Cyfrifon Betsi wedi eu 'ffugio'n fwriadol', yn ôl adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad na sydd wedi ei ryddhau ar gyllid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd wedi canfod bod cyfrifon wedi eu "ffugio'n fwriadol", yn ôl honiad gan arweinydd Plaid Cymru Adam Price.
Dywedodd wrth y Senedd fod yr adroddiad yn honni bod miliynau wedi eu "cyhoeddi'n anghywir" er mwyn osgoi colli'r arian erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Dywedodd Mr Price wrth y Senedd fod yr adroddiad yn awgrymu math o dwyll.
Cafodd ymchwiliad i dwyll ei ollwng yn gynharach yn y flwyddyn.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn deall bod gweithdrefnau disgyblu ar y gweill gan y bwrdd iechyd.
"Mae gweithredoedd sy'n deillio o'r adroddiad yn dal yn bosib iawn," meddai.
Dywedodd na ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth bod gweision sifil na gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig.
Dim cyfrif priodol am £122³¾
Ysgogwyd y gwaith gan bryderon archwilwyr nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi cyfrif priodol am wariant o £122³¾.
Dywedodd y bwrdd iechyd ym mis Ebrill y byddai adolygiad mewnol o'r mater, "yn unol â'i weithdrefnau a'i bolisïau".
Daw'r sylwadau gan Adam Price wrth iddo wynebu pwysau yn sgil adroddiad sy'n honni achosion o aflonyddu, bwlio a chasineb at wragedd ym Mhlaid Cymru.
Yr wythnos diwethaf fe glywodd pwyllgor fod cyn-aelodau annibynnol o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi eu "syfrdanu" bod Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru wedi rhoi'r gorau i'w hymchwiliad.
Dywedwyd wrth ´óÏó´«Ã½ Cymru y llynedd nad oedd unrhyw un o'r materion yr ymchwiliwyd iddynt yn ymwneud ag unrhyw un yn gwneud elw personol.
Wrth siarad yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Senedd, roedd hi'n ymddangos bod Mr Price wedi darllen canfyddiadau adroddiad heb ei gyhoeddi gan y cwmni cyfrifwyr EY.
'Twyll corfforaethol'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru fod yr adroddiad "wedi dod i'r casgliad bod cyfrifon ariannol bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi'u ffugio'n fwriadol, gyda miliynau o bunnoedd o wariant wedi'i gyhoeddi'n anghywir yn 2021-22 er mwyn osgoi colli'r cronfeydd hynny ar ddiwedd y flwyddyn".
Parhaodd: "Mae'r adroddiad yn dweud, 'Rydym wedi canfod bod costau wedi'u cyhoeddi i'r flwyddyn ariannol anghywir, a bod y datganiadau yn fwriadol ac nad oedd y camddatganiadau wedi'u cyfyngu i un unigolyn neu dîm.'"
Gofynnodd arweinydd y blaid: "Gan fod hyn, yn ôl ei ddiffiniad bron, i'w weld yn awgrymu twyll corfforaethol camadrodd ariannol, pam mae tîm ymchwilio i dwyll y GIG ei hun yn dod i'r casgliad na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach?"
'Annibynnol'
Wrth ymateb, dywedodd y prif weinidog nad mater iddo ef oedd "egluro pam fod Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymrug wedi dod i'r casgliadau sydd ganddynt; maent yn sefydliad cwbl annibynnol. Anfonwyd yr adroddiad atyn nhw.
"Fy nealltwriaeth i yw eu bod wedi ymchwilio iddo. Eu casgliad yw nad oedd angen unrhyw gyhuddiadau troseddol."
Mae gweithdrefnau disgyblu "wedi eu cychwyn gan y bwrdd iechyd", meddai, gan ychwanegu bod gweithredoedd sy'n deillio o'r adroddiad "yn dal yn bosib iawn".
Dywedodd Mr Drakeford nad oedd wedi gweld y ddogfen ei hun, ond dywedodd nad oedd yr adroddiad yn feirniadol "mewn unrhyw ffordd o weinidogion neu weision sifil Llywodraeth Cymru".
Dywedodd mai'r rheswm na ellir ei gyhoeddi yw y byddai'n "anorfod… yn arwain at adnabod unigolion, sydd…yn awr o bosib yn destun gweithdrefnau disgyblu".
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn gobeithio na fyddai dim a ddywedodd Mr Price yn "rhagfarnu gweithredoedd y gallai'r bwrdd ddymuno eu cymryd".
Ychwanegodd Mr Price ei fod yn ofalus i beidio ag enwi unrhyw unigolion.
"Yn syml, rwy'n codi cwestiynau dilys", meddai.
Mae cais wedi cael ei roi i'r bwrdd iechyd am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023