Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Luka Modri膰, a'r rhwystrau eraill ar y llwybr i Euro 2024
Yn dilyn Cwpan y Byd eithaf siomedig yn Qatar, mae carfan p锚l-droed Cymru yn paratoi at rowndiau rhagbrofol Euro 2024 yn Yr Almaen.
Gydag enwau mawr fel Gareth Bale a Joe Allen wedi ymddeol o chwarae dros eu gwlad bydd Cymru'n gobeithio gweld nifer o'r chwaraewyr iau'n gwneud enw i'w hunain yn ystod yr ymgyrch yma.
Croatia, Armenia, Twrci a Latfia fydd gwrthwynebwyr bechgyn Rob Page yng Ngr诺p D. Croatia yn Split ar 25 Mawrth fydd y g锚m gyntaf, gyda Latfia gartref ychydig ddyddiau wedyn ar 28 Mawrth.
Ond sut fath o her fydd y timau yma'n ei gynnig i Gymru? Owain Ll欧r sy'n rhoi cipolwg ar y gwrthwynebwyr.
Croatia (7 yn netholion y byd)
"Heb os ac oni bai, Croatia ydy'r ffefrynnau i ennill y gr诺p. Maen nhw wedi bod yn un o'r timau mwyaf cyson yn y byd dros y 10 mlynedd ddiwethaf, gan orffen yn ail yng Nghwpan y Byd 2018 ac yn drydydd y llynedd.
"Maen nhw hefyd wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cynghrair y Cenhedloedd - mi fyddan nhw'n chwarae yn erbyn Yr Iseldiroedd am le yn y ffeinal ym mis Mehefin.
"Er ei fod yn 37 oed bellach mae Luka Modri膰 yn dal yn un o'r chwaraewyr canol cae gorau yn y byd, tra bod amddiffynnwr 21 oed RB Leipzig Josko Gvardiol yn cael ei gysylltu gyda rhai o glybiau mwyaf Ewrop yn dilyn ei berfformiadau yn Qatar. Mi fydd yn gofyn lot i Gymru gael unrhyw fath o ganlyniad yn y ddwy g锚m yn eu herbyn.
"Mae Cymru wedi wynebu Croatia chwe gwaith ers y g锚m gyntaf rhwng y gwledydd yn 2002, gan golli pedair a chael dwy g锚m gyfartal. "
Armenia (95 yn netholion y byd)
"Mae Cymru wedi bod yn ffodus i gael Armenia yn eu gr诺p achos nhw oedd y t卯m gwanaf yn 'pot 3'. Er eu bod nhw wedi gwella yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf, mi oedd 2022 yn flwyddyn i'w anghofio iddynt. Fe gollon nhw 9-0 yn erbyn Norwy, 5-0 yn erbyn Wcr谩in a 4-1 yn erbyn Yr Alban.
"Mi benderfynodd y chwaraewr gorau yn hanes y wlad, Henrikh Mkhitaryan, ymddeol o b锚l-droed rhyngwladol y llynedd, a maen nhw wedi ei gweld hi'n anodd iawn i ymdopi hebddo. Os bydd Cymru ar eu cryfaf mi fyswn i'n disgwyl iddyn nhw gymryd chwe phwynt oddi ar Armenia yn ystod yr ymgyrch."
"Ddwywaith yn unig mae Cymru ac Armenia wedi wynebu ei gilydd, ac hynny yn 2001. 2-2 oedd hi yn Yerevan gyda John Hartson yn rhwydo ddwywaith, a g锚m ddi-sg么r oedd hi yn Stadiwm y Mileniwm."
Twrci (44 yn netholion y byd)
"O'n i'n dweud bod Cymru wedi bod yn ffodus i gael Armenia yn eu gr诺p - wel maen nhw wedi bod yn anlwcus i gael Twrci o 'pot 4'. Maen nhw'n uwch nag Armenia ar restr detholion y byd, a dwi'n meddwl mai nhw fydd y bygythiad mwyaf i Gymru yn y ras am yr ail safle.
"Mae gan Gymru atgofion da o chwarae yn eu herbyn; y tro diwethaf i'r ddwy wlad gwrdd oedd yn Ewro 2020, gyda goliau Aaron Ramsey a Connor Roberts yn sicrhau'r fuddugoliaeth i d卯m Rob Page.
"Mi fydd angen cadw llygad barcud ar chwaraewr canol cae Inter Milan Hakan 脟alhano臒lu - mae ganddo record sgorio dda a mae o'n beryglus iawn gyda chiciau gosod.
"Er fy mod i'n disgwyl i Gymru ennill gartref yn eu herbyn, mi fydd y g锚m oddi cartref yn un anodd.
"Mae pawb yn gwybod am yr awyrgylch tanllyd mae cefnogwyr Twrci yn gallu ei greu.
"Mae gan Gymru record dda yn erbyn Twrci; ennill pedair, colli dwy ac un g锚m gyfartal. Roedd buddugoliaeth 4-0 i Gymru ar Barc Ninian yn 1980, a cholled gofiadwy (6-4) yn Istanbul yn 1997 o dan reolaeth Bobby Gould."
Latfia (133 yn netholion y byd)
"Y detholion isaf yn y gr诺p, a th卯m na ddylai beri unrhyw broblemau i Gymru yn ystod yr ymgyrch gan eu bod nhw'n safle 133 ar restr detholion y byd. Ar 么l dweud hynny mi oedd 2022 yn flwyddyn lwyddiannus iddyn nhw - yn ennill dyrchafiad o Adran D i Adran C yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Eu chwaraewr gorau nhw ydi Vladislavs Gutkovskis sy'n chwarae yn y llinell flaen.
"Fe ddylai Cymru gael dwy fuddugoliaeth gyfforddus yn eu herbyn gan sgorio digon o goliau.
"Dim ond un g锚m sydd wedi bod rhwng Cymru a Latfia, ac hynny ar 18 Awst, 2004, yn Riga. Enillodd Cymru 2-0 y diwrnod hwnnw, gyda John Hartson a Craig Bellamy'n sgorio yn 10 munud ola'r g锚m."
Hefyd o ddiddordeb: