Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cannoedd yng Nghaernarfon ar gyfer rali argyfwng tai
Mae cannoedd o bobl wedi cymryd rhan mewn rali yng Nghaernarfon yn galw am ragor o weithredu ar yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio gan ymgyrchwyr fel argyfwng tai yng Nghymru.
Mae nhw'n galw am Ddeddf Eiddo er mwyn sicrhau nad ydi pobl yn cael eu prisio o'r farchnad leol.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cymryd camau radical i fynd i'r afael 芒 mater sy'n un cymhleth.
Roedd y brotest - a gynhaliwyd ddeuddydd wedi'r coroni ger Castell Caernarfon lle cafodd y Brenin Charles ei goroni fel Tywysog Cymru yn 1969 - yn ceisio tanlinellu'r cyferbyniad rhwng "cyfoeth" y teulu brenhinol a'r argyfwng tai mewn cymunedau ar draws Cymru.
Gwnaeth y trefnwyr ofyn i fynychwyr ymrwymo i ddyfodol cymunedau Cymru drwy anfon neges i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i fynnu Deddf Eiddo.
'Canol y broblem yw'r farchnad agored'
Wrth siarad ar Dros Ginio, dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith, a fu'n trefnu'r digwyddiad: "Mae 'na gamau pwysig wedi cael eu cymryd yn erbyn rhannau o'r broblem, i gyfyngu ar ormodedd o ail gartrefi a llety gwyliau.. ac maen nhw'n symud nawr i edrych ar rentu teg.
"Ond maen nhw'n mynd o amgylch ymylon y broblem. Canol y broblem yw'r farchnad agored, y ffaith bod y farchnad agored yn dyrannu tai yn 么l faint o gyfoeth sydd gan bobl.
"Beth sydd angen... yw Deddf Eiddo sydd yn trin tai fel asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi i bobl yn eu cymunedau a blaenoriaethu pobl leol.
Ychwanegodd: "Cyferbynnu ydyn ni y sefyllfa yn Llundain. Coroni braint a chyfoeth teulu sydd efo nifer o balasau, pan mae pobl yn yr ardaloedd yma, ac mewn gwahanol rannau o Gymru, am wahanol resymau yn methu cael cartrefi yn eu cymunedau
"'Da ni am roi gwerin bobl Cymru ar ganol y llwyfan yn hytrach na'r frenhiniaeth y penwythnos yma."
Dywedodd Mared Llywelyn o Gyngor Tref Nefyn: "Mae'r argyfwng ail gartrefi yn ardal Nefyn a Morfa Nefyn yn eitha' difrifol - ma' bobl ifanc yn ffindio hi'n amhosib cael t欧 i fyw yn eu hardaloedd a 'da ni yn gwybod fod y bobl isho aros yn eu cynefin a ma' nhw'n cael eu gwthio oddi yna oherwydd prisiau tai sydd hollol allan o gyrraedd pobl.
"Ma' Bryn F么n wedi siarad ei hun heddiw a dweud ei fod o 'di cael trafferth ers tair blynedd i ffeindio t欧 yn y gogledd orllewin - felly mae'n effeithio pawb.
"'Da ni yn galw am Ddeddf Eiddo - ma' Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ymgyrchoedd Hawl i Fyw Adre ac Nid yw Cymru ar Werth - a ma' nhw di cyflwyno pecyn o fesurau fis Gorffennaf y llynedd ond mi fysa Deddf Eiddo yn smentio hynna i gyd lawr .
"Mi rydan ni angen Deddf Eiddo i warchod ein cymunedau ac i reoleiddio'r broblem o ail dai."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i d欧 gweddus, fforddiadwy i'w brynu neu ei rentu yn eu cymunedau fel eu bod yn gallu byw a gweithio'n lleol.
"Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threth i gyflawni hyn, fel rhan o becyn cysylltiedig o atebion i gyfres gymhleth o broblemau.
"Rydym hefyd yn ymroddedig i gyhoeddi Papur Gwyn ar y potensial i sefydlu system rhentu teg yn ogystal 芒 dulliau newydd i wneud tai yn fforddiadwy i'r rhai sydd ar incwm lleol."