Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwasanaeth Bws Ogwen yn 么l i daclo problemau parcio Eryri
Wrth i Eryri baratoi ar gyfer tymor prysur yr haf, mae sefydliadau'r ardal eisoes wedi bod yn paratoi unwaith eto i daclo'r broblem o barcio.
Ar un penwythnos ym mis Gorffennaf 2020 cafodd dros 500 o geir eu parcio ar ymyl ffordd fynyddig ger Yr Wyddfa.
Gwelwyd problemau tebyg bob haf ers hynny gyda cheir yn cael eu cludo i ffwrdd gan yr heddlu a'r cyngor.
Mae'n golygu y bydd gwasanaeth bws cymunedol yn Nyffryn Ogwen yn rhedeg unwaith eto eleni, gyda llwybrau ychwanegol, wedi lansiad llwyddiannus y llynedd.
Y gobaith gyda gwasanaeth Bws Ogwen yw taclo'r problemau parcio'r dyffryn yn ogystal 芒 "denu mwy o fusnes i Fethesda".
'Gweld gwahaniaeth'
Bydd Bws Ogwen - sy'n wasanaeth bws trydan cymunedol - yn rhedeg wyth gwaith y dydd o 1 Ebrill rhwng Bethesda a Llyn Ogwen.
Mae'n rhedeg ochr yn ochr 芒 gwasanaeth y T10 rhwng Bangor a Chorwen, ac eleni bydd tripiau ychwanegol ddwywaith y dydd rhwng Bethesda a Chapel Curig hefyd.
"Llynedd fe gawson ni lot o bobl leol yn defnyddio'r gwasanaeth, sydd yn gr锚t," meddai Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
"Ond bysa ni wrth ein boddau cael hyd yn oed mwy o ymwelwyr ar y gwasanaethau."
Ychwanegodd y dylai cyfuniad o drafnidiaeth gyhoeddus, llinellau melyn, a synwyryddion meysydd parcio i roi gwybod lle mae llefydd parcio ar gael, i gyd helpu i daclo'r broblem.
"'Dan ni'n trio cael pobl i gynllunio o flaen llaw pan maen nhw'n meddwl dod, a gweld beth sydd ar gael," meddai.
"Yn draddodiadol mae pobl wedi gyrru'n syth i Lyn Ogwen a pharcio yn fanno."
Lliwen Morris yw swyddog cyllid Partneriaeth Ogwen, sy'n rhedeg y gwasanaeth.
"Yn y cyfarfodydd misol 'dan ni'n ei gael efo'r Parc, Cyngor Gwynedd a Chyngor Conwy 'dan ni i gyd wedi gweld gwahaniaeth yn barod," meddai.
Ychwanegodd mai'r gobaith oedd y byddai twristiaid sy'n defnyddio'r bws gwennol yn darganfod pethau eraill i'w gwneud yn yr ardal hefyd, gan roi hwb i'r economi.
"Y bwriad ydy taclo'r broblem barcio yn Llyn Owen, a denu busnes i Fethesda," meddai.
"Er enghraifft, mae genna ni Feics Ogwen lle mae pobl yn gallu llogi beics trydan - mi allen nhw neidio ar y bws, mwynhau'r diwrnod, a seiclo 'n么l lawr."
Bysus Yr Wyddfa a Phen Ll欧n
O gwmpas ardal Yr Wyddfa a Llanberis, bydd y gwasanaeth bws Sherpa yn rhedeg unwaith eto eleni i gludo teithwyr i fannau poblogaidd yr ardal.
"Gofynnwn i fodurwyr i barchu'r cyfyngiadau parcio a chadw'r ffyrdd yn ddi-rwystr a diogel," meddai'r cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd.
"Mae enghreifftiau yn y gorffennol lle mae ceir wedi parcio'n anghyfreithiol a'i gwneud yn anodd iawn i gerbydau'r gwasanaethau brys fynd heibio.
"Bydd staff Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd, sydd bellach 芒 phwerau i gario cerbydau i ffwrdd, yn rhoi sylw penodol i ardal Eryri.
"Ein neges ydy i fodurwyr barcio yn synhwyrol, ond os bydd angen, byddwn yn cymryd camau priodol i symud cerbydau sydd yn parcio'n anghyfreithlon er diogelwch y cyhoedd."
Yn y cyfamser, mae gwasanaeth bws tymhorol ym Mhen Ll欧n hefyd yn dychwelyd am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Bydd gwasanaeth Fflecsi Ll欧n hefyd yn dechrau ar 1 Ebrill, gan gysylltu teithwyr gyda rhai o'r lleoliadau mwyaf poblogaidd yn yr ardal yn ystod misoedd yr haf.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod nifer y teithwyr wedi mwy na dyblu ers i'r gwasanaeth ddechrau yn 2021, gyda 2,200 o deithwyr y llynedd o'i gymharu 芒 689 yn y flwyddyn gyntaf.