大象传媒

Eisteddfod Llangollen wedi 'diraddio' y Gymraeg drwy newid arwyddair

  • Cyhoeddwyd
arwydd yr eisteddfod ar lwyfanFfynhonnell y llun, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae geiriau'r arwyddair yn rhan amlwg o logo Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Mae 85 o bobl wedi arwyddo llythyr yn gofyn i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ailystyried penderfyniad i newid hen arwyddair yn sgil pryderon am ei gyfieithiad Saesneg.

Mae'r arwyddair 'Byd gwyn fydd byd a gano, gwaraidd fydd ei gerddi fo' gan y bardd T Gwynn Jones wedi bodoli ers dros 75 mlynedd.

Mewn ymgynghoriad diweddar ar foderneiddio'r 诺yl, fe ddaeth i'r amlwg fod rhai yn poeni fod gwir ystyr y geiriau yn mynd ar goll wrth iddyn nhw gael eu cyfieithu.

Yn dilyn cyfarfod o fwrdd yr eisteddfod yn gynharach yn y mis, daeth cadarnhad bod penderfyniad wedi cael ei wneud i gomisiynu bardd i greu arwyddair newydd.

Mewn llythyr at gadeirydd ac aelodau Cyngor Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, dywedodd awdur y llythyr - y cyn-ddarlithydd a'r awdur, yr Athro Gruffydd Aled Williams - fod y penderfyniad yn "diraddio" y Gymraeg.

Beth ydy'r geiriau?

Cafodd yr arwyddair ei gyfieithu o'r dechrau gan y bardd T Gwynn Jones i 'Blessed is a world that sings, gentle are its songs'.

Ond roedd cyfieithiad llythrennol 'Byd Gwyn' yn poeni rhai, sef 'White World', gyda phryder ei bod yn bosib ei gam-ddehongli yn hiliol.

Mae'r arwyddair, meddai'r llythyr, wedi'i ddefnyddio "heb wrthwynebiad a heb achosi tramgwydd gan yr Eisteddfod er ei sefydlu yn 1947".

Wrth gyfeirio at y posibilrwydd o "achosi tramgwydd hiliol", ychwanegodd y llythyr: "Gwrthodwn sail y ddadl hon yn llwyr."

"Ni ddylid ymwrthod ag ymadroddion ar sail cyfyngiadau rhaglenni cyfieithu ar-lein, a'u tuedd weithiau i gyfieithu'n llythrennol heb gyfleu'n briodol ystyron cydnabyddedig nac arlliw ymadrodd.

"Y mae gan arwyddair T Gwynn Jones ei ystyr yn y Gymraeg a honno'n ystyr gwbl gymeradwy; yn 么l yr ystyr honno y dylid ystyried yr arwyddair, ac nid yn 么l llathen fesur cyfieithu annigonol a ffaeledig.

Ffynhonnell y llun, Marian Ifans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Yr Athro Williams bod 85 o academyddion a ffigyrau llenyddol o chwech o wledydd wedi arwyddo'r llythyr

"Y mae gan y Gymraeg, fel ieithoedd eraill, ei sofraniaeth ei hunan o ran ymadrodd ac ystyr, un y dylid ei chydnabod a'i pharchu.

"Ni wyddom am enghreifftiau o ieithoedd lle cytunai ei siaradwyr i ymwrthod 芒'r defnydd o ymadroddion cwbl ddiniwed a derbyniol oherwydd y posibilrwydd y gallai eu cyfieithu'n llythrennol ac annigonol beri tramgwydd i rywrai yn rhywle.

"Mae'n ymddangos, fodd bynnag, fod yr Eisteddfod Ryngwladol am wneud eithriad o'r Gymraeg yn hyn o beth gan ei darostwng a'i diraddio o'i chymharu ag ieithoedd eraill."

'Cam gwag anffodus'

Ychwanegodd fod y penderfyniad wedi "dwyn anfri ar yr Eisteddfod a'i gwneud yn gyff gwawd".

"Fel rhai y bu ganddynt barch mawr tuag at yr Eisteddfod erfyniwn yn daer ar Gyngor yr Eisteddfod i newid ei benderfyniad gan adfer enw da'r 诺yl," meddai.

"Byddai gwneud hynny hefyd yn dileu'r anfri a roddwyd ar goffadwriaeth T Gwynn Jones, g诺r nodedig o flaengar ei syniadau yn ei ddydd, a heddychwr a rhyng-genedlaetholwr eang ei olygwedd.

"Gofynnwn yn garedig ichwi ymatal rhag unrhyw weithredu pellach o ran dileu'r arwyddair nes i'r mater gael ei aildrafod yn llawn mewn cyfarfod o'r Cyngor."

Wrth gael ei holi ar聽Newyddion S4C,聽ychwanegodd yr Athro Gruffydd Aled Williams y byddai yn "mawr obeithio na fyddai unrhyw fardd gwerth ei halen yn derbyn comisiwn" i greu arwyddair newydd.

"Mae'r penderfyniad yma yn聽deillio o anwybodaeth ronc o'r sefyllfa ddiwylliannol yng Nghymru, ac mae o mewn gwirionedd yn fygythiad diwylliannol go ddifrifol. 聽

"Dwi'n dymuno'n dda i'r Eisteddfod, ond ma' nhw wedi cymryd cam gwag arbennig, arbennig o anffodus."

Parhau i'w ddefnyddio eleni

Wrth ymateb i gais am sylw, fe gyfeiriodd Eisteddfod Llangollen at

"Rydym am ddatgan yn glir nad ydym wedi awgrymu unrhyw hiliaeth ar unrhyw adeg," meddai'r datganiad adeg hynny.

"Mae'r Eisteddfod wedi bod erioed, yn batrwm ar gyfer undod, ac mae'n parhau i fod felly."

Ychwanegodd datganiad ar 23 Mawrth fod y bwrdd yn "llwyr gydnabod bwriad gwreiddiol y farddoniaeth, ac yn gwerthfawrogi ei harwyddoc芒d yn hanes yr Eisteddfod, yn ogystal 芒'i lle yn niwylliant a thraddodiad Cymru".

"Bydd yr arwyddair, sy'n amgylchynu'r darian, yn parhau i gael ei ddefnyddio yn 2023, ar dlysau, medalau, ar lwyfan y pafiliwn, ac o amgylch y maes," meddai.

"Mae'r bwrdd wedi ymroi i wahodd gwirfoddolwyr ac aelodau o'r cwmni i gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad pellach, ar 么l Eisteddfod 2023."