'Sioc enfawr' ffermwr ifanc ar 么l i ddafad eni chwe oen iach

Ffynhonnell y llun, Erin McNaught

Disgrifiad o'r llun, Erin Fflur McNaught gyda'r chwe oen bach ar eu fferm yn Rhos-y-Gwaliau ger y Bala
  • Awdur, Gareth Wyn Williams
  • Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw

Mae ffermwr ifanc o Feirionnydd yn dweud iddi gael "sioc enfawr" wedi i ddafad roi genedigaeth i chwe oen bach.

Yn 么l Erin Fflur McNaught, sy'n gweithio ar y fferm deuluol yn ardal y Bala, roedden nhw'n credu fod y famog wyneb las yn disgwyl tripledi.

Ond cafodd y teulu sioc ddydd Iau wedi iddi roi genedigaeth i chwe oen holliach.

Dywedodd y teulu - y bedwaredd genhedlaeth i ffermio Pandy yn Rhos-y-gwaliau - eu bod yn cymryd gofal arbennig o'r newydd ddyfodiaid.

"Gafon ni syrpr茅is annisgwyl," meddai Erin, 20, sydd hefyd yn llysgennad i undeb NFU.

"Roedd un o'r Blue Faced Leicesters wedi cael eu sganio ac yn dangos tri oen, ond yn lle hynny daeth chwech, felly roedd yn dipyn o sioc!

"Ond dwi'n hynod falch fod nhw gyd allan, yn fyw ac yn gwneud yn dda."

'Anghyffredin ofnadwy'

Ychwanegodd y cyn-ddisgybl Ysgol Godre'r Berwyn, sy'n astudio am radd Daearyddiaeth gyda'r Brifysgol Agored: "Mae'n anghyffredin ofnadwy, dwi'n cymryd mai record y byd ydy wyth ond dydi chwech ddim yn rhy bell!

"Yn anaml iawn mae'r chwech yn byw, felly mae cael bob un yn iach yn amazing.

"Mae cyfnod wyna yn gallu bod yn eitha' blinedig, felly roedd yn neis cael syrpr茅is bach neis i orffen y diwrnod ddoe."

Ffynhonnell y llun, Erin McNaught

Disgrifiad o'r llun, Y chwe oen bach wedi'u geni ddydd Iau

Roedd y sganiwr ond wedi gallu gweld tri oen, ond o edrych ar faint y ddafad dywedodd ei bod wedi dyfalu fod siawns iddi eni mwy.

"Mae'r ddafad yn gwneud yn OK, mae hi ychydig yn isel ac i lawr heddiw ond mae hynny i'w ddisgwyl ar 么l geni chwech!

"Mae hi wedi cael yr holl feddyginiaeth posib i drio cael ei egni'n 么l i fyny.

"Mae'r 诺yn yn gwneud yn ffantastig. Roedd un ychydig yn wan felly yn y nos es 芒 fo i'r t欧 a'i roi o flaen y t芒n ond erbyn heddiw mae ar ei draed ac wedi dod i ymuno hefo'r lleill."

Ond wedi geni chwe oen a diffyg llaeth i fwydo'r cyfan, dywedodd Erin ei bod yn cymysgu llaeth powdr.

"Mae'n waith caled gorfod deffro yn y nos fel bod ganddyn nhw i gyd foliau llawn, ond mae'n amazing fod nhw i gyd yn fyw a gobeithio bydd y gwaith i gyd werth o."

'Heb weld hyn mewn 70 mlynedd'

Yn 2019, yn dilyn genedigaeth pump oen ar fferm yng Ngheredigion, dywedodd milfeddyg o Bwllheli ei fod yn ddigwyddiad "anghyffredin iawn".

Yn 么l Erin mae llawer i lawr i'r bridio, ond roedd glaswellt o safon uchel hefyd wedi'i ddarparu i'r defaid, meddai.

"Mae fy nhaid wedi bod yn ffermio ers 70 o flynyddoedd a dydi o ddim 'di gweld hyn o'r blaen.

"Mae triplets yn reit gyffredin ond mae chwech yn rhywbeth arbennig iawn!

"Mae lot wedi bod yn holi a dwi'n edrych ymlaen r诺an i ddangos i bawb."