Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yr Urdd yn 'ymwybodol o drafferthion cofrestru' Eisteddfod
Dywed yr Urdd fod arbenigwyr technegol yn gweithio ar eu gwefan wrth i nifer o bobl fethu 芒 chofrestru ar gyfer cystadlu yn yr Eisteddfod eleni.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru am hanner nos 13 Chwefror.
Dywedodd llefarydd er gwaethaf yr anawsterau eu bod yn "ffyddiog" y bydd pawb sydd eisiau cofrestru i gystadlu yn gallu gwneud hynny.
Mae nifer o negeseuon ar wefannau cymdeithasol wedi s么n am anawsterau wrth i'w plant geisio cofrestru ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin eleni.
Bydd yr 诺yl yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri rhwng 29 Mai-3 Mehefin.
'Miloedd yn barod wedi cofrestru'
Mewn datganiad dywedodd yr Urdd fod modd hefyd i bobl gysylltu yn uniongyrchol 芒'r mudiad pe bai angen.
"Mae'r Urdd yn ymwybodol fod rhai pobl yn cael trafferthion yn cofrestru drwy wefan Porth yr Urdd ar gyfer yr Eisteddfod.
"Rydym yn gweithio gydag ein partneriaid TG i sicrhau datrysiad ond yn falch fod gymaint o ddiddordeb a bod miloedd yn barod wedi cofrestru.
"Mae'r system ar agor tan hanner nos heno (13 Chwefror) gyda chyfnod o wirio i ddilyn, felly rydym yn ffyddiog y bydd bob plentyn a pherson ifanc sydd eisiau cofrestru i gystadlu yn gallu gwneud hyn.
"Os oes angen cymorth pellach mae modd cysylltu 芒'r Urdd yn uniongyrchol.
"Hoffai'r Urdd ddiolch i'r ysgolion, arweinyddion aelwydydd a rhieni am eu cefnogaeth."