Y Gynghrair Genedlaethol: Bromley 1-2 Wrecsam

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Paul Mullin - unwaith eto - oedd yr arwr i Wrecsam

Mae Wrecsam wedi ymestyn eu mantais ar frig y Gynghrair Genedlaethol wedi i goliau Paul Mullin drechu Bromley.

Er i'r g锚m ddechrau 15 munud yn hwyr oherwydd problemau traffig, wnaeth hi ddim cymryd hir i Wrecsam ddechrau achosi problemau i'r t卯m cartref.

Tarodd Jacob Mendy a Ben Tozer y trawst gyda chyfleoedd cynnar, ond di-sg么r oedd hi ar yr egwyl.

Fe aeth y Dreigiau ar y blaen wedi 56 munud diolch i beniad Mullin, cyn i'r ymosodwr ddyblu'r fantais bron yn syth gyda chic acrobataidd dros ei ben.

Ychydig wedi hynny fe sgoriodd Michael Cheek ar y postyn pellaf i ddod 芒 Bromley 'n么l mewn iddi, ond daliodd Wrecsam eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn agor tri phwynt o fwlch ar frig y Gynghrair Genedlaethol, gyda g锚m mewn llaw, wedi i Notts County gael g锚m gyfartal yn Barnet.