Rishi Sunak i barhau i ddefnyddio'r enw Saesneg ar y Bannau
- Cyhoeddwyd
Mae Rishi Sunak wedi dweud y bydd yn parhau i ddefnyddio'r enw Brecon Beacons, er bod y parc cenedlaethol wedi gollwng ei enw Saesneg.
Cafodd y parc ei ail-frandio gyda'i enw uniaith Gymraeg, Bannau Brycheiniog, fis yma - penderfyniad a gafodd ei feirniadu gan rai o'r Ceidwadwyr Cymreig.
Cyn cynhadledd y blaid dros y penwythnos, dywedodd Mr Sunak ei fod yn credu y byddai'r "rhan fwyaf o bobl" yn cadw at yr enw Saesneg.
Fe amddiffynnodd hefyd yr arian sydd ar gael ar gyfer rheilffyrdd Cymru, ar 么l i'r Senedd ddweud bod arian yn ddyledus o HS2.
'Cefnogwr mawr o'r Gymraeg'
Mewn cyfweliad teledu dywedodd Prif Weinidog y DU ei fod yn "gefnogwr mawr o'r Gymraeg a diwylliant Cymreig", a bod cyllid S4C yn codi.
Nid yw Llywodraeth y DU bellach yn ariannu S4C yn uniongyrchol, ond mae wedi cynyddu'r cyllid mae'n ei gael o'r ffi drwydded.
Ychwanegodd Mr Sunak fod y Bannau yn denu ymwelwyr o bob rhan o'r byd, ac yn ardal "ry'n ni i gyd yn wirioneddol falch ohono ledled y Deyrnas Unedig".
"Rwy'n mynd i barhau i'w alw'n Brecon Beacons, a byddwn yn dychmygu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny hefyd," meddai.
Mewn dadl yn y Senedd am HS2 yr wythnos hon fe ymunodd y Tor茂aid 芒 galwadau i Gymru gael mwy o gyllid i'w rheilffyrdd.
Mae'r prosiect trenau cyflym wedi'i enwi yn swyddogol fel prosiect i Loegr a Chymru, er nad yw'n croesi'r ffin.
Mae gwrthbleidiau'n dweud pe bai'n cael ei gydnabod fel prosiect i Loegr yn unig y byddai'n darparu biliynau o bunnoedd i Gymru dan reolau datganoli.
Fe wnaeth pob plaid, gan gynnwys y Ceidwadwyr, gefnogi cynnig yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth San Steffan i newid statws y rheilffordd.
HS2 'o fudd i Gymru'
Dywedodd Rishi Sunak fod "setliad ariannu sefydlog ar gyfer y pethau hyn" ond y byddai HS2 o fudd arbennig i ganolbarth a gogledd Cymru, gyda chysylltiadau cyflymach o Birmingham a Crewe i Lundain.
Cyfeiriodd at gwerth 拢350m o welliannau i'r rheilffyrdd a gyhoeddwyd yn 2020.
Bydd rheilffordd newydd i gysylltu gorsafoedd Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd hefyd yn cael 拢50m o gronfa Llywodraeth y DU.
Daw'r cyfweliad ddyddiau ar 么l i elusen Ymddiriedolaeth Trussell ddatgelu ei bod wedi rhoi mwy o barseli bwyd brys nag erioed i bobl yng Nghymru llynedd, gyda bron i 70,000 yn mynd i blant.
Pan ofynnwyd iddo a oedd ganddo "embaras neu gywilydd" am y ffigyrau, dywedodd Mr Sunak "wrth gwrs dydw i ddim eisiau i neb orfod defnyddio banc bwyd".
Ychwanegodd y byddai cynlluniau ei lywodraeth i helpu pobl gyda'u biliau ynni, a chodi'r cyflog byw cenedlaethol yn helpu gyda chostau byw.
'Wrth galon ein Teyrnas Unedig'
Gwnaeth y Prif Weinidog hefyd gyhuddo Llywodraeth Cymru o wneud pobl Cymru yn "foch cwta ar gyfer agenda sosialaidd Llafur", gan honni bydd y Ceidwadwyr yn cyflawni dros Gymru.
Dywedodd Mr Sunak fod ei blaid yn canolbwyntio ar flaenoriaethau'r wlad ac wedi addo cwrdd 芒'i bum nod allweddol sef haneru chwyddiant, tyfu'r economi, lleihau dyled, torri rhestrau aros ac atal y cychod bychain.
"Dyma flaenoriaethau pobl ar draws y DU, p'un a ydych yn byw yn Newcastle neu yma yng Nghasnewydd," meddai.
Yn ystod yr araith, tynnodd sylw at y ffaith bydd dau Borthladd Rhydd yn cael eu sefydlu yng Nghymru, gyda disgwyl iddynt greu hyd at 20,000 o swyddi a biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad.
Ychwanegodd: "Mae Cyflawni dros Gymru wrth wraidd fy nghynlluniau.
"Mae Llywodraeth y DU yn sefyll y tu 么l i bobl Cymru ac rydym wedi dangos bod y lle gorau i Gymru wrth galon ein Teyrnas Unedig werthfawr.
"Fel eich arweinydd ni fyddwn byth yn anghofio ein bod yn blaid geidwadol ac unoliaethol ac yn gweithio gyda'n gilydd ... rydym yn mynd i gyflawni ym mhob rhan o'n DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023