大象传媒

Camsillafiad prawf rhybudd: 'Awtogywiriad' ar fai

  • Cyhoeddwyd
Neges
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwall yn y neges Gymraeg

"System ar-lein a wnaeth awtogywiriad" achosodd y gwall sillafu mewn prawf rhybudd argyfwng ddydd Sul, meddai Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Oliver Dowden.

Er bod "un gair yn y neges prawf Cymraeg yn anghywir" meddai, pwysleisiodd bod "hanfod y neges yn parhau heb ei newid".

Fe gafodd y neges awtomatig ei hanfon i ffonau symudol ar draws y DU am 15:00.

Roedd yn brawf o negeseuon fyddai'n cael eu hanfon i bobl petai argyfwng go iawn.

I ffonau symudol yng Nghymru, fe ymddangosodd y neges yn Gymraeg yn gyntaf ac yna'n Saesneg.

Fe ddechreuodd y neges trwy ddweud: "Prawf o wasanaeth Rhybuddion Argyfwng Llywodraeth y DU yw hwn.

"Bydd yn eich rhybuddio os oes argyfwng gerllaw sy'n peryglu bywyd."

Ond fe sylwodd rai ar wall yn ail ran y neges: "Mewn argyfwng go iawn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd i'ch cadw chi ac eraill yn Vogel."

"Yn ddiogel" ddylai'r neges fod wedi dweud.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Oliver Dowden: "Y prawf yn llwyddiant ar y cyfan"

Disgrifiodd Mr Dowden y prawf fel llwyddiant ar y cyfan - a dywedodd mai dyna oedd "y neges gyhoeddus fwyaf ar yr un pryd yn hanes y DU".

Dywedodd Mr Dowden na chafodd un o bob pump o ffonau symudol cydnaws (ar 4G a 5G) y rhybudd.

Mewn datganiad, dywedodd fod "tua 80% o gyfanswm nifer y ffonau symudol yn y DU wedi derbyn y rhybudd."

Dywedodd fod y darparwr rhwydwaith symudol, Three UK, wedi profi problem gyda negeseuon lluosog a arweiniodd at rai cwsmeriaid Three yn methu 芒 derbyn y rhybudd.

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog fod Swyddfa'r Cabinet yn "gweithio'n agos" gyda Three i weithredu "ateb priodol".

Diogelwch

Dywedodd nad oedd yna "unrhyw faterion diogelwch na diogelwch y cyhoedd" ac "ni amharwyd yn sylweddol ar unrhyw ddigwyddiadau na gemau chwaraeon."

Fe fydd y negeseuon yn cael eu hanfon go iawn pan fydd y llywodraeth neu wasanaethau brys eisiau rhybuddio am sefyllfa argyfwng lle bod bywyd mewn perygl, fel llifogydd difrifol, tanau neu dywydd eithafol.

Mae'n bosib na fydd rhai yn derbyn neges am fisoedd neu flynyddoedd.