Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cost ymosodiadau c诺n ar dda byw wedi codi 50% ers y pandemig
Mae'r gost i ffermwyr oherwydd ymosodiadau c诺n ar dda byw wedi cynyddu 50% ers cyn y pandemig.
Dywed cwmni yswiriant NFU Mutual bod ymosodiadau c诺n wedi costio 拢1.8m i ffermwyr yn 2022, o'i gymharu 芒 拢1.2m yn 2019.
Yng Nghymru, mae'r cwmni'n amcangyfrif bod anifeiliaid fferm gwerth 拢440,000 wedi cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol gan g诺n yn 2022.
Gyda'r tymor 诺yna yn ei anterth mewn sawl ardal, mae'r cwmni'n rhybuddio perchnogion i gadw eu c诺n ar dennyn wrth ymweld 芒 chefn gwlad dros wyliau'r Pasg.
Ymddwyn yn gyfrifol
Dywedodd Owen Suckley, rheolwr NFU Mutual Cymru, fod yn rhaid i ymwelwyr gofio bod lleoliadau prydferth cefn gwlad hefyd yn allweddol i ffermwyr o ran eu bywoliaeth.
"Rydym yng nghanol y tymor 诺yna yng Nghymru felly mae'n angenrheidiol bod perchnogion c诺n yn ymddwyn yn gyfrifol trwy gadw eu ci ar dennyn yn ymyl da byw, ac yn enwedig ger defaid ac 诺yn bregus," meddai.
"Yn ystod y pandemig Covid-19 daeth nifer o bobl yn berchnogion c诺n am y tro cyntaf, ond yn drasig mae hyn wedi cael ei ddilyn gan gynnydd mawr yng nghost ymosodiadau ar dda byw.
"Mae'n anodd i bobl ddychmygu y gall eu ci teuluol hoffus, redeg ar 么l, anafu neu ladd anifail arall - ond mae pob un ci yn gallu gwneud hyn, waeth beth yw eu br卯d neu faint.
"Os yw ymosodiad yn digwydd, mae'n bwysig fod pobl yn derbyn cyfrifoldeb a hysbysu'r heddlu neu ffermwr lleol, fel nad yw anifeiliaid sydd wedi'u hanafu yn dioddef yn ormodol."
Daw'r rhybuddion yn sgil arolwg gan NFU Mutual o dros 1,100 perchennog ci lle'r oedd:
- 64% yn cyfaddef bod eu c诺n yn ymlid anifeiliaid eraill;
- 46% yn credu na fyddai eu ci yn gallu anafu neu ladd da byw;
- 64% yn cyfaddef eu bod yn gadael eu c诺n oddi ar dennyn yn y wlad;
- 39% yn cyfaddef nad oedd eu ci yn ufuddhau pan oedd y perchennog yn galw arno i ddod 'n么l.
Dywedodd Rob Taylor o Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu y gellid rhwystro ymosodiadau c诺n ar ddefaid, trwy ddefnyddio "dipyn o synnwyr cyffredin".
"Fe fydd yr heddlu yn parhau i gymryd agwedd gadarn tuag at droseddau fel hyn, ond rydym hefyd yn gofyn i'r cyhoedd wneud y peth iawn a rhoi ci ar dennyn wrth ymyl da byw, a sicrhau na fedr eich anifail anwes ddianc os yw'n cael ei adael ar ei ben ei hun."
Anwybyddu arwyddion
Mae'n broblem sy'n bodoli erioed, meddai Dan Jones, sy'n ffermio ar y Gogarth yn Llandudno, ond mae'n broblem sy'n "cynyddu", er gwaethaf arwyddion yn cynghori ymwelwyr i gadw eu c诺n ar dennyn.
"Dwi 'di bod yn colli dafad bob mis... y c诺n yn mynd ar 么l nhw a lladd nhw," dywedodd ar raglen Dros Frecwast.
"Ymwelwyr [sy'n] dod 芒'u c诺n am dro i gefn gwlad a'r c诺n ddim 'di arfer yng nghefn gwlad sydd yn creu'r broblem fwya'.
"'Dan ni efo arwyddion yn bob man ar y Gogarth lle 'ma' pobl yn parcio a lle ma'n nhw'n dod i gerdded fwya'... ond dydy lot o bobl ddim yn sylwi.
"Ma' 'na gymaint o arwyddion efo petha' er'ill, wedyn mae'n anodd iddyn nhw ddeall."