Mwy o stondinau nag erioed yng Ng诺yl Fwyd Caernarfon

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Maes Caernarfon dan ei sang y llynedd

Roedd mwy o stondinau nag erioed yng Ng诺yl Fwyd Caernarfon eleni.

Roedd gan y maes y tair ardal newydd a phedwar llwyfan berfformio ar draws y dre hefyd.

Y bwriad ydy rhoi cyfle i fandiau ifanc lleol i ddangos eu doniau, yn ogystal ag artistiaid mwy adnabyddus fel Band Pres Llareggub.

Mae G诺yl Fwyd Caernarfon wedi tyfu i fod yn un o wyliau bwyd mwyaf poblogaidd y gogledd-orllewin ers ei chynnal am y tro cyntaf yn 2016.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd pobl yn cyfrannu'n hael lle gallan nhw i'r 诺yl - sydd am ddim i'r cyhoedd, ond sy'n dod ar gost o dros 拢40,000 i'w threfnu.

Yn dilyn bwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig, fe ddenodd yr 诺yl dros 30,000 o bobl i'r dref y llynedd.

Ymysg yr amcanion oedd adlewyrchu cymeriad a diwylliant Caernarfon drwy ddathlu bwyd lleol a hybu busnesau'r ardal.

Dywedodd Mirain Roberts, sy'n aelod o bwyllgor yr 诺yl: "Mi wnaethon ni gasglu adborth ac un peth oedd yn amlwg oedd bod pobl eisiau lot mwy o stondinau bwyd, felly 'da ni'n mynd o 24 stondin bwyd cyflym i 40."

Ychwanegodd bod yr 诺yl yn tyfu a thyfu bob blwyddyn a'i bod yn ymateb i'r galw: "Ma' 'na fwy o stondinau ar y cyfan hefyd gyda tri lleoliad newydd yn cael eu hychwanegu i'r 诺yl."

Disgrifiad o'r llun, Bu pobl yn mwynhau'r adloniant ar fore Sadwrn

Ond mae'r 诺yl yn fwy na chyfle i hyrwyddo cynnyrch a busnesau lleol gan ddarparu llwyfan - yn llythrennol - i artistiaid cerddorol a fydd yn rhoi'r cyfle i wrando ar gerddoriaeth byw.

"Mae 'na bedwar llwyfan, ac mae 'na dalent lleol newydd ifanc ond hefyd enwogion fel Meinir Gwilym, Band Pres Llareggub a Ciwb," meddai Mirain.

Ar ben hynny, bydd stondinau amgen yn gwerthu celf a chrefft ac ati.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Lleisiau C么r Meibion Caernarfon yn rhoi dechrau da i'r diwrnod ar y Maes yn 2022

"'Da ni wedi gwneud ymdrech eto eleni i weithio tuag at fod yn 诺yl ddi-blastig," eglurodd Mirain.

Un o'r camau mae'r 诺yl wedi cyflwyno ydy cwpanau penodol aml ddefnydd.

"Ma' rhan fwyaf o'r masnachwyr yn nodi bod nhw'n defnyddio deunyddiau bioddiraddadwy, ond yn benodol eleni 'da ni'n cyflwyno gwydrau aml ddefnydd i'r 诺yl," meddai Mirain.

G诺yl am ddim

Mae ehangu'r 诺yl o ran maint, ac ardaloedd fel y llwyfan ychwanegol yn achosi rhai heriau a phwysau ariannol.

"Mae hi'n 诺yl am ddim, ond mae hi'n costio 拢43,000 i'w chynnal," eglurodd Mirain.

"Dim ond 拢4,000 gafodd ei gasglu mewn rhoddion y llynedd, felly 'da ni wir yn galw ar bobl i fod yn hael yn ystod yr 诺yl, a'n cefnogi ni yn ariannol."

I leihau costau mae pawb sy'n gweithio ar drefnu a rhedeg yr 诺yl yn wirfoddolwyr gyda Gr诺p G诺yl Fwyd Caernarfon.

Criw o wirfoddolwyr lleol ydyn nhw, sy'n cyfarfod yn rheolaidd drwy'r flwyddyn er mwyn rhoi trefniadau mewn lle ar gyfer yr 诺yl nesaf.

Ffurfiwyd y gr诺p ym mis Chwefror 2015 yn dilyn cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus a gynhaliwyd yn y dre.

Etholwyd Nici Beech yn gadeirydd, Eleri Lovgreen yn ysgrifennydd a Trystan Iorwerth ac Yasmin Khan yn drysoryddion.

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Nici Beech ei bod hefyd yn falch gweld criw o wirfoddolwyr ifanc yn ymuno llynedd, gan ychwanegu eu bod yn "cymryd mwy o gyfrifoldeb eleni ac yn 'neud yn gr锚t".