大象传媒

Eisteddfod 2023: Ffrae am newid trefn y cystadlu'n parhau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
SteddfodFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Mae nifer o feirniaid yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhuddo'r trefnwyr o "ddiffyg cyfathrebu" wrth i'r ffrae am drefn y cystadlu torfol barhau.

Fis diwethaf fe gyhoeddodd y Steddfod amryw o newidiadau i'r drefn gystadlu yn Ll欧n ac Eifionydd eleni.

Uchafswm o dri chystadleuydd fydd yn rownd derfynol pob cystadleuaeth, ac eithrio'r bandiau pres, sy'n golygu y bydd cystadlaethau torfol - fel corau - yn cymryd rhan mewn rowndiau cynderfynol.

Bydd dwy ganolfan gystadlu newydd ar y Maes, fydd yn llai na'r pafiliwn traddodiadol.

Mae Newyddion S4C wedi gweld tri llythyr sydd wedi eu hanfon at yr Eisteddfod ers y cyhoeddiad - un gan 45 o gorau ar y cyd, un gan 25 o gyn-feirniaid, ac un gan y pwyllgor cerdd lleol - yn gwrthwynebu'r newidiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Byddwn ni'n ystyried cynnwys y llythyrau ac yn eu trafod gyda swyddogion yr Eisteddfod, cyn ymateb yn uniongyrchol i'r rheini sydd wedi'u hanfon, yn hytrach na thrwy'r wasg a'r cyfryngau."

'Tanseilio' gwaith pwyllgor

Mae'r llythyr gan y beirniaid wedi ei arwyddo gan bobl sydd - yn 么l y datganiad - yn "cynrychioli degawdau o brofiad fel beirniaid yn yr Eisteddfod Genedlaethol".

Ychwanegodd: "Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn bwriadu gweithredu datblygiadau ar sail adroddiad penodol na welwyd mohono gan gystadleuwyr nac eraill.

"Rydym ni fel cyn-feirniaid yr Eisteddfod yn gresynu at y diffyg cyfathrebu rhwng yr Eisteddfod a rhan-ddeiliaid mor bwysig, sef y cystadleuwyr ac eraill.

"Credwn fod angen cydweithio ac ymgynghori cyn cyflwyno newidiadau mor bell-gyrhaeddol."

Dywedodd Menai Williams, Beirniad Cerdd a Llywydd Anrhydeddus yr 糯yl Gerdd Dant ac un sydd wedi arwyddo'r datganiad, fod "isio i'r Eisteddfod ystyried o ddifrif sut ma' nhw'n cyfathrebu gyda phobl".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

John Eifion: "Ma'r diffyg ymateb ond yn codi mwy o bryder"

Yn 么l y datganiad, dyma enwau cyn-feirniaid yr Eisteddfod sydd wedi arwyddo:

Robat Arwyn; Bethan Bryn; Jennifer Evans Clarke; Margaret Daniel; Mary Lloyd Davies; Glenys Earnshaw (Roberts); Eleri Owen Edwards; Alun Guy; Rhiannon Ifan; Alan Wyn Jones; Eirian Jones; Eric Jones; Rhian Lois; Terence Lloyd; Patricia O'Neill; Gwennant Pyrs; Andrew Rees; Alwenna Roberts; Beryl Lloyd Roberts; Geraint Roberts; Mair Carrington Roberts; Eilyr Thomas; Gareth Wyn Thomas; Arfon Williams; Menai Williams.

Mewn llythyr at y Brifwyl yn fuan wedi'r cyhoeddiad gwreiddiol am y newidiadau, dywedodd Pwyllgor Cerdd Ll欧n ac Eifionydd fod y newidiadau wedi "tanseilio ein gwaith a'n hygrededd fel pwyllgor".

Maen nhw'n gofyn "i Gyngor yr Eisteddfod gyflwyno datganiad i'r wasg yn egluro na chafodd y Pwyllgor Cerdd unrhyw fewnbwn i'r drafodaeth".

Mae Newyddion S4C wedi gweld copi o'r datganiad, ac wedi cael cadarnhad nad ydy'r pwyllgor wedi cael ateb eto gan yr Eisteddfod.

'Neb yn fodlon egluro'

Roedd Newyddion S4C wedi gofyn am sgwrs gyda Chadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain, ond nid oedd am wneud cyfweliad.

Fe gadarnhaodd mewn e-bost fodd bynnag fod y Pwyllgor Gwaith "yn ymwybodol bod adolygiad o'r cystadlaethau ar y gweill o ddechrau'r gwaith ar gyfer Ll欧n ac Eifionydd".

"Oherwydd Covid, symudodd yr adolygiad i 2021, ac roedd hyn hefyd yn wir am lawer o'n gwaith ni," meddai.

