Codi arian i hosbis fel T欧 Bryngwyn yn 'gymaint o help'
- Cyhoeddwyd
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod maint yr arian a gafodd ei godi yn ystod y pandemig er mwyn rhoi mwy o help i'r gwasanaeth iechyd, cleifion a chymunedau wedi torri pob record.
Yn 么l NHS Charities Together, sy'n cynrychioli dros 230 o elusennau'r GIG ar draws y DU, fe gafodd 拢160m ei godi mewn ymateb i'w hap锚l Covid.
拢2,974,408 yw cyfanswm y grantiau yng Nghymru hyd yn hyn, ac maen nhw wedi cyfrannu at ariannu dros 400 o brosiectau ar draws Cymru.
Mae hosbis yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi cael bron i 拢17,000 gan deulu dyn fu farw o ganser wedi tanlinellu gymaint o help yw arian y cyhoedd i elusennau'r GIG.
Yn ei ddyddiau olaf fe gafodd David Lewis, o bentref Llannon ger Llanelli, ofal yn Hosbis T欧 Bryngwyn, Llanelli, a'i ddymuniad oedd bod ei deulu'n parhau i godi arian.
Fe gafodd ddiagnosis o ganser yn 16 oed, ond ar 么l triniaeth fe fu'n glir o'r salwch tan iddo ddychwelyd fis Medi 2021.
Bu'n s芒l am naw mis 芒 chanser yr ysgyfaint, a doedd dim gwella y tro hwnnw. Bu farw'n 54 oed.
"Buodd e gyda ni am tua naw mis ar 么l y diagnosis," meddai ei chwaer, Annmarie Thomas.
"Doedd David ddim yn drist trwy ei salwch yn gyfan ond, pan ddaeth e fan hyn, roedd dagrau yn ei lygaid pan welodd y cyfleusterau a'r ardd hyfryd."
Mae codi arian wedi bod yn rhan o fywyd y teulu amaethyddol ers degawdau oherwydd salwch David a chyn iddo farw roedd ganddo neges bwysig i'w chwaer: "Gwna di yn si诺r bo ti'n dal i godi arian yn fy enw i er mwyn helpu T欧 Bryngwyn."
Roedd y gymuned gyfan yn awyddus i helpu a phobl yn hael yn ymateb i'r ap锚l i gofio am y ffermwr lleol poblogaidd - Dai Coed Cyw, fel oedd e'n cael ei 'nabod yn yr ardal.
"Mae e wedi bod yn gyfnod emosiynol iawn," medd Annmarie, "ond bydde David yn hapus iawn a ninne' wedi codi bron i 拢17,000, ac ma' T欧 Bryngwyn mor ddiolchgar."
Roedd cefnogaeth fawr yn lleol i ddigwyddiadau codi arian fel taith elusennau tractor.
Yn 么l un o'r trefnwyr, Ioan Harries o Glwb Ffermwyr Ifanc Llannon, roedd pobl eisiau cefnogi "er cof am Dai, gan ei fod e'n aelod ffyddlon a phoblogaidd o'r clwb, ond hefyd am fod llawer o deuluoedd o'r ardal wedi cael help gan T欧 Bryngwyn.
"Mae yr hosbis wir yn godsend i bobl rownd ffor' hyn," ychwanegodd.
Roedd pobl o bob oed yn rhan o'r ymgyrch i godi arian, gan gynnwys ei nai, Lewis, sy'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Maes y Gwendraeth. Roedd e a'i wncwl Dai yn ffrindie' mawr.
"Roedd wncwl fi wedi marw yn hosbis T欧 Bryngwyn a n'ethon ni ofyn i'r WI os bydde' nhw'n fodlon gwau cywion bach a bues i yn helpu hefyd... a wedyn gwerthu nhw."
'Help ar adeg sy'n galed'
Mae staff yr hosbis yn gwerthfawrogi'r arian ychwanegol.
Dywedodd Owain Prys Thomas, ymgynghorydd meddygaeth lliniarol yn Hosbis T欧 Bryngwyn: "Mae y gefnogaeth gan elusennau fel Ap锚l Hosbis T欧 Bryngwyn sydd wedi codi'r arian i adeiladu'r hosbis a dal yn cyfrannu'n helaeth, a hefyd elusen y gwasanaeth iechyd, yn werthfawr tu hwnt.
"Mae'r Llywodraeth yn rhoi arian ar gyfer pethe' sydd yn greiddiol yn y gwasanaeth ond mae arian y cyhoedd yn helpu i roi cyfleusterau gwell i gleifion a'u teuluoedd ar adeg sy'n gallu bod yn galed iawn."
Gyda help cyfraniadau elusennol mae'r hosbis wedi cwblhau prosiectau fel moderneiddio'r dderbynfa a chyflwyno cyrsiau hyfforddi staff.
Sut mae arian ap锚l NHS Charities Together wedi ei wario yng Nghymru hyd yma?
20% ar lefydd gorffwys a llesiant ar gyfer staff a chleifion;
20% ar offer;
17% ar raglenni a gwasanaethau;
13% ar adnoddau digidol;
12% ar addysg a hyfforddiant;
9% ar gynlluniau llesiant eraill; a
3% ar ragnodi cymunedol.
Yn 么l Derlys Jones, sy'n nyrs arweiniol clinigol gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae'r help gan y gymuned yn gwneud i'r "staff deimlo yn falch iawn am be' ma' ni'n neud, ac o'r gwahaniaeth ni gallu 'neud".
Mae codi arian yn ffordd i deuluoedd a ffrindiau ddiolch am y gofal, ond mae rhoddion elusennol hefyd yn golygu fod staff ac ysbytai'n gallu sicrhau'r gofal gorau posib, a hynny ar adegau digon anodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020