Lluniau: Nofio gyda'r wawr yn y m么r ym Mhenarth
- Cyhoeddwyd
Bob bore ar draeth Penarth fe welwch chi griw o bobl yn eu gwisgoedd nofio yn mentro i mewn i'r m么r er mwyn cael nofiad wrth i'r wawr dorri.
Pwy welwch chi hefyd yw'r ffotograffydd James Richardson sydd yno - fel y nofwyr - yn ddi-ffael, beth bynnag y tywydd, yn barod gyda'i gamera i ddogfennu'r hwyl a'r sbri.
Dyma rai o'i luniau trawiadol o griw y Dawn Stalkers.
"Y tro cyntaf i mi fynd 芒'r camera i'r traeth i weld y wawr oedd 6 Ebrill 2021. Do'n i ddim mewn lle da yn feddyliol, ond o'n i wedi clywed pethau da am y boreau ar y traeth gan nifer o ffrindiau, ac o'n i eisiau gweld beth oedd e.
"Ac ar fy niwrnod cyntaf, ges i nid yn unig weld gwawrio gogoneddus, ond roedd clywed pawb yn y m么r yn chwerthin ac yn cael amser gwych yn deimlad hudolus i mi, ac o'n i eisiau bod yn rhan ohono fe.
"'Nes i benderfynu dod 芒 fy nghamera yn rheolaidd er mwyn cynnig rhywbeth i'r gr诺p, ac er mwyn cofnodi wynebau llawen pawb.
"Mae ffotograff i mi yn lwybr yn syth at atgof. O'n i eisiau cynnig ffordd sydyn i'r bobl yma ddychwelyd yn syth i'r emosiwn hapus 'na pan maen nhw'n gweld lluniau ohonyn nhw'u hunain.
"Dwi'n gobeithio felly, hyd yn oed os 芒'n nhw ond i'r m么r unwaith, y byddan nhw'n gallu teimlo'r un llawenydd eto bob tro welan nhw'r llun.
"Mae fy nghamera wastad gyda fi mewn gorchudd gwrth-dd诺r mae deifwyr yn ei ddefnyddio i gadw eu hoffer yn sych a diogel. Dwi'n gwisgo waders pysgota neoprene i wneud yn si诺r mod i ddim yn oeri'n ormodol er mwyn i mi allu aros yn y m么r yn hirach; weithiau dwi mewn am ryw awr.
"Mae hyn yn helpu i mi ddal holl liwiau'r awyr drwy'r golau cyntaf a'r gwawrio, tra'n mwynhau gweld diwrnod newydd yn dechrau.
"Weithiau, mi 芒 i i'r m么r fy hun, ond nid wrth iddi wawrio; dwi'n teimlo mai fy nghyfrifoldeb i ydi creu cofnod o bawb arall yn mwynhau'r foment.
"Dwi'n byw ym Mhenarth, felly does gen i ddim esgus dros beidio mynd yno'n gyson, dydi hi ond yn cymryd pum munud i mi gyrraedd y traeth.
"Dwi wedi bod i draeth Penarth dros 600 diwrnod dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae wedi gwneud byd o les i fy iechyd meddwl.
"Ac mae fy mrwdfrydedd tuag at y gr诺p yma mor gryf ag erioed."
Hefyd o ddiddordeb: