Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Caergybi: Gwrthod elfennau o gynllun dadleuol Penrhos
Mae elfennau o gais cynllunio i adeiladu pentref gwyliau ar Ynys Cybi wedi eu gwrthod gan gynghorwyr sir.
Mae'r cynlluniau dadleuol i godi 500 o fythynnod gwyliau ar ran o safle Penrhos, ger Caergybi, wedi rhygnu ymlaen ers dros ddegawd.
Er sicrhau caniat芒d yn 2016, mae rhai elfennau yn parhau i fod angen cymeradwyaeth cyn y gall unrhyw ddatblygiad o bwys ddechrau yno.
Ond brynhawn Mercher, yn groes i argymhelliad swyddogion, penderfyniad pwyllgor cynllunio M么n oedd gwrthod caniat谩u rhai o'r elfennau hynny.
Fis Ionawr roedd disgwyl i gynghorwyr wneud penderfyniad ar dri chais i ryddhau 'amodau' fel rhan o'r cytundeb 106 - sef amodau sy'n cael eu cyd-drafod rhwng datblygwyr a'r cyngor sir.
Dywed y datblygwyr, Land and Lakes, y byddai'r cynllun yn denu bron i 500 o swyddi i'r ardal.
Ond mae ymgyrchwyr yn mynnu na ddylai unrhyw waith fwrw 'mlaen ym Mhenrhos gan ei fod yn le poblogaidd i bobl ymweld, ac yn gartref i nifer o rywiogaethau gan gynnwys y wiwer goch.
Gyda'r safle yn ymestyn ar draws 200 o aceri, yn 么l y cwmni byddai 73 o aceri yn parhau i fod ar gael i'r cyhoedd fwynhau.
Ond barn cyfreithwyr ar ran y gr诺p Achub Parc Arfordirol Penrhos Caergybi oedd fod y datblygwr wedi "methu 芒 chyflawni rhai o ofynion y caniat芒d" mewn pryd ac heb gychwyn y gwaith angenrheidiol.
Gan honni, o ganlyniad, nad oedd caniat芒d 2016 bellach yn gyfredol, eu barn nhw oedd y dylai'r cwmni orfod cyflwyno cais o'r newydd.
Er nad oedd y datblygwyr yn cytuno a'r farn honno, wedi derbyn y llythyr cyfreithiol ac ar gais swyddogion y cyngor fe ohiriwyd penderfyniad ar y tri chais er mwyn derbyn cyngor pellach.
Fis Ebrill fe bleidleisiodd cynghorwyr i oedi'r penderfyniad am fis arall.
Roedd hyn er gwaethaf barn swyddogion cynllunio - ar 么l derbyn cyngor cyfreithiol eu hunain - fod y caniat芒d gwreiddiol yn parhau i fod yn ddilys ac y dylid caniat谩u'r cyfan.
Ond brynhawn Mercher, yn sgil pryderon parhaus am y sefyllfa gyfreithiol, o chwe phleidlais i bump fe aeth y pwyllgor yn groes i'r argymhelliad hwnnw.
Er bod disgwyl i ragor o geisiadau rhyddhau amodau 106 gael eu cyflwyno i'r pwyllgor, roedd rhai aelodau yn anfodlon iawn hefo'r anghytuno dros y sefyllfa gyfreithiol.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cynlluniau "wedi rhwygo rhannau o'r gymuned", ac fod "dau set o gyfreithwyr yn dod i gasgliadau hollol wahanol".
Ychwanegodd "nad oedd yn gyfforddus" yn pasio'r cais tra fod y ffasiwn anghytuno yn parhau i fod.
Roedd cydnabyddiaeth gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes fod aelodau "mewn lle annifyr" ac "nad oes modd plesio pawb".
O chwe phleidlais i bump fe gefnogwyd cynnig Jeff Evans i wrthod y tri chais, gydag un cynghorydd yn atal ei bleidlais.
Bydd y penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ystod cyfarfod fis Mehefin o'r pwyllgor.