Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am ddatblygu brechlyn i achub y wiwer goch
- Awdur, Llyr Edwards
- Swydd, Newyddion ´óÏó´«Ã½ Cymru
Mae 'na alw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu brechiad ar gyfer wiwerod coch i geisio sicrhau cynllun tymor hir i'w hachub.
Mae dros 10,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn cefnogi galwad Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru.
Mae gwiwerod llwyd yn cario haint sy'n gallu lladd gwiwerod coch yn y pendraw - ond ddim yn cael effaith ar rai llwyd.
Ar un adeg roedd y wiwer goch yn ffynnu ymhob rhan o Gymru, ond mae pryder am eu dyfodol.
Dywedodd Geraint Strello, sy'n geidwad gydag Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru, fod gan Lywodraeth Cymru gyfle i "gymryd y blaen" ar gydweithio i ddatblygu brechlyn.
"Mae 'na ateb, tydy o ddim yn syml, a hynny ydy eu brechu nhw," meddai.
"Mae 'na waith wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd i greu brechiad, ond does 'na ddim llawer o waith wedi bod yn mynd ymlaen ers 2014.
"'Dw i'n meddwl bod o'n gyfle da Lywodraeth Cymru i gymryd y blaen ar hyn a chydweithio efo mudiadau a llywodraethau eraill ar draws Prydain i weithio arno fo.
Dywedodd fod 'na "fanteision amlwg" i'w cadw a'u hachub.
"Mae 'na adroddiadau sy'n dweud bod wiwerod coch yn tynnu dros £10m o bres ychwanegol - pobl sy'n ymweld ag ardaloedd ar draws Prydain sy'n dod â hyn i mewn. Miloedd yn fwy o ymwelwyr."
'Pobl yn dod o bell i'w gweld'
Yng Nghoed Treborth ger Bangor, cafodd hyd at 80% o'r wiwerod coch eu lladd y llynedd gan frech y wiwerod.
Y pryder yw y bydd wiwerod coch Môn yn cael eu heintio.
Am ei bod yn ynys, Môn ydy un o gadarnleoedd ola'r wiwer goch, a daw pobl o bell ac agos i'w gweld.
Dywedodd Dylan Owen, warden cefn gwlad Cyngor Môn: "Ar yr ynys 'da ni'n meddwl bod 'na ryw 800 i gyd.
"Fan hyn yn y Dingl 'dan ni'n meddwl bod 'na ryw 35 i 40 efo'i gilydd yn fan'ma.
"Mae o'n un o'r llefydd gorau i'w gweld nhw yn Sir Fôn fan hyn… llawer yn dod o bell i'w gweld nhw yma."
'Helpu gyda PTSD'
Mae Hugh Rowlands wedi bod yn gwarchod ac yn bwydo'r wiwerod coch ers blynyddoedd.
Yn gyn-filwr, mae'n byw â PTSD ac mae'n dweud fod y wiwerod yng nghoedwig Llangefni yn gymorth mawr iddo.
"PTSD sydd arna i, a heb hwn mae'n siŵr 'swn i 'di cael fy nghloi fyny yn carchar cyn rŵan," dywedodd.
"[Maen nhw] wedi helpu fi lot, a nid jyst fi chwaith. Dwi wedi cael boi arall yn dod i fyny yma… cyn-soldiwr eto 'run peth â fi.
"Dywedodd o 'mae o'n teimlo'n fyw, dod i fyny ac eistedd o flaen rhain'.
"Ges i un arall yn dod i fyny, eto PTSD, newid ei fywyd [a] na'th o jyst crio… dagrau mawr yn ei lygaid o... newid ei fywyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan bobl i warchod y rhywogaeth fregus hon.
"Rydym yn ddiolchgar am gyngor arbenigol Fforwm Gwiwerod Cymru... a byddwn yn ystyried y dystiolaeth yn ofalus."
Ychwanegon nhw, tra'u bod wedi gweld symudiadau cadarnhaol i gynyddu niferoedd y wiwerod coch, fod llawer mwy i'w wneud.