Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
C芒n i Gymru 2023: Pwy sydd yn cystadlu eleni
Mae'r amser wedi dod i ryddhau enwau cystadleuwyr C芒n i Gymru 2023.
Ar nos Wener 3 Mawrth mae hi'n cael ei chynnal eleni gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno'r gystadleuaeth fawreddog o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth unwaith eto.
Roedd y panel o arbenigwyr wnaeth ddewis yr wyth yn cynnwys E盲dyth, Gwyneth Glyn, Arfon Wyn, ac Ifan Davies.
Felly pwy fydd yn brwydro am y wobr werth 拢5000 eleni?
1. Patagonia
Cyfansoddi: Alistair James
Perfformio: Dylan Morris
Cafodd Alistair James ei fagu yn Llanfairfechan, ac mae o bellach yn byw yng Nghonwy. Mae'n cyflwyno rhaglen frecwast ar Capital FM Cymru ac wedi bod yn perfformio'n gyson ers rhyddhau ei albwm cyntaf yn 2005.
Dyma'r trydydd tro iddo gystadlu ar C芒n i Gymru (2008 a 2020) ond y flwyddyn gyntaf iddo gymryd rhan fel cyfansoddwr yn unig. Cafodd ei ysbrydoli ar 么l darllen am hanes Patagonia a rhestr o enwau pobl o'r gogledd yn mynd 芒'r Gymraeg i ben draw'r byd.
2. Y Wennol
Cyfansoddi a pherfformio: Si么n a Liam Rickard (Lo-fi Jones)
Mi fyddwch yn si诺r o gofio Si么n Rickard ar G芒n i Gymru llynedd gyda'r g芒n 'Rhiannon'.
Erbyn hyn mae yntau a'i frawd o Fetws y Coed wedi sefydlu'r band Lo-fi Jones ac yn credu eu bod yn creu cerddoriaerth gwell drwy gydweithio. Atgofion o symlrwydd bywyd ieuenctid a byd natur yw'r ysbrydoliaeth tu 么l i'r g芒n.
3. Melys
Cyfansoddi a pherfformio: Luke Clement, Daniel Davies, Dafydd Mills, Tomos Mills (The Night School)
Dyma aelodau band roc The Night School o Abertawe. Penderfynodd y pedwar ar yr enw gan eu bod i gyd wedi cael profiadau'n gweithio fel athrawon. Dechreuodd y band yn 2016 ac mi fydd eu halbwm cyntaf o'r enw 'Dianc' yn cael ei ryddhau yn 2023.
4. C芒n i Mam
Cyfansoddi a pherfformio: Huw Owen
Mi fydd llawer yn gyfarwydd 芒 Huw Owen fel cyflwynydd Cyw ar S4C. Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan fawr o'i fywyd erioed ond dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu yng Ngh芒n i Gymru.
Symudodd yn 么l i'w gartref yn Llanberis yn ddiweddar ac ysgrifennodd y g芒n am frwydr ei fam gyda chanser.
5. Chdi Sy'n Mynd I Wneud Y Byd Yn Well
Cyfansoddi: Dafydd Dabson
Perfformio: Bryn Hughes Williams
Daw Dafydd Dabson yn wreiddiol o Ben Ll欧n ac erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mi wnaeth o gystadlu yng nghystadleuaeth C芒n i Gymru yn 2018 gyda'r g芒n "Dwi'm Yn Dy Nabod Di".
Mae ganddo ddau brosiect ar hyn o bryd, sef Codewalkers yn Saesneg a Derw yn Gymraeg ac mae'r g芒n 'Chdi Sy'n Mynd I Wneud Y Byd Yn Well' yn g芒n obeithiol am y dyfodol ac am newid hinsawdd.
6. Cysgu
Cyfansoddi: Alun Tan Lan
Perfformio: Angharad Elfyn, Elliw Jones a Siwan Iorwerth o'r gr诺p Tant
Mae Alun Tan Lan o Landdoged ger Llanrwst yn hen ben ar gystadlu ar C芒n i Gymru. Enillodd y gystadleuaeth yn 2010 a pherfformiodd yn 2013 a 2016 sy'n golygu ei fod yn cystadlu am y pedwerydd tro iddo eleni.
Mae o wedi bod yn aelod o'r band Y Niwl ers 2009. Ysbrydoliaeth fwyaf y g芒n 'Cysgu' yw myfyrdod ac edrych yn 么l ar sut oedd pethau mewn bywyd wrth symud ymlaen.
7. Eiliadau
Cyfansoddi a pherfformio: Ynyr Llwyd
Cafodd Ynyr Llwyd ei fagu ym Mhrion, pentref bach tu allan i Ddinbych, a bellach yn byw ym Modelwyddan. Mae'n gweithio fel Pennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Maes Garmon, ac yn dal i fwynhau cyfansoddi a pherfformio ei ganeuon ei hun.
Mae wedi cystadlu o'r blaen, ond dyma'r tro cyntaf iddo gyrraedd yr wyth olaf yn y gystadleuaeth. Thema'r g芒n yw hiraethu am blentyndod a gorchfygu teimladau negyddol.
8. Tangnefedd
Cyfansoddi a pherfformio: Sera Zyborska a Eve Goodman
Daw Sera Zyborska ac Eve Goodman yn wreiddiol o Gaernarfon. Mae Sera bellach yn byw yn Llanfairpwll yn gweithio i'r gymuned leol ac yn rhedeg gweithdai cerdd i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae Eve yn byw yn Y Felinheli ac yn gweithio'n llawn amser fel cyfansoddwr a pherfformiwr. Cafodd y ddwy eu dewis i fod yn rhan o brosiect Gorwelion 大象传媒 Cymru yn 2019 ac ers hynny maen nhw wedi bod yn ysgrifennu gyda'i gilydd. Mae natur yn ysbrydoliaeth fawr i 'Tangnefedd'.
Hefyd o ddiddordeb: