Cyfres newydd Alex Jones a'i diolch i S4C a'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
"Heb S4C bydde dim gyrfa 'da fi i'r un graddau 芒 sydd 'da fi heddiw."
Mae Alex Jones wedi bod yn s么n am bwysigrwydd S4C a'r ffaith ei bod yn siarad Cymraeg i'w gyrfa ar ymweliad 芒 gogledd Cymru i hyrwyddo cyfres newydd ar gyfer 大象传媒 Two a 大象传媒 One Wales a fydd, fel Alex, hefyd yn gyfarwydd iawn i wylwyr selog y sianel Gymraeg.
Mae seren The One Show wedi bod n么l yng Nghymru yn cyflwyno Reunion Hotel a fydd yn cael ei darlledu fis Ebrill - fformat gan gwmni teledu Darlun sydd eisoes wedi ymddangos ar S4C fel Gwesty Aduniad.
Mae'r gyfres yn llawn straeon emosiynol am ddarganfod teulu coll neu ddod 芒 hen ffrindiau yn 么l at ei gilydd ac yn digwydd yng ngwesty Iscoyd Park ar gyrion Wrecsam lle roedd Alex n么l i'r lawnsiad ddiwedd mis Mawrth.
Ac roedd 'na elfen o aduniad i Alex hefyd gan ei bod n么l gyda chriw o Gymru, nifer yn siaradwyr Cymraeg a nifer yn gyfoedion roedd hi wedi eu handabod ers ei dyddiau coleg a dyddiau cynnar ei gyrfa ar S4C yn cyflwyno rhaglenni fel Popty, Hip neu Sgip a Chwa!
"O'dd e'n lyfli achos oedd sawl un o'r criw o'n i ddim wedi gweld am flynydde mawr," meddai'r gyflwynwraig o Rydaman mewn sgwrs gyda Cymru Fyw yn y gwesty.
"Oedd e'n neis gweld lot o wynebau cyfarwydd, wedyn oedd teimlad eitha cosy achos o'n ni gyd yn adnabod ein gilydd. A fi'n credu o ganlyniad oedd y gwesteion oedd ar y rhaglen yn teimlo yn fwy cartrefol hefyd achos bod naws neis yma, naws cyfarwydd cartrefol."
'Erioed wedi anghofio'
Mae Alex wedi gwneud sawl ymddangosiad ar deledu Cymraeg yn ddiweddar, yn cyflwyno Stori'r Iaith ac yn westai i Elin Fflur ar Sgwrs Dan y Lloer.
Ydy hi'n hoffi dod n么l i ffilmio yng Nghymru?
"Mae S4C yn hollbwysig achos heb y cyfleoedd yna ges i ar ddechrau fy ngyrfa bydden i ddim fan hyn nawr yn siarad gyda ti a dwi erioed wedi anghofio hynny," meddai.
"'Nes i ddysgu llwyth o bethau - o ran teledu byw, sut i ddarllen autocue, yr holl sgiliau yna. Felly pan es i i ddechrau yn Llundain roedd 10 mlynedd o brofiad gyda fi. Oedd pobl yn cwestiynu 'Lle mae'r ferch 'ma di dod o?' 'Shwd mai'n gwybod fel i wneud y swydd?' Ond wrth gwrs o'n i wedi 'neud y cwbl lot ar S4C a bydda'i wastad yn ddiolchgar am hynny.
"A fi'n credu os oes unrhyw berson ifanc mewn dau feddwl am 'A ddylswn i ddysgu sut mae siarad Cymraeg?', byddwn i'n dweud, yn bendant os y'n nhw mo'yn gweithio yn y byd teledu achos wrth gwrs wrth wneud hynny ti'n dyblu'r siawns o gael swydd a - fel o'n i'n dweud - heb S4C bydde dim gyrfa 'da fi i'r un graddau a sydd 'da fi heddiw."
