Galw am newid 'sylfaenol' i ddeddfau c诺n peryglus wedi marwolaeth mab
- Cyhoeddwyd
Mae mam bachgen 10 oed a gafodd ei ladd gan gi yn 2021 yn galw am newid "sylfaenol" i ddeddfau c诺n peryglus.
Bu farw mab Emma Whitfield, Jack Lis, yn dilyn yr ymosodiad mewn t欧 yng Nghaerffili ar 8 Tachwedd 2021.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod gweithgor wedi ei sefydlu i edrych ar ffyrdd o leihau ymosodiadau gan g诺n, a fydd yn adrodd yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Ms Whitfield fod ei theulu wedi eu "dinistrio" gan farwolaeth Jack.
"Doedden ni byth yn disgwyl i hyn ddigwydd o gwbl, ac i fynd o'i godi o'r ysgol i lai nag awr yn ddiweddarach cael gwybod ei fod wedi mynd - mae hynny'n rhywbeth sy'n aros gyda mi bob dydd."
Cafodd dyn a dynes eu carcharu mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad ym mis Mehefin 2022, am fod yn berchen ar gi peryglus neu yng ngofal ci oedd allan o reolaeth.
Cafodd Amy Salter, 29, ei dedfrydu i dair blynedd ac fe gafodd Brandon Hayden, 19, ei ddedfrydu i bedair blynedd a chwe mis.
Yn ogystal, ni fydd hawl ganddynt i fod yn berchen ar gi wedi iddyn nhw adael y carchar.
Roedd y ddau eisoes wedi cyfaddef yn Llys y Goron Caerdydd i fod yng ngofal ci peryglus.
Bu farw Jack, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Cwm Ifor, Caerffili, yn y fan a'r lle yn dilyn yr ymosodiad mewn t欧 ym Mhentwyn, Penyrheol.
Dywedodd Ms Whitfield ei bod am weld newid ar draws "y sbectrwm cyfan". o fridio i ddedfrydu.
"Hoffwn weld mwy o newidiadau o ran bridio fel nad yw pawb yn gallu bridio c诺n," meddai.
"O ran gwerthu, nid yw'n deg bod unrhyw un yn gallu gwerthu anifail heb unrhyw wybodaeth flaenorol na gofalu am bwy y mae'n mynd.
"Dydw i ddim yn meddwl bod dedfrydu ar hyn o bryd yn atal pobl rhag gwneud yr hyn maen nhw'n ei wneud."
Cafodd y ci, oedd o fr卯d XL Bully ac o'r enw Beast, ei ddifa gan swyddogion heddlu arfog.
Nid oedd yn fr卯d sydd wedi'i wahardd yn y DU.
Roedd Ms Whitfield yn San Steffan gyda Wayne David, ei AS lleol, i lob茂o Aelodau Seneddol mewn sesiwn galw heibio.
Dywedodd Mr David eu bod eisiau "newid sylfaenol yn y gyfraith".
"Ar hyn o bryd mae'r gyfraith yn nodi'n syml bedwar br卯d fel c诺n peryglus.
"Rydym eisiau dull gwahanol sy'n cynnwys pob ci ac sy'n canolbwyntio ar fridio, hyfforddi, gwerthu c诺n a phopeth sy'n ymwneud 芒 ch诺n."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU ei bod yn drosedd o dan Ddeddf C诺n Peryglus 1991 i ganiat谩u i unrhyw gi fod allan o reolaeth yn beryglus.
Clywodd y llys fod Jack wedi mwytho pen Beast mewn t欧 yng Nghaerffili ar 8 Tachwedd, ond fod y ci wedi neidio ar y bachgen, ei wthio i'r llawr a dechrau ymosod arno.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ein syfrdanu gan farwolaeth drasig Jack Lis ac yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'w deulu mewn profedigaeth.
"Mae llawer o bobl yn elwa o berchnogaeth neu gysylltiad 芒 ch诺n, ond mae'n gwbl annerbyniol bod diogelwch unrhyw un yn cael ei roi mewn perygl gan gi.
"Mae hybu perchnogaeth gyfrifol o g诺n yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae ein Cod Ymarfer er Lles C诺n yn amlinellu'r rhwymedigaethau sydd gan berchnogion i gadw eu c诺n dan reolaeth.
"Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys sawl mesur a fydd yn gwella safonau bridio a chadw c诺n yng Nghymru.
"Fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth y DU gryfhau Deddf C诺n Peryglus 1991 sydd heb ei datganoli.
"Rydym yn adolygu'n gyson yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru i atal y peryglon a achosir gan berchnogaeth anghyfrifol o g诺n, tra'n hyrwyddo'r manteision y gall c诺n eu rhoi i gymdeithas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd5 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2021