Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Meifod fydd cartref Eisteddfod yr Urdd yn 2024
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai ym Meifod y bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal pan fydd hi'n ymweld 芒 Maldwyn y flwyddyn nesaf.
Fe fydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 cael ei chynnal ar gaeau Fferm Mathrafal - cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003 a 2015.
Dywed y trefnwyr eu bod yn "edrych ymlaen i ymweld 芒 Maldwyn am y tro cyntaf ers 1988", a bod gwirfoddolwyr ac aelodau "wrthi'n brysur yn paratoi i'n croesawu i'r ardal".
Roedd yn fwriad yn wreiddiol i gynnal yr 诺yl ieuenctid ym Maldwyn yn 2022, cyn i'r pandemig orfodi'r mudiad i beidio 芒 chynnal g诺yl dorfol am ddwy flynedd.
"'Dan ni'n gyffrous iawn bod y cyhoeddiad wedi ei 'neud," dywedodd cadeirydd pwyllgor gwaith lleol yr Eisteddfod, Bedwyr Fychan ar raglen Dros Frecwast.
"Yn Y Drenewydd oedd eisteddfod 1988 a 'dan ni'n falch iawn o gael ei chroesawu'n 么l i Faldwyn yn 2024, er bod hi ddwy flynedd yn hwyrach nag oeddan ni wedi meddwl yn wreiddiol."
'Dewis unfrydol'
Pan gyhoeddwyd yn 2019 bod yr 诺yl am ddychwelyd i Faldwyn, dywedodd yr Urdd mai'r bwriad oedd lleoli'r maes yn nhref Machynlleth.
Mae swyddogion yr Urdd, meddai Mr Fychan, wedi "cerdded milltiroedd... yn cerdded rownd gwahanol gwahanol safleoedd yn y sir" a chynnal "trafodaethau eang".
Dywedodd bod rhaid ystyried sawl ffactor yn cynnwys "maint y safle, ystyriaethau o ran traffig a llifogydd, popeth o fynediad i gerbydau i wifrau uwchben y tiroedd" cyn llunio rhestr fer o leoliadau addas.
"Yn y cynnig oedd gerbron y pwyllgor gwaith neithiwr, safle Mathrafal a Meifod gafodd ei ddewis yn unfrydol," meddai.
Mae'r safle ym Meifod, medd ychwanegodd, yn un "cyfarwydd".
"'Dan ni'n gw'bod bod o'n safle addas, ac yn safle braf iawn a 'dan ni'n hyderus bydd hwn hefyd yn safle fydd yn gweithio i ni ar gyfer Maldwyn 2024."
Codi arian
Roedd gwaith y gwahanol bwyllgorau lleol eisoes wedi dechrau cyn y pandemig.
"Mae lot o'r gwaith hynny wedi dod i ben bellach," medd Mr Fychan.
"Mae lot o'r ffocws r诺an... yn amlwg ar y safle, a dipyn o bwyslais r诺an ar y gweithgaredda' codi arian."
Yn 么l y trefnwyr mae'r eisteddfod ieuenctid yn cyfrannu 拢6m i'r economi leol, gan ddenu tua 90,000 i'r maes.
Bydd Eisteddfod yr Urdd 2024 yn cael ei chynnal rhwng 27 Mai a 1 Mehefin y flwyddyn nesaf.
Mae'r 诺yl eleni yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin rhwng 29 Mai a 3 Mehefin.