大象传媒

Wrecsam: sgyrsiau cyfrinachol gyda'r s锚r Hollywood

  • Cyhoeddwyd
Rob a RyanFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn berchnogion ar y clwb ym mis Chwefror 2021

Yn 2020 roedd Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Wrecsam yn cael ei redeg gan ymddiriedolaeth y cefnogwyr ar 么l iddi nhw gamu i'r adwy i achub y clwb yn 2011.

Ond yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd cadeirydd yr ymddiriedolaeth, Spencer Harris gael sgyrsiau cyfrinachol gyda s锚r Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney am eu cais i brynu'r clwb.

Bu'n rhaid i Mr Harris gadw'r trafodaethau'n gyfrinach wrth ei deulu - gyda'i blant a'i wraig yn cael ei gwahardd rhag dod i'r ystafell pan fyddai ar alwad gyda'r s锚r.

Wedi i'r ddau actor enwog brynu'r clwb, mae Wrecsam wedi dod yn enw adnabyddus i gefnogwyr p锚l-droed ar draws y byd, gyda'r rhaglen ddogfen 'Welcome to Wrexham' yn rhoi hwb enfawr i'r clwb.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Roedd yr alwad Zoom gyntaf gefais i gyda Rob a Ryan gyda'i gilydd yn eithaf swrrealaidd,' dywedodd Mr Harris

Mae Mr Harris yn cofio'r alwad gyntaf iddo gael gyda'r ddau seren o America.

"Roedd yr alwad Zoom gyntaf gefais i gyda Rob a Ryan gyda'i gilydd yn eithaf swrrealaidd," dywedodd.

"Y peth anodd gyda'r cyfnod clo oedd bod gennych eich teulu o gwmpas y t欧, ac mi fydden i'n gwahardd pobl o'r ystafell, mewn rhai achosion, o'r ystafelloedd cyfagos hefyd er mwyn gwneud yn si诺r bod y cyfan yn aros yn breifat.

"Felly mi fydden i yn fy ystafell fyw a byddai pawb arall yn cael eu gwahardd ac yn cael eu hel i fyny'r grisiau allan o'r ffordd tra fy mod yn delio gyda 'busnes Wrecsam' fel yr oeddwn i'n ei alw.

"Doedden nhw ddim yn gwybod bod Ryan Reynolds yn siarad gyda mi lawr llawr!"

Ffynhonnell y llun, Barrington Coombs
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwnaeth teulu Spencer Harris glywed am y trafodaethau gyda'r s锚r yr un pryd a phawb arall

Roedd cytundebau cyfrinachedd yn golygu na allai Mr Harris dweud wrth ei wraig Jeni na'i dri blentyn, Emyr, Megan a Mali, ei fod yn cyfarfod gydag unrhyw berchnogion newydd posib.

Bu'n tipyn o syndod i'r teulu felly i ddarganfod gyda phwy roedd Mr Harris wedi bod yn siarad yn ystod ei holl gyfarfodydd cyfrinachol.

"Roedd ychydig bach o 'Pam na wedest ti wrtha i dad?' ond dwi'n credu yn y pen draw roedden nhw'n deall," dywedodd Mr Harris.

"Mi wnes i geisio bod yn hynod broffesiynol am faterion y clwb p锚l-droed - felly wnes i ddim dweud wrth unrhyw un nad oedd angen gwybod.

"Felly gwnaeth fy ngwraig a fy mhlant gael gwybod yr un pryd 芒 phawb arall. Ond pan ddaeth Rob a Ryan i'r t欧 gwnaeth hynny fyny am fod mor gyfrinachol."

Dywedodd Mr Harris ei fod yn cofio gwneud cyflwyniadau i'r actorion yn amlygu potensial Wrecsam am y dyfodol.

"Roedden i'n rhannu popeth sy'n wych am y clwb, fel y ffaith ein bod yn chwarae ar y cae p锚l droed rhyngwladol hynaf yn y byd.

"Rydym yn cynrychioli hanner cenedl, fel yr unig glwb yng ngogledd Cymru - yn yr un modd ag y mae Norwich yn cynrychioli Norfolk. Dwi ddim yn credu bod gan yr un clwb yn y DU yr un posibilrwydd am dwf ag sydd gan Wrecsam."

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ryan Reynolds a Rob McElhenny gyda Spencer Harris (canol)

Ond doedd hyd yn oed Mr Harris ddim yn gwybod pwy oedd tu 么l i'r cynnig ar y dechrau.

"O'r diwrnod cyntaf roedden i'n gwybod eu bod o ddifri am y peth oherwydd calibr y bobl roedden i'n siarad gyda," dywedodd.

"Ond cymerodd tua 10 wythnos tan ein bod wir yn gwybod pwy oedd y tu 么l i'r cynnig. Roedden ni yn gwybod eu bod yn bobl enwog iawn gyda gwerth net uchel a'u bod o ddifri am yr hyn roedden nhw am ei wneud.

"Enw un o'r bobl ar y ff么n oedd Rob. Roedd ganddo acen Americanaidd. Wnaeth o ddim rhannu ei gyfenw ond siaradodd yn angerddol am ei gariad at y gamp... felly gymerodd e ddim yn hir i mi weithio allan mai fo oedd un o'r perchnogion posib.

"Ar 么l ychydig o googlo gyda'r cliwiau roddodd i mi, roedden i'n eithaf si诺r mae Rob McElhenney oedd o - wedyn cwpwl o wythnosau'n hwyrach, fe gawson ni gadarnhad."

'Gofalu am drysor y gymuned'

Ond nid pawb oedd yn gefnogol o gais yr actorion Americanaidd i brynu'r clwb ar y dechrau.

"Roedd y cefnogwyr eisiau sicrwydd, oherwydd clwb p锚l-droed y cefnogwyr ydy o ac roedd angen sicrhau bod y perchnogion yn gofalu am drysor y gymuned."

Tra bod 26 o gefnogwr wedi pleidleisio yn erbyn y cytundeb a naw wedi ymatal, gwnaeth 98.6% o'r ymddiriedolaeth bleidleisio o blaid cael yr actorion fel perchnogion newydd.

Ers hynny mae'r perchnogion newydd wedi gwario'n fawr ar ddenu chwaraewyr talentog i'r clwb.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mickey Thomas fod pob cefnogwr p锚l droed nawr yn gwybod am hanes Wrecsam

"Doedd y clwb ddim yn mynd i unman a nawr mae pawb yn y byd p锚l-droed yn siarad am Wrecsam," dywedodd y seren p锚l-droed Cymraeg, Mickey Thomas.

"Mae wedi mynd tu hwnt i freuddwydion unrhyw un ac rydych chi nawr yn siarad am Wrecsam yn yr un frawddeg 芒 Manchester United a Lerpwl. Dwi'n gweithio gyda Manchester United, un o'r timoedd mwyaf yn y byd, a'r unig beth mae pobl eisiau siarad gyda fi am yw Wrecsam.

"Dwi'n si诺r os fyddai unrhyw un yn glanio ar y lleuad, y peth cyntaf fyddai'r estroniaid yn ei ofyn fyddai 'Sut mae Wrecsam yn gwneud?' Nhw yw ail hoff d卯m pawb.'"

Fel mae'n sefyll mae Wrecsam bedwar pwynt yn glir ar dop y Gynghrair Genedlaethol gyda dwy g锚m ar 么l i'w chwarae, ac mi fyddai buddugoliaeth yn erbyn Boreham Wood yn sicrhau eu bod yn cael dyrchafiad.