大象传媒

Cam ymlaen i gynllun cludo d诺r o Lyn Efyrnwy i Loegr

  • Cyhoeddwyd
Llyn EfyrnwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd pentref gwreiddiol Llanwddyn ei foddi yn yr 1880au i greu cronfa dd诺r Llyn Efyrnwy

Mae cynlluniau i ailddosbarthu miliynau o litrau o dd诺r o Lyn Efyrnwy ym Mhowys i rannau o Loegr wedi pasio cam nesaf y datblygiad.

Mae'n un o 12 o gynigion ar draws Cymru a Lloegr sy'n cael eu hystyried, yn 么l Ofwat.

Dywedodd y corff sy'n rheoleiddio gwasanaethau d诺r eu bod yn rhan o ymdrechion "i sicrhau cyflenwadau d诺r mwy cadarn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol".

Mae'r cynigion gan saith cwmni d诺r yn cynnwys "ailgylchu d诺r, a throsglwyddo d诺r o lefydd ble mae mwy i lefydd ble mae llai".

'Angen gweithredu nawr'

Fel rhan o'r cynlluniau mae Ofwat wedi cymeradwyo gwaith i edrych ar adeiladu tair cronfa dd诺r yn Sir Rhydychen, Sir Lincoln, a Sir Gaergrawnt.

Mae d诺r o Lyn Efyrnwy wedi bod yn cael ei gludo i rannau o Loegr ers dros ganrif, a bellach yn rhan o rwydwaith cwmni Severn Trent.

Mae'r cynlluniau diweddaraf yn cynnwys pibelli newydd posib i gludo rhywfaint o'r d诺r i Thames Water yn ardal Llundain.

Bydd y 12 cynllun nawr dan ystyriaeth yn derbyn cyllid i edrych ar fanylion technegol a'r effaith ar yr amgylchedd.

Ffynhonnell y llun, Ofwat
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cynlluniau'n dangos sut allai d诺r o Lyn Efyrnwy gael ei ddargyfeirio i gyflenwi Thames Water

Mae'r rhaglen o fuddsoddi mewn isadeiledd yn cael ei oruchwylio gan gorff RAPID sy'n cynrychioli rheoleiddwyr d诺r yng Nghymru a Lloegr, ac yn cael cymorth gan CCW, Natural Resources England a Chyfoeth Naturiol Cymru.

"Mae'r sector d诺r angen gweithredu nawr i sicrhau anghenion cwsmeriaid a'r amgylchedd yn y dyfodol," meddai rheolwr gyfarwyddwr RAPID, Paul Hickey.

"Mae dod o hyd i ffyrdd newydd, cynaliadwy a chadarn o gadw cyflenwad d诺r i fynd ar draws y wlad yn hanfodol, yn enwedig o ystyried newid hinsawdd cynnydd mewn poblogaeth a datblygiad economaidd.

"Gallai'r cynlluniau sy'n symud ymlaen at y cam cynllunio nesaf gwrdd 芒 gofynion miliynau o gwsmeriaid tra'n gwarchod yr amgylchedd."

'Dyw'r cytundeb yma ddim yn dal d诺r'

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei bod hi'n "annerbyniol" fod pwerau dros dd诺r dal ddim wedi eu datganoli'n llawn i Gymru o San Steffan.

"Dylai penderfyniadau am dd诺r Cymru gael eu gwneud yng Nghymru, ac er budd pobl Cymru," meddai Adam Price yn ymateb i'r datblygiad diweddaraf.

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn tanlinellu pwysigrwydd hyn.

"Gyda dim awgrym ein bod yn cael pris teg, a dim sicrwydd na fydd effaith negyddol ar ein gwytnwch d诺r ein hunain, dyw'r cytundeb yma ddim yn dal d诺r.

"Dylen ni o leiaf dderbyn pris teg am ein d诺r, gyda'r elw yn cael ei fuddsoddi yn ein cymunedau - nid mynd i boced cwmn茂au preifat sydd ddim hyd yn oed wedi'u lleoli yn y wlad."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru na fyddai mwy o dd诺r yn gadael Cymru dan y cynlluniau newydd

Ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud mai ailgyfeirio d诺r sydd ar hyn o bryd yn mynd i ogledd-orllewin Lloegr, i dde-ddwyrain Lloegr fyddai bwriad y cynllun - ac felly na fyddai unrhyw dd诺r ychwanegol yn gadael Cymru.

"Does dim cynlluniau i gymryd mwy o dd诺r o Lyn Efyrnwy nag sydd eisoes yn cael ei ganiat谩u, ac felly fyddai hyn ddim yn gwaethygu unrhyw sychder yng Nghymru yn y dyfodol," meddai Ceri Davies o CNC.

Ychwanegodd y byddai'n rhaid i CNC fod yn "hapus na fydd y cynigion yn cael effaith negyddol ar gymunedau a bywyd gwyllt yng Nghymru" cyn cytuno iddynt.

'Angen profi ei werth economaidd'

Byddai'r cynlluniau'n golygu bod y d诺r o Lyn Efyrnwy yn llifo i'r Afon Hafren cyn cael ei dynnu ymhellach i lawr yr afon a'i ddargyfeirio mewn pibellau newydd i gyfeiriad Llundain.

"Roedd yr haf diwethaf, gyda gwres uchel a diffyg d诺r, yn arwydd clir o'r argyfwng hinsawdd yn ein taro," meddai llefarydd ar ran Thames Water.

"Does dim atebion hawdd a chyflym, ac mae'n rhaid cynllunio ymlaen i reoli poblogaeth sy'n tyfu, hinsawdd sy'n newid, a risg uwch o sychder yn ogystal 芒 sicrhau ein bod ni'n gwarchod ein hamgylchedd, nawr ac yn y dyfodol."

Er bod y cynlluniau presennol yn symud ymlaen i'r cam nesaf, bydd llywodraethau'r DU a Chymru yn cael y gair olaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd angen i unrhyw ddatblygiad sy'n cynnwys defnyddio d诺r o Gymru brofi ei werth economaidd, amgylcheddol ac ehangach i bobl Cymru, yn ogystal 芒 sicrhau bod digon o dd诺r i'r rheiny sydd ei angen.

"Mae'n rhaid i gwmn茂au d诺r sydd wedi eu lleoli'n llwyr neu'n bennaf yng Nghymru ddilyn egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynlluniau Rheoli Adnoddau D诺r, ac mae gan weinidogion Cymreig r么l statudol yn y broses o gymeradwyo unrhyw gynlluniau."

Pynciau cysylltiedig