大象传媒

Ymarfer corff i bawb, beth bynnag eich maint

  • Cyhoeddwyd
Sara Huws yn codi pwysauFfynhonnell y llun, Aspire Physiotherapy

"Tase chi wedi gofyn i mi ddeng mlynedd yn 么l i ddisgrifio rhywbeth brawychus, debyg iawn y byddwn i wedi disgrifio gym; gofod anghyfarwydd, swnllyd, llawn dynion cyhyrog a pheiriannau rhyfedd."

Bellach, mae Sara Huws wrth ei bodd yn codi pwysau yn y gampfa, cerdded mynyddoedd neu'n nofio yn yr awyr agored, ac mae hi'n annog pobl eraill maint 'plus' i chwalu'r stereoteip fod ymarfer corff i bobl tenau yn unig, ac i fentro ar her newydd... a'i fwynhau.

Dyma ei phrofiad hi:

Dw i wedi hen arfer bod yn dew. Pan fydda i'n chwysu yn y gym, ar y traeth yn fy wetsuit, neu ar y bryniau, yn aml fi fydd y person tewa' yno. Dydi hynny ddim yn newydd - ers magu pwysau yn sydyn tua naw oed, mae siartiau'r meddyg wedi fy labelu yn 'or-dew' ar hyd fy oes.

Beth sydd yn newydd i mi, fodd bynnag, ydi canfod weithiau mai fi yw'r nofwraig gryfa', y gerddwraig mwya' dygn, a'r person mwya' ffit yn y dosbarth ymarfer.

Efallai bod y gwrthgyferbyniad yn swnio'n anhebygol iawn, yn enwedig i chi ddarllenwyr tenau; a fy mod yn dioddef dan rhyw fath o gamargraff drasig. Efallai bod y rhai mwy beirniadol yn eich mysg yn credu y dylwn i golli pwysau 'yn breifat' gynta', cyn mentro mewn i rywle mor egsotig 芒 champfa, neu ddilledyn fel bikini.

Ond fel rhywun maint plus sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol, a'n rhan o gr诺p sy'n arwain y gad yn y byd awyr agored, dwi'n falch o ddweud bod ein mudiad yn tyfu - a dim ots o gwbl beth yw maint ein haelodau.

Cit, cynrychiolaeth a chyfleon

Sefydlwyd Every Body Outdoors gan griw ohonom oedd wedi laru ar agweddau hen ffasiwn a diffyg dillad addas yn y byd gweithgareddau awyr-agored.

Roedden ni wedi cael digon ar fod yn oer a gwlyb allan ar y bryniau, am fod cot dda mewn maint plus yn amhosib i'w chanfod, ac wedi blino ar y stereoteip o'r fynyddwraig fain, sbonciog, ac yn cas谩u clywed y geiriau cyfarwydd - 'good for you' - ar y llwybr, yn enwedig pan yn dringo'r un copa 芒 phawb arall.

Erbyn hyn, 'dyn ni'n gymuned o filoedd, a mae'n t卯m bychan wedi gweithio'n llwyddiannus gyda chwmn茂au fel Alpkit, Patagonia, Merrell a mwy i wneud yn siwr bod dillad addas i'w cael mewn meintiau ehangach, fel bod rhagor ohonom yn medru mwynhau heicio, dringo, padl-fyrddio ac anturio.

Ffynhonnell y llun, Frankie Dewer ac All The Elements
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sara ar banel gydag aelodau eraill o'r mudiad Every Body Outdoors yng Ng诺yl Mynydd Kendal, yn trafod cynhwysedd maint a phwysigrwydd cael dillad ymarfer corff sydd yn ffitio pobl o faint 'plus'

'Dyn ni hefyd wedi gweithio i ddarganfod siopau bychain fyddai'n fodlon cadw stoc o ddillad gan frandiau sy'n arbenigo mewn dillad maint plus - ond oedd wedi methu dwyn persw芒d ar y siopau mawrion i'w gwerthu, fel Alpine Parrot, Gregory Packs ac Outdoor Research.

Lai na blwyddyn wedi sefydlu ein menter, cawsom wahoddiad i gynnal panel am gynhwysedd maint yng Ng诺yl Mynydd Kendal, un o lwyfannau mwyaf dylanwadol y byd gweithgareddau awyr-agored.

Dillad addas; dechrau'r siwrne

Cit addas yw dechrau'r stori, fodd bynnag - y peth pwysig yw'r hyn y gall dillad addas ei hwyluso. Mae'n agor y drws at brofiadau a sialensau newydd, yn galluogi i ni ehangu ein gorwelion, ac yn ein cadw'n ddiogel wrth i ni ymgymryd 芒 gweithgareddau mwyfwy uchelgeisiol.

I'r perwyl hwnnw, 'dyn ni'n annog ein haelodau i gwrdd er mwyn trio gweithgareddau newydd gyda'i gilydd, ac yn cefnogi cyrsiau sgiliau mynydd yn arbennig ar gyfer pobl maint plus.

