Diagnosis canser Brooks wedi deillio o 'gais am barasetamol'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd David Brooks wedi gweld gostyngiad mawr yn ei bwysau cyn ei ddiagnosis

Mae chwaraewr canol cae Cymru, David Brooks, wedi dweud mai cais am barasetamol gan un o feddygon y t卯m cenedlaethol wnaeth arwain at gael diagnosis o Lymffoma Hodgkin.

Dywedodd Brooks, sy'n chwarae i Bournemouth, fod ei glwb wedi sylwi ar ei berfformiadau'n dirywio am sawl wythnos cyn y diagnosis yn Hydref 2021.

Roedd un o aelodau t卯m meddygol Cymru wedi archebu profion canser ar 么l clywed ei fod yn colli pwysau yn sydyn ac yn chwysu yn ystod y nos.

Dywedodd Brooks ei fod wrth ei fodd ei fod bellach yn glir o ganser ar 么l 18 mis o driniaeth.

'Roeddwn i ar ei h么l hi'

Mewn cyfweliad ar wefan y clwb, roedd Brooks yn cofio cyfarfodydd gyda chyn-reolwr Bournemouth, Scott Parker.

Dywedodd: "Roedd yn dangos rhifau i mi. Roeddwn i ar ei h么l hi.

"Roeddwn bob amser yn un o'r rhai isaf o ran pellter ro'n i wedi rhedeg neu sbrintiau. Aeth hyn yn ei flaen am fis neu ddau, mwy na thebyg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Brooks bellach n么l yn nh卯m cyntaf Bournemouth

Dywedodd fod ei bwysau wedi gostwng yn sylweddol - 6-7kg (13-15 pwys) mewn pythefnos - a'i fod hefyd yn cael ei gadw'n effro wrth chwysu yn ystod y nos.

"Yna es i i ffwrdd gyda Chymru ac maen nhw'n gwneud y gwiriadau meddygol i gychwyn," meddai.

"Gofynnais am barasetamol a dweud: 'Rwy'n cael trafferth cysgu.'

"Cefais y sgwrs honno gyda'r doc ac es yn 么l i fy ystafell fel pe bai dim wedi digwydd.

"Ac wedyn ges i gnoc ar y drws 20 munud yn ddiweddarach. Yn amlwg doedd o ddim eisiau gwneud o o flaen y bechgyn.

"Dywedodd: 'Dydw i ddim eisiau dy ddychryn ond mae popeth rwyt ti wedi'i ddweud wrtha i yn sgil effaith canser.'

"Dwyt ti ddim wir yn ei gredu pan mae'n dweud y gair. Yn amlwg rydych chi'n crio 'chydig ac yn gobeithio bod popeth yn mynd i fod yn iawn."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Mae David Brooks wedi ennill 21 o gapiau i Gymru

Cafodd Brooks ddiagnosis o Lymffoma Hodgkin cam 2, a oedd angen cemotherapi bob pythefnos a oedd yn ei adael "prin yn gallu codi o'r gwely".

Cafodd wybod ei fod yn glir o ganser ym mis Mai 2022 ac mae wedi ymddangos ddwywaith i d卯m cyntaf AFC Bournemouth fel eilydd ers mis Mawrth.

"Dim ond ceisio dod yn ffit a chwarae cymaint o gemau 芒 phosib yw'r nod nawr," meddai.

"Ti'n sylweddoli mai p锚l-droed oedd fy mywyd cyfan am 24 mlynedd cyn i mi gael diagnosis, a doedd y cyfan yn golygu dim mewn eiliad byr."