Awr fawr Wrecsam? Y ddau ar y brig yn cwrdd ar y Cae Ras
- Cyhoeddwyd
Pum g锚m - ac un t卯m - sydd rhwng CPD Wrecsam a gorffen y tymor ar frig y Gynghrair Genedlaethol, gan sicrhau dyrchafiad awtomatig i Adran Dau.
Ond go brin fod un o'r gemau hynny mor allweddol i'w gobeithion 芒'r ornest ar y Cae Ras brynhawn Llun yn erbyn y t卯m 芒'u disodlodd o'r brig wedi canlyniadau Dydd Gwener Groglith - Notts County.
Mae'r ddau d卯m 芒'r un nifer o bwyntiau - 100 - ac mae'r ddau wedi ennill pedair o'u pum g锚m ddiwethaf, ond County sydd ar frig y tabl ar hyn o bryd ar wahaniaeth goliau.
Gan mai 75 yw cyfanswm pwyntiau Woking yn y drydydd safle, does dim siawns i unrhyw un arall gyrraedd, heb s么n am basio, y timau yn safle un a dau.
Ond wedi tymor cystal hyd yn hyn, fydd Wrecsam na'u prif wrthwynebwyr yn dymuno gorfod brwydro am ddyrchafiad yn y gemau ail gyfle.
Fe fyddai hynny'n brifo, yn enwedig yn sgil y posibilrwydd cryf y bydd y ddau glwb wedi sicrhau digon o bwyntiau i dorri record flaenorol y Gynghrair Genedlaethol - 105.
Bydd Wrecsam eisiau gwneud popeth i osgoi'r hyn a ddigwyddodd y llynedd.
Ar 么l gorffen yn ail yn y tabl, aethon nhw yn eu blaenau i golli yn erbyn Grimsby ym munudau olaf rownd gynderfynol gemau'r ail gyfle.
Does rhyfedd felly bod g锚m brynhawn Llun yn cael ei disgrifio fel y g锚m fwyaf yn hanes pumed haen p锚l-droed Lloegr - na bod pob tocyn wedi ei werthu.
Un cysur yw'r ffaith fod t卯m Phil Parkinson wedi chwarae un g锚m yn llai na Notts County.
Ond fe fydd y ddau d卯m yn llwyr ymwybodol pa mor allweddol fyddai cipio'r tri phwynt. Fe fyddai colli yn ergyd a allai effeithio ar hyder a mor芒l chwaraewyr yn y gemau sy'n weddill.
Bydd cefnogwyr Wrecsam ar d芒n i weld eu prif sgoriwr, Paul Mullin, yn rhwydo eto ac ychwanegu at ei gyfanswm ers dechrau'r tymor o 34 o goliau.
Ond mae ymosodwr Notts County, Macaulay Langstaff, wedi cael tymor hyd yn oed yn well, gan sgorio 41 hyd yn hyn.
Mae Wrecsam, wrth gwrs, wedi denu cefnogwyr newydd ar draws y byd wedi i'r actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb.
Ac mae miliynau wedi dilyn yr ymgyrch am ddyrchafiad yn y rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham.
Ond mae Notts County wedi amlygu'n glir nad ydyn nhw yna i fod yn actorion ategol i'r ddrama.
Mae hwythau hefyd yn anelu am eu stori tylwyth teg eu hunain.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2023