大象传媒

Ceidwadwyr: 'Dim mwy o bwerau datganoli i Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Galwodd Andrew RT Davies ar Rishi Sunak i wrthod datganoli mwy o bwerau i Gymru

Ni ddylai rhagor o bwerau gael eu datganoli i Gymru, yn 么l arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.

Cyhuddodd Andrew RT Davies weinidogion Llafur Cymru o lynu at eu "credoau eithafol" mewn araith i gynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghasnewydd.

Dywedodd y byddai mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru yn "tynnu sylw" i ffwrdd o wella gwasanaethau iechyd ac addysg ac ychwanegodd fod y blaid Lafur wedi "blaenoriaethu materion ymylol."

Dywedodd hefyd fod Llafur wedi "dal Cymru yn 么l" ar hyd y blynyddoedd.

Ymosododd Mr Davies ar gynnig gan Lywodraeth Cymru i ofyn am y p诺er i basio deddf gyfatebol i Ddeddf Diwygio Cydnabod Rhywedd yr Alban, a gwnaeth hefyd feirniadu'r cynllun incwm sylfaenol, sy'n cynnig arian i blant sy'n geiswyr lloches, ymysg eraill.

"Dwi'n caru Cymru, dwi'n caru bod yn Gymro - a dyna pam dwi'n angerddol dros wneud y gorau posib i'm gwlad," meddai.

Ond dywedodd fod Cymru ar ei h么l hi gan fod "gweinidogion Llafur yn blaenoriaethu prosiectau hunanbwysig a materion ymylol, yn lle'r pethau sy'n wirioneddol bwysig".

Cyhuddodd Llafur o beidio blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd er mwy "ariannu mwy o wleidyddion" - cyfeiriad at y cynnig i ehangu maint y Senedd.

'Bore da - wedi defnyddio dipyn o Gymraeg!'

"Dwn i ddim amdanoch chi, ond fydde'n well gen i fwy o feddygon, nyrsys ac athrawon," dywedodd.

Pe bai galwad yn dod i law'r prif weinidog Rishi Sunak, "gan Lafur a'u ffrindiau cenedlaetholgar i fwy o bwerau gael eu datganoli i Gymru, peidiwch 芒 bod ofn dweud na", dywedodd Mr Davies.

"Rhaid gwrthod ceisiadau am bwerau dros blismona, cyfiawnder troseddol a hunaniaeth rhywedd.

"Mae obsesiwn ideolegol Llafur gyda rhywedd a rhoi eu credoau eithafol uwchlaw synnwyr cyffredin yn rhoi pobl mewn perygl, gan dynnu eu sylw oddi ar y materion sydd o bwys, gan dynnu eu sylw oddi ar redeg Bwrdd Iechyd Gogledd Cymru, sydd o dan fesurau arbennig unwaith eto."

Agorodd Mr Davies ei araith drwy ddweud "bore da", cyn ychwanegu: "dyna ni, dwi wedi defnyddio dipyn o Gymraeg felly gobeithio bydd y cyfryngau yn sgwennu rhywbeth neis amdana i".