大象传媒

Caerdydd: Dyn wedi'i daro a'i lusgo dan ei fan gafodd ei dwyn

  • Cyhoeddwyd
lleoliad y gwrthdrawiad
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad tu allan i Ysgol Uwchradd Cathays

Mae dyn wedi ei arestio ar 么l i yrrwr fan ddosbarthu gael ei daro tra'n gwneud ei waith ar ffordd yng Nghaerdydd.

Fe gafodd y gyrrwr ei lusgo dan y cerbyd ar hyd Ffordd y Gogledd yn ardal Y Waun Ddyfal brynhawn Mawrth, meddai'r heddlu.

Mae dyn 54 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol y brifddinas. Mae dyn 39 oed yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn archwilio fan ddosbarthu wen a gafodd ei dwyn cyn i'r cerbyd daro'r gweithiwr.

Mewn datganiad dywedodd y Prif Arolygydd Matt Powell o Heddlu De Cymru: "Am 12:49 brynhawn Mawrth, fe wnaethom dderbyn adroddiad am yrrwr wnaeth fethu 芒 stopio wedi gwrthdrawiad ar Ffordd y Gogledd yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'r ffordd ar gau tan 21:30 nos Fawrth ac mae archwiliadau'n parhau

"Fe allwn gadarnhau bellach bod y fan ddosbarthu wedi cael ei dwyn o Rodfa Laytonia gerllaw tra bod y gyrrwr yn dosbarthu parseli ar y stryd.

"Yn ystod y lladrad credir bod y fan wedi gwrthdaro 芒'i pherchennog a'i fod yna wedi cael ei gario gan y cerbyd am gryn bellter cyn i'r fan ddod i stop ar Ffordd y Gogledd.

"Mae hwn yn ddigwyddiad sy'n peri sioc ac ry'n yn meddwl am aelodau teulu'r dioddefwr, sy'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol."

'Llusgo dan y fan am 50metr'

Fe ddisgrifiodd Dr Tamar Elsayed yr hyn welodd adeg y gwrthdrawiad wrth eistedd yn ei swyddfa ar Ffordd y Gogledd.

"Fe welodd fy mhartner, oedd yn eistedd wrth fy ymyl, y dyn dan y car, wedi ei anafu."

Dywedodd Dr Elsayed eu bod wedi mynd i weld a oedd y dyn yn iawn ond ei fod "eisoes yn anymwybodol".

"O fewn munudau fe ddaeth y gwasanaethau brys ac fe wnaethon nhw waith arbennig.

"Fe gymerodd y gwasanaeth tan reolaeth, roedden nhw'n gwneud CPR, roedden nhw'n gwneud cymaint o waith i achub ei fywyd, ac roedd y parafeddygon yn gwneud popeth posib i achub ei fywyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ffoniodd Dr Tamar Elsayed y gwasanaethau brys ac fe welodd y fan yn gadael y digwyddiad

Ychwanegodd ei bod hi'n "anodd ceisio datrys ble gafodd ei daro a sut ddigwyddodd y gwrthdrawiad".

"Fe wnaethon ni wirio camer芒u tua dwy awr yn ddiweddarach ac fe ddaeth i'r amlwg ei fod wedi ei daro ger y goleuadau traffig tua diwedd y bloc ac fe gafodd ei lusgo'r holl ffordd i fan hyn sydd tua 50 metr.

"Mae'n rhaid fod y cyfan wedi bod yn boenus ac yn erchyll iddo.

"Fe welais gleisiau a briwiau difrifol ar ei ddwylo a'i freichiau, roedd ei ben wedi ei anafu, roedd e'n gwaedu, mae'n rhaid ei fod wedi dioddef."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddaeth y fan i stop ar Ffordd y Gogledd ar 么l i'r dyn gael ei daro

Roedd Ffordd y Gogledd ar gau tan 21:30 nos Fawrth.

Mae plismyn yn diolch i yrwyr a'r gymuned leol am eu hamynedd tra bod archwiliadau hanfodol yn cael eu cynnal, ac mae ymholiadau o d欧 i d欧 yn parhau.

"Rwyf am ddiolch yn benodol i bawb wnaeth geisio helpu'r dioddefwr ac sydd wedi rhoi gwybodaeth hanfodol i ni," ychwanegodd y Prif Arolygydd Powell.

"Er ein bod wedi arestio un dyn fe fyddem yn hoffi clywed gan unrhyw un oedd yn dyst neu sydd 芒 ffilm o fan Renault wen yn cael ei gyrru rhwng ardal Rhodfa Laytonia a Ffordd y Gogledd rhwng 12:45 a 12:50 ddydd Mawrth."

Pynciau cysylltiedig