Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwpan Cymru: Seintiau Newydd a'r Bala yn y ffeinal
Bydd y Seintiau Newydd yn herio'r Bala yn rownd derfynol Cwpan Cymru.
Yn dilyn eu buddugoliaeth dros Penybont brynhawn Sadwrn bydd y clwb o Groesoswallt yn gobeithio sicrhau'r tlws am y nawfed tro yn eu hanes.
Roedd yn brynhawn siomedig i d卯m Rhys Griffiths wrth i'r Seintiau fynd i'r egwyl 2-0 ar y blaen gyda Josh Daniels sgorio ddwywaith.
Doedd dim mwy o goliau yn yr ail wrth i'r Seintiau sicrhau eu lle yn gyfforddus.
Nos Wener roedd hi'n g锚m tipyn mwy cystadleuol wrth i g么l hwyr Chris Venables brofi i fod yn dyngedfennol.
Bydd y Bala, oedd hefyd wedi curo Cei Connah ar giciau o'r smotyn yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG fis Ionawr, yn ymddangos yn eu hail rownd derfynol Cwpan Cymru ar 么l ennill ar eu hymddangosiad blaenorol yn 2017.
Roedd hyn er i'r rheolwr, Colin Caton, orfod gwylio'r g锚m o'r eisteddle oherwydd gwaharddiad.
Nos Wener, 3 Mawrth
Y Bala 3-2 Cei Connah
Dydd Sadwrn, 4 Mawrth
Penybont 0-2 Y Seintiau Newydd