Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen i'r DU ariannu meddygaeth niwclear' yng Ngwynedd
- Awdur, Bethan James
- Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru
Mae Liz Saville Roberts AS wedi annog gweinidogion y DU i gefnogi cynnig gan Lywodraeth Cymru i sefydlu prosiect meddygaeth niwclear yn y gogledd.
Mae'r prosiect yn cynnwys adeiladu labordy newydd i gyflenwi radioisotopau meddygol, a ddefnyddir i wneud diagnosis a thrin canser.
Mae Llywodraeth Cymru, drwy eu prosiect ARTHUR, eisiau sicrhau cyflenwad o radioisotopau meddygol i Gymru a'r DU trwy ddatblygu'r prosiect, a allai greu 200 o swyddi.
Dywedodd gweinidog Llywodraeth y DU fod pwysigrwydd meddygaeth niwclear yn tyfu, a'u bod yn "awyddus" i glywed mwy "am y cynnig o ganolfan isotop meddygol yng ngogledd Cymru".
'Safle delfrydol'
Wrth siarad yn Nh欧'r Cyffredin, dywedodd Ms Saville Roberts fod isotopau meddygol yn bwysig ar gyfer "gofal canser ac fel arf diagnostig" ond "bod y gangen hon o feddygaeth wedi cael ei hesgeuluso".
Fe wnaeth Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd ddadlau bod y DU yn ddibynnol iawn ar radioisotopau o dramor. Ond mae pryderon bod adweithyddion sy'n cynhyrchu'r isotopau yn heneiddio.
"Mae cau canolfannau radioisotope rhyngwladol yn achosi pryder mawr i'n gwasanaeth iechyd," meddai Ms Saville Roberts.
"Mae hefyd, fodd bynnag, yn rhoi cyfle i Gymru ddod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer y meddyginiaethau hyn - sy'n achub bywydau - gan ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Heb "weithredu pendant", dywedodd bod "y DU yn wynebu" sefyllfa "trychinebus" o ran cadwyni cyflenwi ar gyfer radioisotopau meddygol, a allai gael sgileffaith difrifol ar gyfer diagnosteg a therapi "ac felly bywydau cleifion yn y DU".
Mae Llywodraeth Cymru angen cefnogaeth ariannol ar gyfer y prosiect, fyddai wedi'i leoli yn Nhrawsfynydd.
Fe fyddai'r labordy cenedlaethol yn costio 拢400miliwn ac yn cynhyrchu isotopau meddygol i'w defnyddio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
"Dylem ni yn Nwyfor Meirionnydd chwilio'n gyson am sectorau arloesol o gyflogaeth," meddai Liz Saville Roberts. "Trawsfynydd yw'r safle delfrydol i fod yn ganolbwynt i'r diwydiant hollbwysig hwn."
Dywedodd gweinidog Llywodraeth y DU, Amanda Solloway, bod y ddadl yngl欧n 芒 chanolfan isotopau meddygol cenedlaethol yn "drafodaeth mor bwysig ac rwy'n cytuno bod mwy y gallai'r DU ei wneud".
"Mae niwclidau radio, sydd hefyd yn cael eu galw'n radioisotopau, yn hanfodol bwysig," meddai.
Dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething: "Drwy'r datblygiad hwn, nid yn unig y gall Cymru ddod yn brif le yn y DU ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol - gan gynhyrchu radioisotopau meddygol sy'n achub bywydau ac sy'n hanfodol i ddiagnosis a thriniaeth canser - ond gallwn hefyd ddenu swyddi sgiliau uwch, creu isadeiledd cyfagos, cefnogi cymunedau lleol ac adeiladu cadwyni cyflenwi lleol."
Ond mae rhywfaint o ddryswch, fodd bynnag, yngl欧n 芒 pha adran o Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol, meddai Liz Saville Roberts.
"Un o'r blociau cythryblus yw'r diffyg perchnogaeth yn San Steffan dros y mater hwn," meddai. "Mae'r cyfrifoldeb wedi cael ei basio n么l a 'mlaen rhwng yr Adran Iechyd a BEIS."
Gofynnodd Ms Saville Roberts am eglurder ac "ai'r Gweinidog Niwclear newydd fydd yn arwain ar y gwaith hwn".
'Angen gwybod mwy'
Esboniodd y gweinidog Amanda Solloway AS y bydd "pwysigrwydd [meddygaeth niwclear] yn tyfu", ond cyfaddefodd bod y DU yn "ddibynnol ar adweithyddion tramor, sy'n heneiddio".
"Mae'r llywodraeth hon yn cydnabod yr angen i gryfhau ein cyflenwadau o 'radionuclides' meddygol yn y DU, er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau meddygaeth niwclear i gleifion yn y DU," meddai.
"Fel y brif adran sy'n gyfrifol am dechnoleg niwclear, mae'r Adran Diogelwch Ynni a Zero Net yn ganolog i'r r么l hon... rydym wedi bod yn glir bod gan dechnoleg niwclear ran i'w chwarae yn y DU."
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi lawnsio raglen radionuclide meddygol, gwerth 拢6m.
"Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar annog arloesedd ym maes technolegau a thechnegau newydd," meddai'r gweinidog.
"Mae labordy ymchwil, fel y ganolfan isotopau meddygol sy'n cael ei gynnig, yn un o'r opsiynau y gallai'r rhaglen hon ei gefnogi."
Aeth Ms Solloway ymlaen i ddweud: "Wrth gyflwyno argymhellion ar gyfer polisi yn y dyfodol, rhaid i'n cyngor gael ei yrru gan dystiolaeth.
"Ein nod yw sicrhau bod adnoddau'n canolbwyntio'n effeithiol, gan roi'r gwerth gorau a'r budd mwyaf posibl i'r trethdalwr.
"Rydym yn awyddus i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig o ganolfan isotop meddygol yng ngogledd Cymru.
"Bydd ein timau polisi yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd 芒'u cymheiriaid yng Nghymru i drafod y prosiect wrth fynd rhagddi."