.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn cyfarfod ag undebau athrawon a phenaethiaid yn hwyrach yr wythnos hon i drafod canlyniad y pleidleisiau.

Mae'r NEU wedi bod yn galw am godiad cyflog o 12% yn dilyn yr hyn mae'n ei alw'n "setliadau ariannol gwael" ers 2010.

'Cefnogi'n llwyr'

Roedd yna gefnogaeth lwyr i athrawon y tu allan i Ysgol Borth-y-gest ger Porthmadog brynhawn Llun.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhian Williams yn cefnogi penderfyniad athrawon sy'n dymuno streicio

"Dwi'n llwyr gefnogi athrawon sydd isio mynd ar streic," meddai Rhian Williams, "ac fel llywodraethwr Ysgol Cefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth dwi tu 么l i chi gant y cant."

"Mae'r teachers yn 'neud job ardderchog," meddai David Mansel sydd yn un o rieni Ysgol Borth-y-gest.

"Mae'n rhaid i ni gyd sefyll y tu 么l iddyn nhw a bacio nhw tan y diwedd."

Fore Llun ar Radio Wales, dywedodd David Evans, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr NEU: "Does yr un o'n haelodau eisiau mynd ar streic ond yr hyn ry'n yn geisio ei wneud yw sicrhau bod cyflogau athrawon yn cyfateb i chwyddiant fel ein bod yn denu yr ymgeiswyr gorau i'r proffesiwn a hynny er mwyn sicrhau bod ein disgyblion presennol yn cael addysg o'r safon uchaf - sef yr hyn y maen nhw'n ei haeddu."

Ddydd Gwener daeth i'r amlwg na fyddai undeb NASUWT yn streicio am y tro.

Fe wnaeth tua 90% o'u haelodau bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol, ond 42% wnaeth fwrw eu pleidlais - mae'n rhaid i 50% wneud hynny er mwyn cynnal streic gyfreithlon.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Jeremy Miles mae gofynion undebau yn "rhesymol", ond ddim yn fforddiadwy o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru

Mae'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles wedi dweud nad oes ganddo'r adnoddau i gynyddu t芒l athrawon yn fwy na'r 5% sydd wedi'i awgrymu gan gorff annibynnol.

Mae wedi dweud bod disgwyliad undebau i gyflogau godi gyda chwyddiant yn "gwbl resymol", ond yn amhosib heb gynnydd mawr yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd ei bod yn "warth fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ein gadael mewn sefyllfa mor amhosib".

Gyda chwyddiant yn 10.7% fis Tachwedd, mae cynnig Llywodraeth Cymru wedi cael ei feirniadu fel "toriad cyflog" gan undebau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n deall ac yn parchu'r teimladau sydd wedi'u mynegi yn y pleidleisiau hyn am weithredu diwydiannol heddiw.

"Bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn cyfarfod ag undebau athrawon a phenaethiaid yn hwyrach yr wythnos hon i drafod canlyniad y pleidleisiau.

"Yng Nghymru rydyn ni'n rhoi gwerth ar bartneriaeth gymdeithasol ac rydyn ni'n parhau i gyfarfod ag undebau llafur yn rheolaidd i drafod ystod o faterion sy'n effeithio ar y gweithlu."