Sgil effaith hyn yw ein bod yn gweld cymaint o bobl yn magu hyder, yn rhoi tro ar rywbeth newydd, neu'n ail-gydio mewn rhywbeth sy'n dod 芒 boddhad. Mi fyddwn ni'n clywed yn aml gan fenywod, er enghraifft, sydd wedi rhoi'r gorau i weithgaredd ar 么l cael plant, ac yn teimlo'n betrus am ail-afael ynddi.

Bydd eraill wedi cael profiad anymunol, neu wedi bod yn destun sylwadau creulon, ac mae darganfod gr诺p o bobl sy'n rhannu a deall eu profiad yn hwb i'w hunan-hyder.

Dwi'n falch iawn i ddweud bod ein haelodau yn malio llai am farn bobl eraill am eu cyrff, ac yn canolbwyntio ar fwynhau gweithgareddau ddylai fod i bawb. Mae mwyfwy o bobl maint plus yn wfftio pwysau cymdeithasol, ac yn mynd ati i feddiannu gofodau sy'n draddodiadol yn diriogaeth y bobl slinci a slim, ac yn mwynhau wrth wneud.

Codi pwysau a chanfod cymuned

Er bod fy ngwaith gydag Every Body Outdoors yn fy arwain i lefydd anhygoel ym myd natur, dw i hapusa' mewn campfa di-ffenest, y gerddoriaeth yn uchel a phwysau trwm o fy mlaen.

Tase chi wedi gofyn i mi ddeng mlynedd yn 么l i ddisgrifio rhywbeth brawychus, debyg iawn y byddwn i wedi disgrifio gym; gofod anghyfarwydd, swnllyd, llawn dynion cyhyrog a pheiriannau rhyfedd. Erbyn heddiw, dw i'n jic么s reit wrth y dumbells, a mae Romanian Deadlift yn swnio fel hwyl, nid techneg artaith.

Ffynhonnell y llun, Sara Huws
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y wyneb 'na pan ti wedi llwyddo.... Sara yn ei chystadleuaeth codi pwysau gyntaf, gyda'r British Drug-Free Powerlifting Federation

Damwain a hap oedd i mi syrthio yn y twyni ym Merthyr Mawr un bore Sul yn 2016, a damwain bellach oedd imi gyrchu ffisiotherapydd oedd hefyd yn arbenigo mewn hyfforddi nerth.

Wrth i ni weithio gyda'n gilydd i wella'r anaf, dyma roi tro ar rai godi p诺er - powerlifting - a darganfod bod rhywbeth trawsnewidiol amdano. Tu hwnt i'r ffaith ei fod yn eich ymbweru yn y ffordd fwya' llythrennol, mae gan chwaraeon nerth gymuned groesawgar a hynod gefnogol. Does dim ots beth yw'ch pwysau chi - y pwysau ar y bar sy'n cyfri.

Eleni, fe gystadlais yn fy nghystadleuaeth ffurfiol gynta', a dod 芒 thlws adre gyda fi am fy ngorchwyl. Wrth i fi rannu'n siwrne drwy Instagram, dw i'n siarad gyda menywod yn rheolaidd - o bob si芒p - sydd wedi eu hysgogi i roi tro ar godi pwysau. Yn ei dro, mae hynny yn anogaeth hyfryd, sy'n fy ngyrru innau 'mlaen.

Mynd amdani

Ond y tu hwnt i'r gofodau yma, dw i dal yn gweld triniaeth sarrug a sarhaus o bobl maint plus, nid yn unig ar-lein yn y mannau arferol, ond gan ein gwneuthurwyr polisi a gwleidyddion.

Dw i wedi blino cael fy nisgrifio fel 'epidemig', yn rhestr o bethau i'w trwsio, neu'n destun polis茂au sy'n ein trin fel plant afreolus sy'n methu 芒 gofalu amdanom ni'n hunain - yn hytrach na gofyn i ni beth yw'r sialensau 'dyn ni'n eu hwynebu, a sut y gellid eu lleddfu.

Dw i wedi blino ar bobl yn gosod terfynau ar beth sy'n 'barchus' i mi ei wneud yn y corff sydd gen i - a'r cysyniad y dylwn i fod yn 'ddigon tenau' cyn i mi gael caniat芒d i gymryd rhan yn yr hyn sy'n fy moddhau a fy niddori.

Ffynhonnell y llun, Rebecca Dawson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nofio gwyllt yn hobi arall mae Sara wrth ei bodd yn ei wneud - diolch i wetsuit sydd yn ffitio

Ond mae 'na gymuned ohonom sydd yn torri ein cwys ein hunain - gan ganolbwyntio ar yr hyn allwn ni ei wneud, yn rhannu boddhad bod allan mewn natur, neu godi pwysau, neu ddringo, neu nofio gwyllt.

Mae cymaint o bosibiliadau, a thrwy waith grwpiau fel Every Body Outdoors, mae'r ddarpariaeth yn gwella yn gyson. Os ydych chithau'n maint plus, dwi'n eich annog i ymuno, i gymryd rhan, ac i fentro - mae 'na gymuned allan 'ma, a 'dyn ni'n edrych 'mlaen i'ch croesawu.

Pynciau cysylltiedig