Pum munud gyda Bardd y Mis: Si芒n Melangell Dafydd
- Cyhoeddwyd
Mae'n fis Chwefror a Si芒n Melangell Dafydd yw Bardd y Mis, Radio Cymru. Nid bardd yn unig mo Si芒n. Mae hi hefyd yn ddarlithydd, yn fam, awdures, golygydd, athrawes yoga ac ymysg ei diddordebau mae fforio bwydydd gwyllt. Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod.
Cefaist dy fagu mewn ardal wledig yn Llwyneinion ger Y Bala a rwyt bellach yn rhannu dy amser rhwng Cymru a Ffrainc. Ydy byw yng Nghymru a byw yn Ffrainc wedi dysgu pethau gwahanol i ti fel bardd/awdures, neu wedi dy ysbrydoli mewn ffyrdd gwahanol?
Mae hwn yn gwestiwn andros o anodd ei ateb. Yn syml - ydi mae wedi fy newid. Sut - dyna sy'n achosi penbleth. Weithiau mi fydda i'n sefyll yn stond isio dweud gair Ffrangeg yn Gymraeg a ddim yn medru ffeindio'r gair sy'n ffitio'n iawn yn fy mamiaith. Mae hyn yn digwydd hefo'r Eidaleg hefyd.
Am flynyddoedd, roedd siarad Ffrangeg yn teimlo fel mod i'n poeri fy nannedd allan. Mae byw yn Ffrainc wedi rhoi blas i mi am ffrwythau kaki a kumkuat. Ac unrhyw farchnad fwyd lle mae'r cynnyrch wedi dod o'r pridd. Mae'r pridd yn fy sgwennu fel Cymraes, ond magodd Ffrainc ychydig o hynny ynof fi hefyd.
Mae'r cwbl wedi ei wehyddu'n un bellach, dylanwad un lle a'r llall. Fel mae rhywun yn dweud 'dwi'n mynd adre' yn y ddau le, i olygu'r llall. A mae gen i obsesiwn hefo'r gair ag ystyr dwfn y gair 'adre'. Does dim gair am adre sy'n ddigonol yn Ffrangeg a mae hynny'n fy nychryn i.
Ond rydw i fwy yng Nghymru na Ffrainc erbyn hyn. Rai blynyddoedd 'n么l, gofynnodd rhywun i mi mewn holiadur tebyg i hwn, sut ydw i'n dychmygu fi'n hun fel hen ddynes. Ac mi atebais y byddwn yn byw ar ben mynydd yn gwau sanne, yn cofio dyddiau dinesig yn dawnsio Tango. Ella 'mod i ar y ffordd.
Rwyt yn hoff o ysgrifennu am fyd natur, ac mae'n elfen amlwg yn dy waith. O lle daw'r dylanwad hynny? Ydy byd natur wedi bod yn bwysig i ti erioed neu'n werthfawrogiad sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd?
Tydw i ddim yn unig, dwi'n si诺r, o fod wedi cymryd byd natur yn ganiataol pan oeddwn i'n fychan? Rhai lwcus yden ni, os cawn fagwraeth fel'na - fod bod tu allan yn rhan mor annatod o fywyd fel nad ydio'n 'arbennig'! Ond wedyn o'i golli am unrhyw gyfnod, mae rhywun yn deall ei werth.
Cefais fy magu yn casglu byrnau hefo teulu dad yn yr haf, yn rhedeg ar 么l defaid gystal 芒 ch诺n defaid Taid Bryn. Dwi wedi trafod ei ddylanwad o a'r sylw fyddai'n roi i enwau a rhinweddau glaswellt amrywiol hyd syrffed dwi'n si诺r. Fy hen, hen daid oedd yr un olaf i greu ac i ddefnyddio cwrwgl ar yr afon Ddyfrdwy. Mae'r afon yna yn fy n诺r inne dwi'n meddwl. Mae'n uchelgais gen i adeiladu cwrwgl fel wnaeth o, yn union. Nid unrhyw si芒p ond si芒p y Ddyfrdwy. Ond mae yna ddealltwriaeth a gwybodaeth goll hefyd. O grwydro rydw i wedi deall gwerth dod adre.
