Llafur yn addo datganoli cronfeydd yn 么l i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Syr Keir Starmer yn dweud y byddai Llafur yn datganoli pwerau dros gronfeydd sydd wedi disodli rhai'r Undeb Ewropeaidd yn 么l i Gymru.
Fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur dros y DU gyfan annerch cynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno.
Dywedodd Syr Keir wrth aelodau'r blaid y bydd Cymru'n "cymryd rheolaeth yn 么l" dros y cronfeydd os mai nhw fydd mewn p诺er yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Roedd Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am tua 拢375m y flwyddyn o gronfeydd Ewropeaidd cyn i'r DU adael yr undeb.
Mae cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd sy'n dod i'r DU wedi bod yn lleihau yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac fe fyddan nhw'n dod i ben yn llwyr eleni.
Ond mae'r gronfa fydd yn cymryd eu lle - Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - yn cael ei rheoli gan Lywodraeth y DU.
Cynghorau sy'n gwneud cais am yr arian, a chynllunio a gwireddu prosiectau, ond mae gweinidogion y DU yn dweud y bydd hynny'n digwydd wrth "weithio'n agos" gyda Llywodraeth Cymru.
Mae gweinidogion Llafur yn dadlau fod y system yn rhoi llai o lais i Gymru, gan ei alw'n "ymosodiad ar ddatganoli", ond mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio 芒 gwneud y mwyaf o'r arian.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud fod y cynlluniau yn mynd yn erbyn addewid na fyddai Cymru yn derbyn ceiniog yn llai ar 么l gadael yr UE, ond mae'r Trysorlys wedi gwadu hynny.
'Y Tor茂aid wedi defnyddio Brexit'
Dywedodd Syr Keir wrth y gynhadledd: "Mae'r ddadl yn syml - fe ddylai'r penderfyniadau ar greu cyfoeth yn ein cymunedau gael eu cymryd gan bobl sy'n rhan o'r cymunedau hynny.
"Mae'r Tor茂aid wedi defnyddio'r broses Brexit i gymryd rheolaeth o'r cronfeydd hynny. Nid oddi ar yr Undeb Ewropeaidd, ond oddi ar Gymru. Mae'n warthus."
Dywedodd y byddai'r "llywodraeth Lafur nesaf yn dychwelyd grym i Gymru dros ei ffawd economaidd", gan ychwanegu bod hi'n "bryd i Gymru gymryd rheolaeth yn 么l".
Ond dydy Llafur heb awgrymu faint o arian cyhoeddus y byddai'n cael ei roi i Lywodraeth Cymru gan lywodraeth Lafur yn San Steffan.
Gan rybuddio y byddai colli rheolaeth ar yr economi yn golygu taw "pob sy'n gweithio" a fyddai'n talu'r "bil", fe ychwanegodd: "Ni allwn ni adael i hynny ddigwydd - hyd yn oed pan fo hynny'n arafu pethau yr hoffwn eu gwneud tra mewn grym.
"Rhaid rhoi ariannu call o fewn ein cyllid cyhoeddus yn gyntaf."
'Gobaith, nid annibyniaeth'
Dywedodd Syr Keir bod gwrthwynebiad yng Nghymru i undeb y DU "heb symud ymlaen yma ag yn Yr Alban".
Ond gan gydnabod yr ymgyrch annibyniaeth yng Nghymru, dywedodd na ddylid ei anwybyddu fel ei bod "yn cael llais yn y wlad hon hefyd".
Os am ei drechu, fe ddywedodd: "Mae angen rhywbeth arall, mae angen gobaith."
Amlinellodd Syr Keir "ddewis clir yn yr etholiad cyffredinol nesaf, rhwng rhagor o ddirywiad a rhwygiadau gyda'r Ceidwadwyr neu newid credadwy gyda Llafur".
Fe wnaeth addewid y byddai 'na economi sefydlog a thwf uchel wedi 10 mlynedd o lywodraeth Lafur.
Dywedodd: "Bydd yna fwy o gyfle, mwy o dai ffordiadwy, swyddi gyda gwell gyflogau. Teuluoedd yn teimlo eu bod yn gallu symud ymlaen unwaith yn rhagor, edrych ymlaen tua'r dyfodol unwaith yn rhagor."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2020