Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Mae'r Gymraeg yn iaith wyddonol'
Owain Beynon o Gaerfyrddin yw'r person cyntaf yn Ysgol Cemeg, Prifysgol Caerdydd i gwblhau ei ddoethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, a chyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, dyna oedd ei ddewis naturiol.
Ond hefyd roedd yn bwysig iddo ddangos "bod y Gymraeg yn iaith wyddonol, mae yna gamsyniad mai Saesneg yw iaith gwyddoniaeth."
Cymru Fyw fu'n sgwrsio gydag Owain a'r Athro Simon Ward o Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd am newid agweddau a'r cyfle mae'r Gymraeg yn ei roi i wyddonwyr.
Cyfraniad arbennig i faes cemeg gatalytig
Mae thesis Owain, 'Astudiaeth Gyfrifiadurol o Strwythur a Sefydlogrwydd Defnyddiau Mandyllog Anorganig', yn gwneud cyfraniad arbennig i faes cemeg gatalytig.
Eglura ei ymchwil ymhellach: "Be o'n i'n neud oedd defnyddio dulliau ceme-cyfrifiadurol i archwilio defnyddiau mandyllog , felly dosbarth o ddeunyddiau cemegol sy'n meddu ar fandyllau.
"Un o'r deunyddiau o'n i'n edrych arno oedd Seolitau sy'n cael ei ddefnyddio fel catalydd (mae catalydd yn cyflymu cyfradd adwaith cemegol) .
"Be o'n i'n neud oedd defnyddio dulliau cemeg cyfrifiadurol i weld sut allan nhw gael eu defnyddio ar gyfer prosesau egni gwyrdd a chemeg cynaliadwy."
Gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg a'r ffrwd o ddarlithwyr gwyddorau cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol, llwyddodd Owain i gwblhau ei thesis a'i viva (arholiad llafar) trwy'r Gymraeg.
Ond doedd ei ddewis i allu gwneud hynny ddim yn bosib pan aeth i'r brifysgol fel myfyriwr israddedig.
Meddai Owain: "Ro'n i wedi astudio Cemeg trwy'r Gymraeg fel pwnc Lefel A yn Ysgol Bro Myrddin wedyn pan es i i astudio Cemeg yng Nghaerdydd, doedd ddim modd astudio unrhyw fodiwlau yn y Gymraeg. Saesneg oedd yr unig opsiwn. Felly oedd rhaid i fi newid iaith bryd hynny. Mae hynny yn wir hefyd am y cwrs Meistr wnes i.
'Y Gymraeg yn iaith wyddonol'
Gyda'r gefnogaeth a'r ddarpariaeth i dderbyn addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn y gwyddorau ffisegol wedi gwella ym Mhrifysgol Caerdydd erbyn hyn, mae Owain yn egluro ei resymau dros gwblhau ei ddoethuriaeth trwy'r Gymraeg, ar 么l pedair blynedd o orfod cael ei arholi trwy'r Saesneg:
"O'n i'n credu yn bersonol fod e'n bwysig, achos mae lot o ymchwil yn cael ei neud drwy'r Gymraeg mewn pethau fel y dyniaethau neu lenyddiaeth.
"I fi oedd e'n bwysig dangos bod y Gymraeg yn iaith wyddonol. Dwi'n credu bod dal llawer iawn o bobl ifanc yn dewis neu'n gorfod astudio pynciau gwyddonol trwy'r Saesneg mewn cyrsiau Lefel A ac yna yn y brifysgol," meddai.
"Mae'n gamsyniad fod astudio'r gwyddorau trwy'r Gymraeg yn rwystr. Mae rhai pobl yn poeni am y terminoleg - mae'n bach o her ond ddim yn rwystr.
"Ro'n i yn cael trafodaethau difyr gyda cemegwyr eraill Cymraeg a chefnogaeth terminolegwyr yng Nghanolfan Bedwyr, Bangor i fathu geiriau newydd. Mae astudio trwy'r Gymraeg yn gyffrous!"
Angen dathlu gwyddonwyr Cymreig
'Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri' yw ail linell Hen Wlad Fy Nhadau. Ond beth am y gwyddonwyr?
Mae Owain yn teimlo bod angen rhoi mwy o bwyslais ar gyfraniad gwyddonol Cymru, ddoe a heddiw.
"Dwi'n credu pan mae pobl yn meddwl am y diwylliant Cymraeg - maen nhw'n meddwl am y celfyddydau a'r dyniaethau. Mae llawer o wyddonwyr enwog iawn o Gymru ac mae angen dathlu hynna.
