Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Caerdydd: Dyn wedi'i gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad
Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd brynhawn Mawrth.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd y Gogledd yn ardal Y Waun Ddyfal ger Ysgol Uwchradd Cathays toc cyn 13:00.
Dywedon nhw fod y dyn wedi'i anafu'n ddifrifol, a bod fan wen "wedi cael ei chymryd er mwyn cynnal profion".
Ychwanegon nhw ei bod yn aneglur ar hyn o bryd pwy oedd yn gyrru'r fan ar y pryd, ond nad oes unrhyw un wedi'i arestio.
Dywed y llu y bydd y l么n yn debygol o fod ar gau am rai oriau.
Mae'r heddlu'n apelio am dystion ac yn cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal.
Maen nhw hefyd yn awgrymu y dylai cefnogwyr sy'n mynd i wylio g锚m Cymru yn erbyn Latfia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth ystyried ffyrdd eraill o gyrraedd y stadiwm.