Gwrthdrawiad fan Caerdydd: Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 31 oed o Aberd芒r wedi ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, ar 么l i yrrwr fan ddosbarthu yng Nghaerdydd gael ei daro a'i lusgo o dan y cerbyd.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad brynhawn Mawrth ar Ffordd y Gogledd, sy'n un o'r prif ffyrdd i mewn i ganol y ddinas.
Fe siaradodd Christopher Elgifari yn unig i gadarnhau ei enw, dyddiad geni a'i gyfeiriad yn ystod y gwrandawiad.
Cafodd cais am fechn茂aeth ei wrthod gan ynadon, a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, 3 Ebrill.
'Anafiadau niferus'
Clywodd yr ynadon bod gyrrwr y fan, Mark Lang, yn dosbarthu parseli ar ran cwmni Evri ar Rodfa Laytonia.
Dywedodd cyfreithiwr yr erlyniad, Nicholas Evans: "Pan oedd Mr Lang wedi gadael y cerbyd, fe redodd y diffinydd tuag at ddrws y gyrrwr, a gyrru i ffwrdd."
Dywedodd Mr Evans wrth y llys bod Mr Lang, oedd yn cario parsel ar y pryd, wedi ceisio atal y cerbyd, oedd yn cael ei yrru "ar gyflymder".
Clywodd yr ynadon bod Mr Lang wedi cael ei lusgo o dan y fan, gyda'r parsel wedi ei ddal yn ffenest flaen y cerbyd.
Cafodd y cerbyd ei yrru ar Ffordd y Gogledd tuag at ganol y ddinas dros bellter o 800 llath (740m).
Pan ddaeth y cerbyd i stop, dywedwyd bod "Mr Lang o dan y fan, yn gaeth a ddim yn anadlu gydag anafiadau niferus".
Clywodd y llys bod gan Mr Lang anafiadau i'w ymennydd a nifer o anafiadau i'w gorff.
Fe nododd Mr Elgifari y byddai'n pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad o geisio llofruddio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2023