"Un o fy hoff wyddonwyr i yw John Meurig Thomas - cawr o gemegwr. Mae diwylliant gwyddonol Cymru yr un mor gyfoethog a'n diwylliant celfyddydol."
Gwyddoniaeth, y Gymraeg a gyrfa
Ar hyn o bryd mae Owain newydd ddechrau ymchwil pellach yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
Meddai: "Dwi wedi dechre post-doc position yno ym maes ceme-cyfrifiadurol a modelu deunyddiau."
A beth fu'r ymateb gan y brifysgol yn Llundain i'w ddoethuriaeth?
"Maen nhw wedi bod yn gefnogol, yn frwd ac yn meddwl ei fod e'n ddiddorol ac yn c诺l iawn 'mod i wedi cwblhau'r doethuriaeth trwy Gymraeg. Mae'n dangos nad ydy'r Gymraeg yn rhwystr i unrhyw fath o gyrhaeddiad neu ddyhead wedyn yn eich gyrfa wyddonol."
'Dylai gwneud ymchwil trwy'r Gymraeg ddim bod yn syndod'
Un sy'n ymfalchio yn llwyddiant Owain ond sydd hefyd "eisiau normaleiddio" addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn y gwyddorau yw'r Athro Simon Ward, cyfarwyddwr Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Eglura: "Dyna beth wy yn yn anelu ato nawr ar 么l gweld be sy'n bosib gydag Owain - jest normaleiddio.
"Dylai gwneud PHD gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg ddim bod yn syndod nac yn unrhywbeth anarferol.
"Mae hefyd angen i'r cyfryngau a'r wasg Gymraeg ddathlu cyfraniad gwyddonol pobl fel Owain nid jest yr ochr ieithyddol eu hymchwil.
"Mae ymchwil gwyddonol o Gymru yn rhoi statws i Gymru a'r Gymraeg. Mewn cynadleddau rhyngwladol, pam i fi wedi bod yn America, Asia, Yr Eidal, Yr Almaen ac yn y blaen, mae llwyth o ddiddordeb gyda nhw pan maen nhw'n gweld teitlau yn y Gymraeg mewn cyflwyniad. Mae llawer yn siarad mwy nag un iaith eu hunain ac mae'n arferol iddyn nhw weld neu glywed ymchwil mewn iaith arall.
"Fel siaradwyr Cymraeg, dyw e ddim yn dod yn naturiol i ni ymfalch茂o ynddon ni ein hunain. Rhaid i ni ddod dros ein hunain i ddweud - 'Ni'n gallu bod yn llwyddiannus ar lefel ryngwladol drwy gyfrwng y Gymraeg.'
Newid agweddau
Yn frodor o Abertawe, trwy gyfrwng y Saesneg y cwblhaodd Simon ei bynciau Lefel A yn Morriston Comprehensive School cyn astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt.
"Y neges ges i yn yr ysgol a falle yn fwy eang na hynny oedd, 'Os ti moyn llwyddo mewn meysydd gwyddonol, i neud e tu fas i Gymru ac yn sicr nid trwy gyfrwng y Gymraeg.'"
Ar 么l gweithio am flynyddoedd yn Lloegr i gwmn茂au fferyllol mawr yn datblygu cyffuriau, dychwelodd i Gymru i weithio ym Mhrifysgol Caerdydd bedair blynedd yn 么l.
Er i Simon fethu allan ar addysg Gymraeg yn ei faes, mae'n falch ei fod yn gallu cynnig hynny i'w fyfyrwyr heddiw.
Un o'i ddyheadau i'w fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg sydd yn mentro i'r byd diwydiannol ar 么l graddio yw eu bod yn parhau i ddefnyddio'r iaith.
"Dwi ddim yn gweld unrhyw rwystr o gwbl mewn gweithio ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r iaith wedi fy helpu i i gael gwared ar jargon gwyddonol ac i fod yn gyfathrebwr gwell, ac i ffurfio perthnasau cryfach gyda gwyddonwyr o bob iaith ac o bob cefndir.
"Gobeithio y bydd pobl fel Owain yn mynd n么l i'w hysgolion i ddangos yr hyn maen nhw wedi ei elwa wrth astudio gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg, a bydd disgyblion, athrawon a rhieni yn gweld y drysau mae hynny'n agor.
"Ond mae dal angen mwy o strategaeth i hybu'r Gymraeg fel iaith gwyddoniaeth, o'r ysgol i'r brifysgol a thu fas yn y byd gwaith."