Mae fforio, sef casglu bwydydd gwyllt, o ddiddordeb i ti. 脗 thithau'n fardd mis Chwefror, beth allwn ni ei fforio yng Nghymru ym mis Chwefror?
Nid Chwefror ydi'r mis fforio hawdd, rhaid dweud.
Ond ddoe, dysgodd fy mab (4 oed) i'w ffrind, y gallai hi fwyta deilen gron (bogail y bugail / deilen botwm bol / bogail y forwyn / deilen geiniog - i roi rhai enwau eraill). Ond mae o'n cyhuddo'r wal o fod yn chwerw fel arfer, ar 么l ei flasu!
Cwpanau robin goch allan ond ddim mor niferus 芒 flwyddyn dwetha.
Yn fwy cyffredin: mae'r danadl poethion wedi dechrau tyfu - hwr锚 - mae fy nghorff i'n eu crefu. Egin caci mwnci mewn rhai llefydd. Mae dail tafol, gwlydd y dom, garlleg trionglog, wedi pipio allan o'r ddaear ym Mangor lle dwi'n gweithio yn y brifysgol y dyddiau hyn (ond nid yn y Bala). Ond ara deg pia hi. Ni ydi'r rhai olaf sydd a'r hawl i fynd ati i lenwi'n boliau yr amser yma o'r flwyddyn, dwi'n ei deimlo. Rhown gyfle i'r planhigion gryfhau, rhown gyfle i greaduriaid eraill byd natur yn gyntaf...
A mae'n rhaid i mi ddweud gair, fel arfer, fod isio defnyddio'r pedwar synnwyr cyn mentro synnwyr blas - i fod yn hollol si诺r o beth ydi'r planhigyn. Mae suran blasus iawn yn edrych yn debyg iawn i ddail ifanc pidyn y gog (gwenwyn) yr amser yma o'r flwyddyn, os nad ydi rhywun yn ofalus ac yn gwybod...
Yr un sgil o sylwgarwch sydd ei angen ar y bardd wedi'r cwbl...
Rwyt ti'n ymarfer yoga, ac yn athrawes yoga - gweithgaredd sy'n llesol i'r corff a'r meddwl. Ydy yoga, ymlacio a hunanofal o gymorth i ti wrth ysgrifennu?
Dyma gwestiwn anodd arall. Yden, maen nhw'n ddau ymarferion hollol annatod nes bod esbonio sut yn gymleth. Does dim ffin rhwng y 'bod', yn bresennol, byw, astud drwy fyfyrdod, symudiadau yoga, a sgwennu - ddim bellach. Mae gwylio'r cysylltiad rhwng un a'r llall yn waith oes (ac yn bwnc doethuriaeth i mi ar hyn o bryd.)
Pa ddarn o farddoniaeth fyddet ti wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Does dim byd yr hoffwn i fod wedi ei ysgrifennu yn lle'r bardd neu awdur ei hun - mae hynny'n emosiwn od rhywsut. Ond mae balchder fod rhywbeth yn bodoli, yn cael ei gynnig i'r byd, i chwalu meddwl rhywun (fi, eraill), i newid y byd. Dwi am enwi un sy'n arbennig i mi - 'Girls coming out of the woods' gan Tishani Doshi - yn gydbwysedd o gynddaredd a chariad. Mae ysgrifennu o emosiwn blin, o wylltineb, heb golli'r darllenwr yn medru bod y peth mwyaf dirdynnol erioed - a'r anoddaf.
Beth sydd ar y gweill gen ti ar hyn o bryd?
Gormod, ond dyna yw fy hanes i! Mae gen i nofel Saesneg fel rhan o ddoethuriaeth - nofel ddechreuodd fel stori fer yn y cylchgrawn Planet flynyddoedd lawer yn 么l.
Wedi honno, nodiadau'n aros i chwaer nofel i Fil貌, a chasgliad o gerddi yn y Gymraeg (o'r diwedd). Rydw i'n golygu gwaith Cymraeg y cylchgrawn newydd Modron ac yn mwynhau'r gymuned mae hynny'n ei roi, fel oedd Taliesin a yneuadd.com
Hefyd o ddiddordeb: