Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Eisteddfod: Newidiadau'n 'farwol i gorau' neu'n 'rhesymol'?
Mae'r penderfyniad i newid trefn cystadlu'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei ddisgrifio fel un a allai arwain at "farwolaeth" corau yn y Brifwyl.
Ddydd Mawrth cyhoeddodd y trefnwyr newidiadau ar gyfer Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd eleni yn dilyn adolygiad annibynnol o'r cystadlaethau.
Un o'r newidiadau amlycaf yw mai uchafswm o dri chystadleuydd fydd yn rownd derfynol pob cystadleuaeth.
Mae'r Eisteddfod hefyd wedi cyhoeddi y bydd dwy ganolfan gystadlu newydd ar y Maes, fydd yn llai na'r pafiliwn traddodiadol.
1,800 o seddi oedd yn y pafiliwn yn Nhregaron y llynedd, ond eleni bydd un ganolfan yn dal hyd at 1,200 o bobl, a'r llall yn dal 500.
'Ddim yn deg'
Mae Cadeirydd Pwyllgor Ddiwylliant yr Eisteddfod, Trystan Lewis wedi mynnu nad yw'r newidiadau yn "diraddio" y prif lwyfannau.
Ond dywed Gwyn Nicholas, arweinydd c么r Llanpumsaint, y bydd nifer o gorau yn penderfynu peidio 芒 chystadlu gan nad oes sicrwydd o ymddangos ar y prif lwyfan.
"Dwi ddim yn credu ei bod yn deg," meddai Mr Nicholas, enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams y llynedd.
"Mae pob unawdydd, pob c么r yn talu am gystadlu yn y Steddfod a fi'n credu bod nhw'n haeddu cael y gorau.
"[N]i wedi gweld marwolaeth y corau yma mewn Eisteddfod - a fi yn meddwl hynny yn bendant," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Fydda i ddim yn beio neb 'sa nhw'n dweud 'o wfft, 'sa i'n mynd i gystadlu, s'dim diben yn y pafiliwn bach - fyddai yn gwrando ar fy hunan yn canu'."
Ond mae eraill yn dweud nad ydynt yn gwrthwynebu'r newidiadau.
Dywed Seiriol Dawes-Hughes, sy'n aelod o C么r Dre yng Nghaernarfon, ei fod yn credu bod canolfan o 500 yn "swnio'n rhesymol".
Mae'n pwysleisio nad yw'n siarad ar ran y c么r ond dywed: "'De ni wedi cystadlu lawer gwaith yn yr Eisteddfod a dwi ddim yn meddwl bod 'na 500 wedi bod yn y gynulleidfa - felly mae cael neuadd o 500 i wylio corau yn swnio'n rhesymol.
"Alla'i ddeall bod yna siom fod pawb ddim yn mynd i gael perfformio ar y prif lwyfan ond mae'n 诺yl sy'n esblygu ac yn newid.
"Os ydy'r Eisteddfod wedi gwneud eu hymchwil, mae genna'i berffaith ffydd mai dyma'r ffordd orau ymlaen."
Mae Cefin Roberts, sy'n aelod o bwyllgor canolog cyfarfod llefaru'r Eisteddfod, o'r farn y bydd rhai yn elwa o'r newidiadau ond bydd rhai hefyd yn teimlo siom.
"I raddau, ryw ymateb cymysglyd sydd gen i - yn yr ystyr dwi wastad wedi teimlo bod perfformwyr sy'n llefaru ac yn actio ar lwyfan falla yn mynd i elwa ac efallai cystadlaethau dawns sydd yn cael eu rhoi ymlaen yn fuan iawn yn y pafiliwn lle mae pafiliwn gwag wedi bod a dim teimlad o gynulleidfa adeg hynny.
"Mae'r newidiadau i'r math yna o drefn yn fy marn i yn plesio ond wedi dweud hynny dwi wedi siarad 芒 nifer o arweinwyr corau ers i hwn gael ei gyhoeddi," meddai wrth Dros Frecwast.
"Dwi'n meddwl mai yn fanna mae'r anniddigrwydd mwyaf - yn y cystadlaethau mawr oedd yn llenwi'r pafiliwn.
"Y rhai torfol sydd 芒'r g诺yn fwyaf ac sydd wedi cael sioc wedi'r cyhoeddiad."
Dywedodd Trystan Lewis, Cadeirydd Pwyllgor Ddiwylliant yr Eisteddfod, fod y newidiadau yn dilyn adolygiad o'r hen drefn, gyda'r bwriad - ymhlith pethau - eraill i godi safon.
"'De ni yn edrych i godi safon - mi roedd hynny yn yr adolygiad yn elfen bwysig iawn," meddai wrth Newyddion.
"A ga'i ddweud fod yr adolygiad wedi bwrw rhwyd yn eang dros nifer fawr o bartneriaid a chystadleuwyr. Dathlu'r goreuon ond wrth gwrs dathlu pawb sy'n cystadlu."
Ychwanegodd nad oedd yn credu y byddai'r newidiadau yn arwain at lai o gorau yn cystadlu.
"Mae'r ddwy ganolfan gystadlu - mae'r ffaith fod un yn fwy na'r llall yn golygu dim byd mewn gwirionedd, achos mi fydd y ddwy yn arena ar gyfer corau ac mi fydd yr un arlwy darlledu, mi fydd yna gynulleidfa gobeithio... a gobeithio yn denu cynulleidfa newydd i'r rowndiau cyn derfynol."
Dyddiadau pwysig
O ran yr Eisteddfod ei hun, dywed y trefnwyr y bydd y rhaglen gystadlu yn cael ei chyhoeddi bron i dri mis ynghynt na'r arfer - cyn diwedd mis Mawrth.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau cyfansoddi ar 1 Ebrill, a'r cystadlaethau llwyfan ar 1 Mai.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael ei chynnal ym Moduan, Ll欧n, rhwng 5 a 12 Awst.