Dod o hyd i un o safleoedd ffosil pwysica'r byd ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwyr yn dweud fod un o safleoedd ffosil pwysicaf y byd wedi ei ddarganfod yn y canolbarth.
Mae nifer fawr o ffosiliau newydd wedi eu darganfod ger Llandrindod ym Mhowys.
Fe ddaeth ymchwilwyr Amgueddfa Cymru o hyd i'r ffosiliau mewn creigiau oedd ar wely'r m么r dros 460 miliwn o flynyddoedd yn 么l.
Cafodd dros 170 o rywogaethau eu darganfod yn 2020 ar dir preifat sy'n cael ei adnabod fel Craig y Castell neu Castle Bank.
Mae'r safle'n un hynod brin, yn 么l yr ymchwilwyr Dr Joseph Botting a Dr Lucy Muir, gan fod meinweoedd meddal ac organebau cyflawn wedi eu cadw, yn hytrach na dim ond rhannau caled fel cregyn ac esgyrn.
Dywedodd Dr Muir fod dod o hyd i'r safle yn bwysig gan ei fod yn rhoi mewnwelediad i sut yr oedd bywyd yn esblygu yn ystod y Cyfnod Ordofigaidd - y cyfnod daearegol rhwng y Cyfnodau Cambriaidd a Silwraidd.
"Mae'n cyd-fynd 芒'r Digwyddiad Bioamrywiaeth Ordofigaidd Mawr, pan oedd anifeiliaid 芒 sgerbydau caled yn esblygu'n gyflym," meddai.
"Am y tro cyntaf, fe fyddwn ni'n gallu gweld beth roedd gweddill yr ecosystem yn ei wneud hefyd."
Fe gafodd ffosiliau sawl math o anifeiliaid eu darganfod yng Nghraig y Castell gyda'r nifer fwyaf yn fach - rhwng un a phum milimedr.
Roedd llawer naill ai'n gwbl feddal pan oedden nhw'n fyw neu 芒 chroen caled neu sgerbwd allanol (exoskeleton).
Dim ond un safle tebyg sydd wedi ei darganfod yn y byd lle mae'r lefel yma o fanylder i'w weld - ym Morocco.
Mae'r safle ger Llandrindod yn cynnwys olion grwpiau anarferol o anifeiliaid, yn ogystal 芒 rhai mwy modern.
Mae'r ffosilau newydd a gafodd eu darganfod hefyd yn cynnwys llawer o wahanol fathau o fwydod, sbyngau, cregyn llong a s锚r m么r.
Nid yw Dr Botting a Dr Muir yn cael eu cyflogi fel academyddion, ac roedd yn rhaid iddyn nhw godi arian er mwyn prynu offer microsgop i'w helpu gyda'r gwaith.
Dywedodd Dr Botting: "Mewn rhai ffyrdd mae hwn yn ymdrech gymunedol wirioneddol i ddatgelu'r safle hwn, oherwydd ni fyddai wedi bod yn bosib i ni ei wneud heb gefnogaeth nifer fawr o bobl.
"Nid oes gan hyd yn oed y mwyafrif o brifysgolion yr offer y gwnaethon ni fedru eu prynu yn y pendraw."
Fe wnaeth y ddau dreulio dros 100 o ddyddiau ar y safle'n casglu ffosiliau, gan gydweithio gydag ymchwilwyr o Gaerdydd, Caergrawnt, Sweden a China.
"Er gwaetha'r amrywiaeth anhygoel o ffosiliau sydd eisoes wedi'u darganfod, megis dechrau mae'r gwaith," meddai Dr Botting.
"Bob tro rydyn ni'n mynd yn 么l, rydyn ni'n dod o hyd i rywbeth newydd, ac weithiau mae'n rhywbeth gwirioneddol ryfeddol.
"Mae yna lawer o gwestiynau heb eu hateb, ac mae'r safle hwn yn mynd i barhau i gynhyrchu darganfyddiadau newydd am ddegawdau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2014