Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llwynhendy: 'Siom' am gyfraniad cyngor tuag at brosiect pobl ifanc
- Awdur, Sara Dafydd
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae pobl yn Llwynhendy ger Llanelli yn galw am fwy o gyfleusterau i bobl ifanc yr ardal, gan honni fod yna broblem gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae cynghorwyr lleol a'r gr诺p Ein Llwynhendy wedi bod yn cynllunio ar gyfer trawsnewid y llyfrgell leol yn hwb cymunedol.
Fe fyddai'n cynnwys neuadd chwaraeon a maes chwarae i bobl ifanc y pentref.
Wedi i gais am grant gan y Loteri Genedlaethol gael ei wrthod, fe gyhoeddodd Cyngor Gwledig Llanelli y bydd eu cyfraniad yn newid o 拢600,000 i 拢200,000.
Mae'r gost ar gyfer y prosiect yn cynnwys cyfraniadau gan Gyngor Gwledig Llanelli, Ein Llwynhendy a Chyngor Sir G芒r.
Ond roedd disgwyl i ran helaeth o'r cyfraniad ddod gan y Cyngor Gwledig.
Yn 么l y cynghorydd Alex Evans mae'r newid mewn buddsoddiad yn un annerbyniol.
"Dwi'n siomi jest fel bod yn aelod. Fel gall yr arweinydd edrych at unrhyw un yn y gymuned yn Llwynhendy a dweud 'nes i'r peth iawn'. So nhw'n gallu."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwledig Llanelli bod y cyngor wedi gorfod cymryd "agwedd bragmatig at ddiogelu'r prosiect i'w wneud yn fwy cynaliadwy a fforddiadwy".
'Hwb cymunedol yn datrys y problemau'
Roedd y gymuned leol eisoes wedi gweld y cynlluniau ar gyfer ymestyn y llyfrgell.
Yn 么l y cynghorydd sir a chymunedol dros Lwynhendy, Jason Hart, mae yna adroddiadau wedi bod o daflu wyau at dai, cnocio drysau, defnydd peryglus o e-sgwteri, beiciau a th芒n gwyllt.
Dywed Alex Evans byddai cael hwb cymunedol i Lwynhendy yn fodd o ddatrys y problemau hynny.
"Mae'n broblem fawr iawn. Mae'r heddlu'n dweud yr un peth. Mae'r lefel o ASB (Anti-Social Behaviour), yn enwedig ar 么l i'r prosiect Kicks orffen am y gaeaf aeth ASB reit lan."
Mae prosiect Premier League Kicks yn digwydd yn wythnosol y tu allan i'r llyfrgell.
Bwriad y fenter gan Sefydliad T卯m P锚l-Droed Abertawe yw denu pobl ifanc oddi ar y strydoedd yn eu hamser hamdden.
Y llynedd roedd rhaid gohirio sesiynau trwy'r gaeaf oherwydd problemau goleuo.
Mae gan Delyth Burroughes ddwy o ferched sy'n gwirfoddoli gyda PL Kicks, ac mae ei mab hefyd yn chwarae i'r t卯m.
"Pan oedd y sesiynau ddim yn rhedeg roeddech chi'n gweld plant yn cael ASBOs, roedd lot o gwynion yn mynd i fyny ar Facebook am ymddygiad gwrthgymdeithasol, tanau, y fath 'na o beth."
Dywed y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn bod toriadau ariannol ar draws awdurdodau yn golygu fod cyflwr cyfleusterau cymunedol wedi dirywio.
"Mae Llwynhendy yn ardal mae'r heddlu yn cael eu galw iddi'n weddol reolaidd.
"Wrth gwrs mae pobl ifanc yr ardal yn chwilio am bethau i'w wneud. Mae angen sicrhau bod yna gyfleusterau ar gael i bobl ifanc yn y gymuned.
"Wrth gwrs fydden i bob tro yn datgan fod angen mwy o gyfleusterau ond dwi hefyd yn deall yr her ariannol."
'Angen mwy o arian'
Yn 么l y cynghorydd sir dros Lwynhendy, Sharen Davies, dyw'r etholaeth ddim yn cael digon o arian gan Gyngor Gwledig Llanelli o gymharu ag ardaloedd eraill y sir.
"Ni dim ond wedi derbyn 拢195,000 [dros y 10 mlynedd ddiwethaf] o gymharu ag etholaethau eraill wnaeth dderbyn 拢400,000- 拢500,000.
"Maen nhw'n ardaloedd mwy cefnog, a ni'n amlwg yn ardal ddifreintiedig. 'Dyw e jest ddim yn gwneud synnwyr."
Mae Cyngor Gwledig Llanelli yn addo 拢200,000 tuag at adnewyddu'r adeilad. Yn 么l Alex Evans dyw hyn ddim yn ddigon.
"Mae real opportunity yma i ddod 芒'r gwasanaethau i'r gymuned. Ond ti ffili 'neud hwnna tu mewn i adeilad y seis hyn.
"Bydd y Cyngor Gwledig yn dweud 'chi dal yn cael prosiect'- sai'n cytuno gyda hwnna."
Prosiect mwy fforddiadwy
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Gwledig Llanelli: "Mae prosiect Hwb Llwynhendy yn mynd rhagddo er ei fod ar ffurf fwy fforddiadwy. Y bwriad yw dylunio'r prosiect fel y gall y cyngor ychwanegu ato yn y dyfodol pe bai'n dewis gwneud hyn.
"Mae cyflwr yr economi yn gyffredinol wedi cael effaith fawr ar y prosiect gyda phrisiau'n codi ar gyfer cyflenwad llafur, cyflenwadau a deunyddiau.
"Roedd hyn yn rhwystredig iawn i bawb dan sylw ac felly mae'r cyngor wedi gorfod cymryd agwedd bragmatig at ddiogelu'r prosiect i'w wneud yn fwy cynaliadwy a fforddiadwy."
Dywedodd llefarydd ar ran Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Rhoesom adborth i'r sefydliad i'w helpu i gryfhau eu cais a'u gwahodd i ailymgeisio am gyllid yn y dyfodol.
"Mae lefel uchel o alw am ein cyllid ac mae'r galw hwn yn llawer uwch na'r arian sydd gennym i'w ddosbarthu.
"Yn 2022/23 dyfarnodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros 拢50m o arian y Loteri Genedlaethol i gannoedd o brosiectau cymunedol ledled Cymru."