"Cawsom ddiweddariad ar yr adolygiad yn ein cyfarfod ym mis Rhagfyr 2022, a nodwyd bryd hynny pa newidiadau fyddai'n cael eu cyflwyno yn Ll欧n ac Eifionydd eleni.

"Mae cadeiryddion y pwyllgorau lleol i gyd yn rhan o'r Pwyllgor Gwaith, ac maen nhw (ynghyd ag ysgrifenyddion yr holl bwyllgorau testun lleol) hefyd yn rhan o'r panelau canolog a fu'n trafod pob agwedd o'r adolygiad.

"Rydyn ni'n ymwybodol o'r datganiad gan y Pwyllgor Cerdd, ac mae'r Bwrdd Rheoli yn ei ystyried yn unol 芒 gweithdrefnau cwynion yr Eisteddfod."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dau bafiliwn llai fydd yn yr Eisteddfod eleni, yn hytrach nag un mawr fel sy'n draddodiadol

Anfonwyd y llythyr gan y corau ar y cyd brynhawn Gwener diwethaf. Dyma'r ail lythyr iddyn nhw anfon.

Ymysg nifer o bwyntiau, mae aelodau'r corau yn galw ar yr Eisteddfod Genedlaethol i wyrdroi'r penderfyniad o gyflwyno rhagbrofion i'r cystadlaethau torfol.

Fis diwethaf fe gyhoeddodd yr Eisteddfod mai dim ond y tri gorau fyddai'n cael ymddangos ar y prif lwyfan.

Dywedodd John Eifion, arweinydd C么r y Brythoniaid: "Ma' 'na lot o gwestiynau yn cael eu gofyn a does 'na ddim atebion.

"Ma' 'na ddiffyg tryloywder, ma'n amharchus o'r cystadleuwyr, ma'n amharchus o bobl Ll欧n ac Eifionydd, y cynulleidfaoedd a'r bobl sy'n gefnogol o'r Eisteddfod nad oes neb yn fodlon dod ymlaen i egluro eu hunain.

"Ma' rhaid i sefydliadau newid a datblygu, i gadw fyny, does gennom ni ddim gwrthwynebiad i hynna - ond sut a ffordd ma'n cael ei 'neud?"

Mae'r Eisteddfod hefyd wedi cadarnhau na fydd yna rowndiau cynderfynol ar gyfer y bandiau pres.

Mae aelodau'r cyd-gorau yn cwestiynu'r penderfyniad, drwy ddweud yn eu llythyr: "Os nad yw'r bandiau pres yn cael rownd gynderfynol lle mae hynny yn gadael eich bwriad o gysoni?"

Pryder arall gan y cyd-gorau ydy maint y ganolfan berfformio llai ac maen nhw'n rhagweld "problem fawr eleni o dan y drefn newydd".

1,800 o seddi oedd yn y Pafiliwn yn Nhregaron y llynedd, ond eleni bydd un ganolfan yn dal hyd at 1,200 o bobl, a'r llall yn dal 500.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Seremoni'r Cadeirio oedd yr unig un i lenwi'r pafiliwn y llynedd, medd yr Eisteddfod Genedlaethol

Ychwanegodd yr ail llythyr fod "cynulleidfa luosog sydd yn llenwi'r pafiliwn yn ystod cystadlaethau corawl yr Eisteddfod yn gwneud hynny er mwyn clywed y corau i gyd - nid er mwyn clywed tri ch么r.

"Yn ystod y rhagbrofion corawl bydd y pafiliwn mawr yn wag, y pafiliwn bach yn gorlifo, a chynulleidfa a chefnogwyr y corau yn flin iawn o fethu mynd i mewn i wrando."

Yn 么l yr Eisteddfod, byddai modd i "unrhywun eistedd drwy'r cyfan" gan gadarnhau mai system 'cyntaf i'r felin' fydd hi o ran sicrhau sedd.

Mae John Eifion, ar ran y corau ar y cyd, wedi cadarnhau wrth Newyddion S4C nad ydyn nhw wedi cael ymateb i'w hail lythyr gan yr Eisteddfod hyd yn hyn.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn y tri llythyr ond na fyddan nhw'n ymateb i gais Newyddion S4C am sylw.

"Byddwn ni'n ystyried cynnwys y llythyrau ac yn eu trafod gyda swyddogion yr Eisteddfod, cyn ymateb yn uniongyrchol i'r rheiny sydd wedi'u hanfon, yn hytrach na thrwy'r wasg a'r cyfryngau," meddai llefarydd.

Mae Newyddion S4C wedi cael cadarnhad nad ydy'r corau hyd yma wedi cael ymateb i'w hail lythyr, na'r cyn-feirniaid na'r pwyllgor cerdd i'w llythyrau nhw chwaith.