Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau yn arwyddo cytundeb
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru a phedwar t卯m proffesiynol wedi arwyddo cytundeb chwe blynedd newydd.
Bydd y cytundeb rhwng y corff llywodraethu, Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets yn rhedeg tan 2029.
Dywedodd datganiad fod y Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) "yn rhoi rhagweladwyedd ariannol".
Bydd capiau cyflog yn cael eu gweithredu o ddechrau tymor 2023-24 gyda cytundebau "sefydlog" a "sefydlog ac amrywiol" ar gael i chwaraewyr.
Dywed y datganiad: "Mae'r PRA newydd yn darparu fframwaith ariannol sy'n cynnwys cyllid newydd gan URC a chyfranddalwyr clybiau i greu llwyfan cynaliadwy ar gyfer cynnydd.
"Mae'n darparu rhagweladwyedd ariannol ar gyfer y g锚m broffesiynol yng Nghymru ac mae holl aelodau'r PRB yn ei groesawu.
"Bydd datblygu chwaraewyr o Gymru yn amcan allweddol i bawb wrth i'r PRA newydd gael ei gynllunio i hyrwyddo llwyddiant ar gyfer g锚m y clybiau proffesiynol a th卯m rhyngwladol Cymru."
Mae'r cytundeb yn cynnwys y mesurau canlynol:
System ganolog i graffu ar wariant a benthyg chwaraewyr o un t卯m i'r llall;
Cyfarwyddwr Perfformiad URC a'r rhanbarthau yn cytuno ar "gytundebau ar gyfer chwaraewyr o ddiddordeb cenedlaethol";
Cefnogi'r academ茂au gydag ymrwymiad i "isafswm o wariant";
Archwiliadau rheolaidd o "wariant, cytundebau, cynlluniau busnes a pherfformiad academi";
Mae'r Scarlets, y Gweilch, Caerdydd a'r Dreigiau "wedi ymrwymo i ganoli agweddau o'u gweithrediadau masnachol, gyda gwaith eisoes ar y gweill yn y maes hwn".
Cyn i'r cytundeb gael ei gytuno a'i gyhoeddi, cytunodd Undeb Rygbi Cymru a'r chwaraewyr blaenllaw i addasiad sylweddol i'r rheolau ynghylch cymhwysedd i chwarae dros Gymru.
Cyn hynny, os oedd chwaraewr am chwarae i Gymru tra nad oedd wedi'i leoli yno, roedd yn rhaid iddo fod wedi ennill 60 cap - mae hynny bellach yn 25 ymddangosiad prawf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2023