Pum munud gyda Bardd y Mis: Alan Llwyd
- Cyhoeddwyd
Y prifardd, y cofiannwr, llenor, ysgolhaig a'r sgriptiwr Alan Llwyd yw Bardd Mis Ebrill Radio Cymru. Cymru Fyw fu'n ei holi.
Rydych chi wedi cyhoeddi bron i 80 o lyfrau, o gyfrolau barddoniaeth, i gofiannau a gwerslyfrau. Pa gyfrol ydych chi'n fwyaf balch ohoni?
Mi ydw i'n falch iawn o nifer ohonyn nhw, ond, am mai bardd ydw i'n bennaf, byddwn yn dewis fy mhrif gasgliadau o farddoniaeth: Cerddi Alan Llwyd: y Casgliad Cyflawn Cyntaf 1968-1990, Cerddi Alan Llwyd: yr Ail Gasgliad Cyflawn 1990-2015, Cyrraedd a Cherddi Eraill a Cyfnos. Mi ydw i hefyd yn hynod o falch o lwyddiant y ffilm Hedd Wyn.
Mae eich cyfrol newydd o gerddi, Cyfnos, yn edrych ar dreigl amser o safbwynt oedolyn a welodd amser yn llithro heibio ac sy'n gresynu at y ffaith fod amser yn cerdded o hyd. Petaech yn ddeunaw oed eto, beth fyddai'r cyngor y byddech yn ei roi i chi eich hun?
Paid 芒 bod yn fardd, beth bynnag 'wnei di! Na, o ddifri, byddwn yn dweud wrth yr egin-bardd neu'r egin-llenor deunaw oed i wneud yn union yr hyn a wnes i: darllena'n eang, darllena weithiau beirdd a nofelwyr yn y gwreiddiol ac mewn cyfieithiadau; gloywa dy grefft trwy ei hymarfer yn gyson, a dilyna dy lwybr dy hun.
Cyfeiriodd Yr Athro Gwyn Thomas atoch unwaith, "yn rhyw fath o gofnodwr y genedl". Pa bynciau llosg y dydd sy'n eich cymell i ysgrifennu y dyddiau hyn?
Hoffwn weld Cymru yn ennill annibyniaeth, llwyr annibyniaeth, nid annibyniaeth rannol. Hoffwn weld beirdd a llenorion yn defnyddio llai o Saesneg yn eu gweithiau. Mae hyn yn gwanhau'r Gymraeg yn rhyfeddol. Mae ymosodiad Putin ar Wcr谩in yn d芒n ar fy nghroen i.
Mae cyflwr y blaned yn boendod imi. Credaf hefyd mai camgymeriad enfawr oedd y penderfyniad i adael Ewrop. Mae'r awgrym lleiaf o hiliaeth yn fy ngwylltio. Mae'r pynciau hyn i gyd yn amlwg iawn yn Cyfnos.
Chi yw awdur cofiannau R. Williams Parry, Kate Roberts, Waldo Williams a Gwenallt. Petaech chi'n cael dewis rhywun i ysgrifennu cofiant amdanoch, pwy fyddech chi'n ymddiried i wneud hynny?
Robert Rhys. Mae o wedi bod yn gefnogol iawn i mi drwy'r blynyddoedd. Ac mae'n fwy na chymwys.
Fel awdur, llenor, bardd ac ysgolhaig toreithiog sut fyddwch chi yn rheoli eich amser a beth fyddwch chi'n ei wneud i ymlacio?
Gwylio'r teledu o 8 o'r gloch y nos hyd at tua hanner nos - gwylio ffilmiau, dram芒u a rhaglenni dogfen yn bennaf; chwarae Scrabble yn erbyn y cyfrifiadur o leiaf ddwywaith y dydd (cadw'r meddwl i droi ac i drin geiriau); gwylio gemau p锚l-droed ar y teledu; darllen, a gwrando ar gerddoriaeth o bob math.
Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Dafydd ap Gwilym. Hoffwn weld beth roedden nhw'n ei wneud yn y cyfnod hwnnw. Hoffwn gael cip ar ysgolion barddol y cyfnod. Hoffwn wybod beth roedd pobol yn ei wneud yn y cyfnod pell hwnnw - cyfnod heb deledu na radio na chyfrifiaduron. Beth roedden nhw yn ei wneud i'w difyrru eu hunain. Ac am beth fydden nhw'n sgwrsio, ac yn y blaen.
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Marwnad Llywelyn ap Gruffudd (ein llyw olaf) gan Gruffudd ab yr Ynad Coch. Mae hi'n ysgubol, ac mae'n codi ymhell uwchlaw marwnadau eraill y cyfnod. Fel hyn y disgrifiais y gerdd mewn llyfr sydd i'w gyhoeddi yn y man, Hanes y Gynghanedd:
"Ar lawer ystyr, mae canu Beirdd y Tywysogion yn cyrraedd ei anterth gydag un o gerddi mwyaf y Gymraeg drwy holl ganrifoedd hanes, sef marwnad Gruffudd ab yr Ynad Coch i Lywelyn ap Gruffudd.
Yn y gerdd hon y mae nifer o elfennau yn dod ynghyd i greu un g芒n fawr, ac y mae crefft ac angerdd yn cydasio'n berffaith i roi mynegiant eirias i golled sy'n bersonol ac yn genedlaethol ar yr un pryd - yn wir, mae hi'n golled gosmig, fydeang a bydysawd-eang sy'n cyrraedd hyd at Dduw ei hun. Nid dilyn confensiwn a wneir yma; nid ymateb yn swyddogol-ffurfiol i farwolaeth arglwydd a noddwr, ond ymateb o ddwfn y galon i drychineb enfawr, pellgyrhaeddol a fyddai'n gweddnewid hanes a gwleidyddiaeth Cymru am byth.
Un o gryfderau'r gerdd yw'r modd y mae'r awdur wedi deall union arwyddoc芒d yr hyn a ddigwyddodd yng nghyffiniau Cilmeri ar Ragfyr 11, 1282. Ni cheir ynddi unrhyw ymorchestu mewn cyfuniadau neu addurniadau cynganeddol cymhleth, rhag ofn i hynny dynnu sylw oddi ar yr ystyr."
Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?
Cyfeiriais at Hanes y Gynghanedd uchod, sef hanes y gynghanedd, o'r modd yr esblygodd ac y datblygodd, o'r chweched ganrif hyd y flwyddyn 2000.
Hefyd o ddiddordeb: