Cerddwr wedi marw ar 么l cael ei daro gan gar ger Wrecsam

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 21:50 ar yr A525 yng Nghoedpoeth

Mae dyn wedi marw ar 么l cael ei daro gan gar yn ardal Wrecsam nos Fawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad rhwng cerddwr a Ford Focus ar yr A525 yng Nghoedpoeth am tua 21:50.

Bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle. Mae'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Mae'r Sarjant Nicola Laurie, o Heddlu'r Gogledd, wedi gwneud ap锚l am dystion.

Diolchodd hefyd i bobl a oedd wedi helpu'r gwasanaethau brys ar leoliad.

"Mae ein cydymdeimladau yn parhau gyda theulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg yma," meddai.

Mae ffordd yr A525 bellach wedi ailagor.