大象传媒

Dyfodol arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn y fantol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth yw barn rhai o drigolion etholaeth Adam Price am ei ddyfodol fel arweinydd Plaid Cymru?

Mae'n ymddangos fod dyfodol arweinydd Plaid Cymru yn y fantol, gyda chorff rheoli'r blaid yn cyfarfod nos Fercher.

Roedd pwyllgor gwaith cenedlaethol Plaid Cymru wedi trefnu cyfarfod ar gyfer 20:00.

Daw wedi cyhoeddi adroddiad damniol ar ddiwylliant mewnol o fewn y blaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Neithiwr [nos Fawrth], cyfarfu Gr诺p Senedd Plaid Cymru i drafod gweithredu argymhellion adroddiad Prosiect Pawb.

"Yn dilyn hynny mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi galw cyfarfod arbennig o'r pwyllgor gwaith cenedlaethol lle bydd camau nesaf y blaid yn cael eu trafod.

"Lles y staff a'r aelodau yw blaenoriaeth Plaid Cymru o hyd, a meithrin diwylliant sy'n ddiogel, yn gynhwysol ac yn barchus i bawb."

'Pwyllo' cyn newid

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru, dywedodd cyn-gadeirydd Plaid Cymru a'r cyn-Aelod Cynulliad Alun Ffred Jones oni bai bod "cynllun clir yngl欧n 芒 be sy'n digwydd wedyn", fe ddylai Adam Price "yn sicr" aros yn ei swydd.

"Mae fel newid rheolwyr timau yn y Premiership - peidiwch 芒 newid y rheolwr oni bai bod gennych chi gynllun clir iawn yngl欧n 芒 be 'dach chi'n mynd i wneud wedyn," meddai.

"Mae 'di cael ei brofi dro ar 么l tro, dydi o ddim yn gweithio, a byddwn i'n dweud yr un peth am arweinydd plaid."

Ychwanegodd: "Mae'n ddigon hawdd cael gwared ar bobl, ond beth nesaf? Beth ydych chi'n cyflwyno i'r olynydd, pwy bynnag ydy o neu hi?

"Ac felly byddwn i'n pwyllo cyn gwneud unrhyw fath o benderfyniad byrbwyll, a buaswn i'n dweud hynny wrth Adam ei hun hefyd, os oes angen dweud wrtho."

'Dim pelen grisial'

Nos Fawrth, fe ddywedodd un o aelodau Plaid Cymru yn y Senedd nad yw'n bosib rhagweld a fydd Mr Price yn arweinydd Plaid Cymru wythnos nesaf.

Wrth siarad ag ITV Wales dywedodd Llyr Gruffydd AS nad oedd ganddo "belen grisial".

Mae gwefan wedi adrodd fod Mr Price wedi cytuno i ildio'r awenau fel arweinydd y blaid.

Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddwyd adroddiad Nerys Evans, a ddywedodd bod yn rhaid i'r blaid ddadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth.

Fe wnaeth aelodau o'r Senedd gynnal trafodaethau nos Fawrth i drafod canfyddiadau'r adroddiad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Adam Price wedi bod yn arweinydd Plaid Cymru ers 2018

Yr wythnos ddiwethaf, adeg cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Mr Price na fyddai'n ymddiswyddo.

Wrth siarad ar raglen Sharp End ITV Cymru fe wrthododd Mr Gruffydd, AS Gogledd Cymru a chadeirydd gr诺p Plaid Cymru yn y Senedd dweud a oedd y gr诺p yn gefnogol i Mr Price.

"Dwi ddim am fynd i drafodaeth o'r fath," meddai.

"Nid un person yn unigol sy'n gyfrifol am hyn - mae hwn yn fater corfforaethol ehangach y mae'n rhaid i Blaid Cymru ddelio ag ef."

Gadael fel arweinydd ar unwaith?

Wrth gael ei holi a fydd Mr Price yn arweinydd erbyn wythnos nesaf dywedodd Mr Gruffydd: "Does gen i ddim pelen grisial ond yr hyn rwy'n ei wybod yw mai ein blaenoriaeth yw gwneud yn si诺r ein bod yn ymateb yn y ffordd fwyaf positif i'r cyhuddiadau sydd wedi cael eu gwneud yn yr adroddiad."

Nos Fawrth roedd gwefan Nation.Cymru yn adrodd bod Adam Price wedi cytuno i gamu lawr fel arweinydd.

Yn 么l y wefan deallir ei fod ef am adael y swydd ar unwaith - ond bod eraill am i'r broses o drosglwyddo'r arweinyddiaeth fod yn fwy trefnus.

Doedd llefarwyr ar ran Plaid Cymru ddim am ymateb i gais am sylw ar yr erthygl nos Fawrth.

Ond dywedodd ffynhonnell wrth 大象传媒 Cymru fod yna drafodaethau a fyddai Mr Price yn ymddiswyddo'n yn syth neu a fyddai'n aros tan bod olynydd wedi ei benodi.

Yr wythnos ddiwethaf yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad dywedodd yr arweinydd, Adam Price, na fyddai yn ymddiswyddo a'i fod am weithio i drwsio problemau yn y blaid.

'Pryd y dylai fynd?'

Dywedodd Martin Shipton o wefan Nation.Cymru wrth y 大象传媒: "Roedd aelodau gr诺p y Senedd yn trafod nid a ddylai Adam Price fynd ond pryd y dylai fynd.

"Mae'n ymddangos na chafwyd datrysiad ar unwaith."

Ychwanegodd bod Mr Price wedi bod o dan gryn bwysau.

Disgrifiad,

Y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis fu'n trafod ar raglen Dros Frecwast

"Ni all hyn fynd ymlaen," meddai Mr Shipton. "All y blaid ddim parhau fel hyn.

"Mae'r honiadau o aflonyddu rhywiol a bwlio wedi bod yn s茂on ers tro bellach.

"Mae wedi cyrraedd y pwynt lle mae'r blaid wedi cael ei boddi gan yr honiadau."

'Dim ffordd 'n么l'

Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis ar Dros Frecwast fod y pwysau ar Mr Price wedi "cynyddu dros y dyddiau a'r oriau diwethaf".

"Fi'n credu o'dd Adam Price yn gw'bod o'dd y sefyllfa yn un anodd iawn iddo fe, yn bersonol, fel arweinydd," dywedodd.

"O'dd e 'di cymryd y dewis 'na i aros fel arweinydd, ond ar ddiwedd y dydd, fi'n credu bod 'na bwysau 'di bod.

"Sa i'n credu fydde' Adam Price yn darllen colofnau a gwrando ar beth mae'r gwrthbleidiau'n gweud, ond bydde' fe yn ymateb i beth mae ASau Plaid Cymru'n gweud a chynghorwyr gwahanol.

"Mae'n eitha' clir nawr fod y sefyllfa yn un fregus. 'Smo chi'n gallu gweld ffordd 'n么l, sai'n credu, i Adam Price."

Ar hyn o bryd mae gan Blaid Cymru dri AS yn San Steffan a 12 Aelod o'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Plaid Cymru yw'r drydedd blaid fwyaf yn Senedd Cymru, y tu 么l i'r Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr.

Sefydlwyd cytundeb cydweithredu yn 2021 gyda gweinidogion Llafur Cymru ar 46 maes polisi.