Cyhoeddi canllawiau ar anafiadau pen mewn chwaraeon
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid tynnu unrhyw un yr amheuir o fod wedi dioddef cyfergyd oddi ar y maes a gorffwys am o leiaf 24 awr o dan ganllawiau newydd ar gyfer clybiau chwaraeon llawr gwlad.
Mae'r canllawiau wedi eu llunio gan arbenigwyr meddygol ar ran yr adran ddiwylliant a chwaraeon yn San Steffan, ac wedi'u hanelu at rieni, hyfforddwyr, dyfarnwyr a chwaraewyr.
Os yn amau anaf o'r fath maen nhw'n dweud y dylid galw llinell gymorth 111 y GIG ac na ddylai chwaraewyr ddychwelyd i chwaraeon cystadleuol am o leiaf 21 diwrnod.
Dywed yr awduron fod angen "newid diwylliant" yn y ffordd yr ymdrinir ag anafiadau i'r pen.
"Rydyn ni'n gwybod bod ymarfer corff yn dda i iechyd meddwl a chorfforol, felly dydyn ni ddim eisiau atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon," meddai'r Athro James Calder, y llawfeddyg a arweiniodd y gwaith i'r llywodraeth.
"Ond mae angen i ni gydnabod os oes gennych chi anaf i'r pen, rhaid ei reoli a bod angen eich amddiffyn fel nad yw'n gwaethygu."
'Set sylfaenol o argymhellion'
Y syniad yw helpu timau ac unigolion sydd ddim yn cystadlu ar y lefel uchaf un, ac sy ddim yn meddu ar yr un gefnogaeth gan arbenigwyr meddygol sydd gan glybiau proffesiynol.
Maen nhw'n dweud bod yn rhaid i unrhyw un sydd ag anaf i'r pen gael eu hatal rhag chwarae a pheidio cymryd rhan mewn unrhyw ymarfer corff neu weithgaredd gwaith pellach nes eu bod wedi cael eu gwirio gan weithiwr iechyd proffesiynol ar y safle, neu wedi cysylltu 芒 llinell gymorth 111 y GIG.
Os yw'r chwaraewr yn dangos symptomau "baner goch" - fel colli ymwybyddiaeth, amnesia neu anhawster siarad - rhaid iddo gael ei asesu ar frys ar ochr y cae gan feddyg neu ei gludo i uned damweiniau ac achosion brys.
Am 24 awr ar 么l cael ei dynnu allan o'r g锚m, mae'r canllawiau hefyd yn dweud na ddylai'r chwaraewr gael ei adael ar ben eu hunan, yfed alcohol na gyrru car.
'Polis茂au llym mewn lle'
Mae'r canllawiau cenedlaethol wedi'u dylunio fel set sylfaenol o argymhellion ar gyfer pob math o chwaraeon, gyda'r hawl gan gyrff llywodraethu unigol i ychwanegu atynt os oes angen.
Ond dywedodd Carl Russell Owen, sy'n hyfforddi t卯m rygbi Caernarfon, fod y clwb eisoes wedi cyflwyno canllawiau llym ar anafiadau pen.
"Mae Undeb Rygbi Cymru'n gefnogol iawn o glybiau cymunedol ar draws y wlad," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.
"Mae ganddon ni bolis茂au llym mewn lle a da ni'n addysgu pawb am symptomau.
"Mae gynnon ni ganllawiau hefyd am pryd geith chwaraewyr ddod yn 么l o anaf pen.
"Mae canllawiau tygbi eitha' llym i'w gymharu hefo'r canllawiau newydd heddiw, 28 diwrnod os da chi wedi cael anaf pen cyn cael dod yn 么l i chwarae.
"Yn amlwg hefo'r rheiny o dan 19 sydd falla heb feddyg wrth ochr y cae, mae'r canllawiau yn lot fwy llym, hefo'r rhai h欧n lle mae meddyg yn rhan o'r t卯m maen nhw'n cael eu hasesu.
"Ond 28 diwrnod ydi'r awgrym."
Ychwanegodd fod y clwb wedi cymryd camau ychwanegol gan fod sesiynau ymarfer bellach yn ddi-gyswllt [non- contact].
"Da ni angen blaenoriaethu iechyd a diogelwch y chwaraewyr dros ddim byd arall.
"Dwi'n teimlo fod yr undeb rygbi yn fwy llym na'r canllawiau, yn amlwg dwi'n croesawu bob dim sydd wedi dod allan, ond unrhyw amheuaeth mae'r chwaraewr yn dod i ffwrdd o'r cae yn syth bin.
"Ond mae protocols rygbi yn fwy llym na beth sydd wedi dod allan heddiw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2022