Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gweithwyr Llywodraeth Cymru i streicio dros gyflogau
Mae staff Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n streicio ym misoedd Mai a Mehefin yn sgil anghydfod dros gyflogau.
Bydd aelodau o undeb Prospect yn gweithredu ar 11 Mai a 7 Mehefin ar 么l gwrthod cytundebau arfaethedig a oedd yn cynnig codiad cyflog o 4%.
Dywed yr undeb fod y cytundeb presennol yn gwaethygu safonau byw wrth i chwyddiant barhau i fod dros 10%.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais am sylw.
"Gyda chalon drom rydym yn cyhoeddi rhagor o weithredu diwydiannol yng Nghymru - does dim dewis arall gan ein haelodau," meddai Daniel Maney, swyddog negodi'r undeb yng Nghymru.
"Ar 么l dros ddegawd o doriadau cyflog mewn termau real, mae'r argyfwng costau byw wedi gwthio ein haelodau dros y dibyn.
"Ar 么l gweithio'n ddiflino drwy'r pandemig, tydi ond yn deg eu bod yn cael eu gwobrwyo yn unol 芒'u cydweithwyr ym meysydd addysg a iechyd," ychwanegodd.
Daw'r cyhoeddiad wedi'r newyddion y bydd gweision sifil yn Lloegr yn gweithredu ar 10 Mai a 7 Mehefin.