Crio, chwerthin ac ambell air o Gymraeg
Mae'r gyfres newydd yn llawn straeon emosiynol gydag Alex yn tywys y gwesteion drwy'r broses gyda help cwnselwyr a staff y gwesty.
"Dwi yn berson emosiynol, wastad wedi bod, a mae rhai o'r straeon mor emosiynol a mor drist mae'n anodd peidio cael dy dynnu mewn: weithiau ry'n ni'n crio gyda'n gilydd; weithiau ry'n ni'n llawenhau gyda'n gilydd."
Ac er mai rhaglen Saesneg yw Reunion Hotel, mae'n bosib y bydd gwylwyr yn clywed ambell air o Gymraeg gan fod un neu ddau siaradwr Cymraeg arall ar y rhaglen - yn staff neu'n westai.
Mae mwy o hyn wedi ei weld ar deledu rhwydwaith yn ddiweddar ac mae'n teimlo'n hollol naturiol i raglen wedi ei ffilmio yng Nghymru, meddai Alex.
"Dwi ddim yn gweld e ddim gwahanol - fyddet ti'n cael clip Ffrangeg neu Sbaeneg mewn rhaglen, pam lai Cymraeg? 'Nath e ddim taro fi'n od.
"Mae'n cael ei ffilmio fan hyn yng ngogledd Cymru, [mae] lot o bobl Cymraeg yn gweithio ar y gyfres, fi'n hunan yn dod o dde Cymru, ac wedyn mae'n naturiol felly bod ni yn cynnwys y Gymraeg. Taen ni'n Llundain bydde dim gair o Gymraeg a bydde hynny'n ddealladwy hefyd ond 'y'n ni fan hyn yng Nghymru, wedyn pam lai."
Symud lle mae'r gwaith
Llundain yw cartref Alex bellach ble mae'n magu teulu ifanc gyda'i g诺r, Charlie. Oes 'na unrhyw awydd i ddod n么l i Gymru?
"Dwi ddim yn gwybod, mae pethe'n newid pan mae plant yn y pictiwr a mae rhaid ystyried y teulu i gyd yn does? Mae'r plant i gyd wedi cael eu geni yn Llundain, mae lot o ffrindia gyda ni fan'na...
"A dwi ddim yn ei weld fel Cymru a Lloegr - jyst dyna lle ni'n byw fel teulu at hyn o bryd, dyna lle mae ngwaith i ac, os yw hynny'n newid, os yw ngwaith i yng Nghaerdydd, fe ddewn ni i Gaerdydd.
"Dwi'n credu dy fod yn gallu bod yn hapus mewn dau le yr un pryd. Mae Mam a Dad yn byw yn Nghaerdydd, a'n chwaer, a lot o'n ffrindiau agos a fi'n dal yn 么l a 'mlaen... ond ar hyn o bryd ni'n hapus lle ydyn ni achos fan yna mae ngwaith i a fan yna y'n ni fel teulu, ond galle hynny newid."
A beth am ragor o deledu Cymraeg?
"Ma' bywyd yn fishi rhwng gwaith llawn-amser a tri o blant," meddai'r gyflwynwraig a gymerodd hoe fer o The One Show y llynedd.
"Does dim lot o le i ddim byd arall ar hyn o bryd. Ond pwy a 诺yr? Gawn ni weld. Oedd y lleia', Annie, ddim ond yn dri neu bedwar mis pan ddechrauais i hwn so mae rhaid dewis prosiectau yn ofalus iawn.
"Ond achos bod hwn 芒 chysylltiad Cymreig o'n i'n teimlo bod e'n bwysig i'w wneud a fi jyst yn gobeithio bydd bobl yn dwli ar [y gyfres] gyment ag o'n i."
Bydd Reunion Hotel yn cael ei ddarlledu nos Iau 6 Ebrill ar 大象传媒 One Wales a大象传媒 Two am20:00.
Hefyd o ddiddordeb: